Chwedlau, cerddoriaeth a hud a lledrith yn Oriel y Parc y Pasg yma
Bydd teuluoedd yn gallu camu i fyd o chwedlau, cerddoriaeth a hud a lledrith yn Oriel y Parc: Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi’r Pasg yma. Mae gennym raglen lawn dop o weithgareddau tymhorol, gweithdai creadigol a chelf leol o ddydd Sadwrn 28 Mawrth tan ddydd Sul 12 Ebrill.
Y prif weithgaredd yw Helfa Wyau Pasg y Bwystfilod Chwedlonol, sef llwybr hudolus sy’n gwahodd anturiaethwyr ifanc i archwilio’r coetir, yr iard a’r ganolfan i chwilio am wyau cudd dreigiau, griffoniaid, tylluanod a chigfrain. Ar hyd y daith, bydd angen iddynt ganfod y nodau cerddorol sydd wedi cael eu gadael ar wasgar gan y creaduriaid chwedlonol, datgelu alaw hudol a chwarae’r gân i ddatgloi eu gwobr. Bydd y llwybr ar agor drwy gydol gwyliau’r Pasg ac yn costio £4 y plentyn.
Mae’r hwyl ymarferol yn parhau gyda dwy sesiwn Gwnewch ac Ewch llawn dychymyg. Ddydd Mercher 1 Ebrill, bydd y plant yn gallu creu eu teclyn bwydo adar eu hunain i’w hongian yn yr ardd, gan ddysgu am rai o adar bach yr ardal leol a chreu taflen adnabod adar i fynd adref gyda nhw. Y dydd Mercher canlynol, 8 Ebrill, bydd y ffocws yn newid o ymwelwyr pluog i greadigaethau ffantastig, gyda gwahoddiad i’r plant greu ac addurno eu creadur cyfriniol eu hunain cyn dod ag ef yn fyw gydag adenydd sy’n chwifio. Mae’r naill sesiwn a’r llall yn rhai galw heibio, rhwng 11am a 3pm, ac yn £4 y plentyn.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae Oriel y Parc yn lle gwych i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd yn ystod y gwyliau, boed hynny drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd, crwydro’r gerddi neu alw heibio wrth ymweld â Thyddewi. Mae rhaglen y Pasg yn llawn hwyl a rhyfeddodau, gyda digon i danio dychymyg plant.”
Ochr yn ochr â’r gweithgareddau i’r teulu, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu crwydro drwy ffeiriau a fydd yn gwerthu crefftau wedi’u gwneud â llaw gan Makers Bizarre ddydd Mawrth 31 Mawrth a dydd Mawrth 7 Ebrill rhwng 10.30am a 4.30pm. Gyda mynediad am ddim, bydd detholiad o stondinwyr yn y ffeiriau, a byddant yn gwerthu crefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw.
Bydd pobl sy’n mwynhau celf hefyd yn gallu mwynhau arddangosfa wanwyn Grŵp Celf Solfach a Thyddewi, a fydd ar agor o ddydd Iau 2 Ebrill tan ddydd Mercher 8 Ebrill, 10am tan 4pm. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith gan artistiaid amatur lleol sy’n cwrdd yn wythnosol yn Solfach, a bydd elw gwerthu’r gwaith celf yn mynd i elusennau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau’r Pasg yn Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.
