Cadarnhau dyddiad newydd ym mis Hydref ar gyfer her gymunedol Llwybr yr Arfordir ar ôl gohirio

Posted On : 26/09/2025

Bydd y digwyddiad Cerdded y Llwybr i’n Llesiant – a ohiriwyd fis diwethaf oherwydd tywydd garw – yn cael ei gynnal ddydd Gwener 17 Hydref, a bydd grwpiau cymunedol ac unigolion o bob rhan o Sir Benfro yn cerdded Llwybr yr Arfordir, sy’n 186 milltir o hyd, mewn un diwrnod.

Mae’r her yn agored i bobl o bob gallu, ac yn annog pobl i symud ym mha bynnag ffordd sy’n gweddu iddyn nhw orau. Mae croeso i gyfranogwyr godi arian at elusen o’u dewis, neu fanteisio ar y cyfle i fwynhau antur. Bydd nifer yn dewis cerdded y llwybr, ond bydd eraill yn beicio, yn nofio, yn defnyddio offer symudedd neu’n ymuno ar-lein. Rydym ni wedi addasu’r llwybrau i ddiwallu anghenion yr unigolion sy’n cymryd rhan.

Rydym yn gwahodd sefydliadau, ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol i ddewis gwahanol rannau o’r Llwybr Arfordir i’w cerdded neu i ddewis llwybr amgen o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae natur yn aml yn mynd yn groes i’n cynlluniau ni, ond mae digonedd o frwdfrydedd dros y digwyddiad hwn o hyd. Mae’r her yn golygu mwy na chwblhau’r milltiroedd – mae’n gyfle i gysylltu, i fod yn greadigol ac i rannu profiadau. Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn ysbrydoledig ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld cynifer o bobl yn dod at ei gilydd ar y dyddiad newydd.”

Gall y bobl oedd wedi cofrestru yn ystod yr alwad gyntaf gwblhau’r un llwybr a ddyfarnwyd iddynt y tro diwethaf. Dylai cyfranogwr newydd gysylltu ag angelar@arfordirpenfro.org.uk i gael rhagor o fanylion ac arweiniad.

Rydym yn annog pawb sy’n bwriadu cymryd rhan i rannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu lluniau a fideos a defnyddio’r hashnod #LlwybryrArfordir. Cofiwch dagio @ArfordirPenfro.

I’n helpu ni i ledaenu’r neges, mae Pure West Radio yn gwahodd grwpiau i rannu eu cynlluniau gyda Toni ar WhatsApp: 07511 737235. Rydym yn annog y cerddwyr i gefnogi ei gilydd ar y diwrnod drwy rannu fideos a chlipiau sain i ddod ag ysbryd y digwyddiad yn fyw ledled y sir.

Rydym yn cynghori pawb sydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad i gael cynllun wrth gefn, gan fod rhai rhannau o’r Llwybr yn gallu bod yn heriol, hyd yn oed mewn tywydd braf. Os bydd rhybuddion am dywydd garw ar y diwrnod, bydd yr her yn cael ei gohirio tan 2026.

Mae Cerdded y Llwybr i’n Llesiant yn gyfle i ddathlu Arfordir a chymunedau Sir Benfro, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd crwydro gyda’n gilydd ym myd natur.

I gael gwybod am ragor o gyfleoedd cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac i gael gwybodaeth am ein hamrywiaeth o lwybrau hygyrch, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/teithiau-gwe.