Corau lleol yn dod â hwyl yr ŵyl i ddigwyddiad Goleuo Castell Caeriw
Bydd Castell Caeriw yn llawn ysbryd cymunedol y gaeaf hwn wrth i gorau a grwpiau cerddorol lleol ddod â hwyl yr ŵyl i'r arddangosfeydd Goleuo poblogaidd. Bydd Goleuo, yr arddangosfa arbennig sy’n trawsnewid Castell Caeriw yn ŵyl Nadoligaidd, yn cael ei gynnal bob penwythnos rhwng dydd Gwener 28 Tachwedd a dydd Sul 14 Rhagfyr. Dewch i grwydro drwy’r llwybrau disglair a gweld yr arddangosfeydd arbennig yn goleuo’r castell.
Bydd y gerddoriaeth fyw yn ychwanegu at yr awyrgylch hudolus, ac rydym wedi trefnu perfformiadau bob wythnos yn y Neuadd Fach. Gobeithio bod y gynulleidfa yn edrych ymlaen at glywed harmonïau corawl hyfryd, eu hoff ganeuon Nadolig, a pherfformiadau sy’n addas i’r teulu cyfan yn un o dirnodau mwyaf eiconig Sir Benfro.
Ymhlith y perfformwyr sydd wedi cadarnhau eu bod am berfformio mae Côr Gospel Ieuenctid ‘Sing’, Côr Cockles and Mussels, Côr Cymunedol Redberth, Côr Serendipity, ‘Choirs for Good’, Côr-y-Môr o Saundersfoot, Côr Ffliwtiau Cleddau, a’r deuawd acoustig ‘Tom and Abz’. Bydd y ddau grŵp poblogaidd, Quaynotes a Gioelli, hefyd yn perfformio, ac mae ambell le ar ôl o hyd i grwpiau lleol sydd yn awyddus i gymryd rhan.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Y nosweithiau corawl yw uchafbwynt Goleuo bob amser. Mae’n gyfle i’r gymuned ddod at ei gilydd i fwynhau gwledd o dalentau lleol wrth ddathlu’r Nadolig mewn lleoliad hudolus. Rydym ni’n falch iawn bod cymaint o grwpiau arbennig yn awyddus i gymryd rhan eto eleni.”
Bydd Goleuo yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw rhwng 4:30 a 7:30 bob nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul rhwng 28 Tachwedd a 14 Rhagfyr. Rhaid prynu eich tocynnau ymlaen llaw ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Croeso cynnes i unrhyw un sy’n awyddus i berfformio yn un o nosweithiau corawl Goleuo gysylltu â ni enquiries@carewcastle.com.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.castellcaeriw.com.
