Cais cynllunio NP/24/0198/FUL (Canolfan Antur, Trewyddel) — tynnu’r cais yn ôl

Posted On : 20/01/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gallu cadarnhau bod y cais cynllunio NP/24/0198/FUL am Ganolfan Antur arfaethedig yn Nhrewyddel wedi cael ei dynnu’n ôl gan yr ymgeisydd.

O ganlyniad i hyn, ni fydd yr Awdurdod yn cymryd unrhyw gamau pellach ar y cais ac ni fydd yn bwrw ymlaen i wneud penderfyniad. Bydd ffeil yr achos yn cael ei diweddaru yn unol â hynny, ac ni fydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn ystyried y cais.

Mae’r ymgeisydd wedi nodi efallai y bydd yn dewis cyflwyno cais newydd neu amgen ar gyfer y safle yn y dyfodol, a fyddai’n ymgorffori’r adeilad sydd eisoes yno. Byddai unrhyw gyflwyniad o’r fath yn cael ei drin fel cais ar wahân ac yn cael ei brosesu yn y ffordd arferol. Os cyflwynir cais newydd, bydd y partïon perthnasol yn cael gwybod ac yn cael cyfle i roi sylwadau.

Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn y broses gynllunio.

Os oes gennych chi ragor o ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Datblygu ar mailto:DC@pembrokeshirecoast.org.uk