Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar safleoedd 28 diwrnod ar gyfer carafanio a gwersylla i ddod i rym o 1 Ionawr 2026 ymlaen
Mae tirfeddianwyr a gweithredwyr safleoedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael eu hatgoffa y bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, carafanio a chartrefi symudol yn dod i rym o ddydd Iau 1 Ionawr 2026 ymlaen.
O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd angen caniatâd cynllunio ar safleoedd 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, carafanio a chartrefi symudol yn y Parc Cenedlaethol. Bwriad y mesur, a gymeradwywyd yn gynharach eleni, yw helpu i reoli effaith gwersylla heb ei reoleiddio ar dirwedd y Parc Cenedlaethol, ei fywyd gwyllt a’i gymunedau cyfagos.
Dim ond i safleoedd 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, carafanio a chartrefi symudol y mae’r Cyfarwyddyd yn berthnasol. Nid yw’n effeithio ar weithgareddau 28 diwrnod dros dro eraill, fel ffilmio, meysydd parcio dros dro neu sawnau symudol. Bydd safleoedd ardystiedig a sefydliadau eithriedig yn dal i weithredu fel arfer.
Bydd safleoedd carafanio neu wersylla a ddefnyddir mewn cysylltiad â digwyddiadau dros dro eraill a ganiateir, fel priodasau, gwyliau, ffilmio neu sioeau amaethyddol, hefyd yn dal wedi’u heithrio rhag bod angen caniatâd cynllunio ychwanegol. Wrth benderfynu a yw gwersylla’n ategol i ddigwyddiad, bydd yr Awdurdod yn ystyried ffactorau fel trwyddedu, hysbysebu, sut mae’r safle’n cael ei ddefnyddio, a hyd y digwyddiad.
I helpu tirfeddianwyr sy’n paratoi ar gyfer tymor 2026, ni chodir ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a gyflwynir dan y Cyfarwyddyd, a bydd yr Awdurdod yn eu blaenoriaethu i leihau oedi. Mae gwasanaeth cyn gwneud cais ar gael am ddim hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio/polisiau-cynllunio/cyfarwyddyd-erthugl-41-ar-gyfer-safleoedd-28-diwrnod-ar-gyfer-gwersylla-charafannau-a-chartrefi-symudol/