Cynnal helfa ffantasi fyw yng Nghastell Caeriw

Posted On : 24/09/2025

Dros y penwythnos, bydd Castell Caeriw yn troi’n fyd amgen o’r 18fed ganrif wrth i The Storymaster's Tales gyflwyno Folklore Realms – antur fyw unigryw.

Mae’r digwyddiad, sydd wedi ei greu gan Oliver McNeil, awdur a dylunydd gemau enwog, yn gwahodd chwaraewyr dros 7 oed i fentro i fyd y dreigiau, lle byddant yn dod ar draws maglau, trysor a chymeriadau bythgofiadwy.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Nid sioe i’w mwynhau wrth eistedd yw Folklore Realms – mae’n fyd newydd y gallwch gamu i mewn iddo. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o’r fath. Mae’n mynd i fod yn wledd i unrhyw un sy’n caru straeon ffantasi, neu sy’n hoff o roi cynnig ar weithgareddau gwahanol.”

Rydym yn annog cyfranogwyr i wisgo fel dewin, môr-leidr, heliwr neu dylwythen deg ac ymuno yn yr hwyl.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y profiad ymdrochol hwn, bydd yr ymwelwyr yn cael cyfle i grwydro atyniadau eraill Caeriw, gan gynnwys yr unig Felin Heli sydd wedi ei hadfer yng Nghymru ac Ystafell De Nest – caffi clyd yn yr ardd furiog sy’n gwerthu prydau a chacennau cartref a diodydd.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sul 28 Medi a bydd modd cofrestru o hanner dydd ymlaen. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 1pm. Mae tocynnau’n costio £7 y pen, a chodir pris mynediad arferol i’r Castell. Rhaid archebu lle ar www.storymasterstales.com/live.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac i chwilio am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.