Cyllid newydd yn hwb i adferiad byd natur ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae Cysylltiadau Naturiol, prosiect newydd tair blynedd o hyd, wedi ei lansio i warchod ac adfer cynefinoedd allweddol ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r prosiect wedi cael grant o £995,542 gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei darparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd Cysylltiadau Naturiol yn canolbwyntio ar wrthdroi’r dirywiad sydd wedi bod mewn bioamrywiaeth drwy wneud gwaith cadwraeth wedi ei dargedu, cydweithio â thirfeddianwyr ac annog y gymuned i gymryd rhan.
Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, bydd y prosiect yn blaenoriaethu safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt, gan gynnwys glaswelltiroedd cyfoethog ei rywogaethau, rhostiroedd gwlyb, mawnogydd, coetiroedd a llethrau arfordirol. Bydd y gwaith adfer yn digwydd mewn 17 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, chwech o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a thirweddau gwarchodedig eraill lle mae cynefinoedd wedi dirywio neu’n rhanedig.
Dywedodd Mary Chadwick, Swyddog Cadwraethol Awdurdod y Parc: “Mae’r cynefinoedd hyn yn werthfawr iawn, ond mae nifer ohonynt wedi dirywio dros amser o ganlyniad i bwysau naturiol a dynol. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle ystyrlon i ni adfer y cynefinoedd hyn – drwy greu partneriaethau, gweithredu’n ymarferol, a darparu gofal tymor hir.”
Bydd y gwaith yn cynnwys clirio prysgwydd, torri coetir yn strategol er mwyn atal tân, a chyflwyno trefn bori gynaliadwy a fydd yn cael ei chefnogi gan seilwaith newydd fel ffensys a chyflenwad dŵr. Byddwn ni’n mynd i’r afael â rhywogaethau anfrodorol goresgynnol fel Jac y Neidiwr a’r cotoneaster ym mhob un o’n safleoedd allweddol drwy gynnal ymdrechion rheoli ar y cyd dan arweiniad staff, contractwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig.
Mae’r cyhoedd yn rhan ganolog o’r prosiect hwn a bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni tasgau cadwraeth ymarferol, monitro rhywogaethau a rheoli rhywogaethau goresgynnol. Bydd y prosiect hefyd yn creu dwy swydd dan hyfforddiant newydd am gyfnod penodol o flwyddyn, yn ogystal â Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r bylchau yn sgiliau’r sector a chefnogi gyrfaoedd gwyrdd yn y dyfodol.
Dywedodd Joy Arkley, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Awdurdod y Parc: “Mae pobl yr un mor bwysig i’r prosiect hwn â llefydd. Drwy roi offer, profiad a hyder i bobl gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth, rydym ni’n creu gwaddol parhaol i’n tirweddau ac i’r cymunedau sy’n gofalu amdanynt.”
Bydd yr Awdurdod hefyd yn gweithio’n agos â thirfeddianwyr er mwyn gwella cyflwr cynefinoedd ar dir sy’n eiddo preifat, a chynnig cyngor penodol i’r safle, grantiau cyfalaf i wella bioamrywiaeth a hyfforddiant ym maes rheoli tir yn gynaliadwy. Y nod yw cefnogi stiwardiaeth tymor hir a helpu ffermwyr i baratoi at Gynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei lansio ar 1 Ionawr 2026. Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disodli Cynllun y Taliad Sylfaenol, a bydd yn gwobrwyo arferion natur-gyfeillgar, fel adfer cynefinoedd, plannu coed a gwella bioamrywiaeth.
Byddwn ni’n datblygu mesurau sensitif i reoli mynediad at safleoedd allweddol er mwyn peidio â tharfu ar adar y môr a morloi sy’n bridio. Bydd y mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn llefydd hamdden, a thir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn bennaf, gan gynnwys Maes Tanio Castellmartin.
Ychwanegodd Mary Chadwick: “Bwriad y prosiect hwn yw creu newid parhaol. Drwy adfer cynefinoedd a bywyd gwyllt a rhoi cyfle i’r gymuned feithrin sgiliau, rydym ni’n gosod y sylfaeni ar gyfer adferiad byd natur tymor hir. Bydd y manteision hyn yn parhau ymhell wedi i’r prosiect hwn ddod i ben – mae’r manteision yn cynnwys partneriaethau cryf, data gwell, ac ymrwymiad cyffredin i warchod y lle arbennig hwn.”
