Cerdded y Llwybr i’n Llesiant yn ehangu i dair sir yn 2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd cymunedau, gweithleoedd, teuluoedd a ffrindiau i gymryd rhan yn her Cerdded y Llwybr i’n Llesiant 2026, gyda digwyddiad eleni’n ymestyn ar draws tair sir am y tro cyntaf.
Bydd yr her yn cael ei chynnal ddydd Sul 10 a dydd Llun 11 Mai, a bydd cyfranogwyr yn dod at ei gilydd i ddathlu arfordir ysblennydd Gorllewin Cymru drwy gerdded a chymryd rhan mewn mathau eraill o deithio llesol, gan dynnu sylw at y cysylltiadau pwerus rhwng natur, symud a llesiant. Mae penwythnos wrth gefn (17 a 18 Mai) wedi cael ei neilltuo os bydd rhybuddion o dywydd garw.
Gan adeiladu ar adborth y llynedd, bydd y digwyddiad nawr yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod yn hytrach nag un, gan roi cyfle i fwy o bobl gymryd rhan a chreu ffenestr hirach ar gyfer dathlu, adrodd straeon a mwynhau ysbryd cymunedol ar ei orau.
Er bod her y llynedd yn canolbwyntio ar Arfordir Sir Benfro, sy’n 186 milltir o hyd, eleni bydd rhannau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn cael eu cynnwys, gan alluogi hyd yn oed mwy o gymunedau i ddathlu gyda’i gilydd.
Mae’r digwyddiad deuddydd hwn hefyd yn cynnwys adrannau hunan-dywys ar gyfer grwpiau. Gyda’r ffocws yn gadarn ar fwynhad, nid oes pwysau ar unrhyw un i orffen pob cam ac anogir cyfranogwyr i wneud yr hyn sydd o fewn eu gallu yn unig. Gyda’i gilydd, bydd yr ymdrechion hyn yn arwain at genhadaeth gyffredin i gwmpasu’r 313 milltir o arfordir ar ei hyd.
Yn ôl Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol: Mae gan yr arfordir allu rhyfeddol i godi ysbryd pobl, cysylltu cymunedau a chreu atgofion parhaol. Drwy ymestyn y digwyddiad dros ddau ddiwrnod ac i siroedd cyfagos, rydyn ni’n agor y drws i hyd yn oed mwy o bobl ddathlu’r cysylltiad hwnnw gyda’i gilydd a rhannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Unwaith eto, bydd Pure West Radio yn helpu i hyrwyddo’r her, gan helpu i ledaenu’r gair a rhannu straeon y cyfranogwyr.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/cerdded-yn-y-parc/walkability/cerdded-y-llwybr-2026/