Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn lansio her ‘Cerdded y Llwybr i Lesiant’
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd ffrindiau, cydweithwyr a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn her uchelgeisiol i ddathlu Llwybr Arfordir Penfro sy’n 186 milltir o hyd.
Mae her Cerdded y Llwybr i Llesiant yn gwahodd pobl o bob cefndir i ddod at ei gilydd ddydd Gwener 12 Medi, i gerdded y Llwybr yn ei gyfanrwydd. Bydd pob grŵp yn cerdded, yn nofio neu’n padlo rhannau gwahanol o’r Llwybr er mwyn cyfrannu at yr her.
Bwriad y digwyddiad yw tynnu sylw at y ffordd y mae Llwybr yr Arfordir yn gallu cefnogi iechyd, llesiant a chysylltiad unigolion â natur, yn ogystal ag uno cymunedau drwy roi targed iddynt ei gyflawni ar y cyd.
Un cais fydd angen i bob tîm ei gyflwyno. Bydd rhan o’r Llwybr yn cael ei ddynodi i bob tîm ar sail eu gallu, a’r bwriad yw cwblhau’r llwybr arfordir i gyd gyda’n gilydd. Rydym ni’n disgwyl i fwyafrif y cyfranogwyr gerdded y Llwybr, ond mae croeso iddynt gwblhau eu hadran nhw drwy badlo, neu nofio, os yw hynny’n addas.
Bydd lleoliadau yn cael eu dynodi i dimau er mwyn sicrhau ein bod yn cwblhau’r Llwybr i gyd, ond mae gan dimau’r rhyddid i drefnu pryd fyddan nhw’n dechrau ar eu taith a pha mor gyflym fyddan nhw’n cerdded.
Yn ôl Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Os ydych chi’n dîm bach o ffrindiau, yn gydweithwyr o weithle lleol neu’n aelodau o grŵp cymunedol, mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu i fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl ar eich cyfer. Mae croeso i gyfranogwyr godi arian at elusen o’u dewis, neu fanteisio ar y cyfle i ddathlu harddwch Sir Benfro.”
Bydd staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cymryd rhan yn ystod y diwrnod ac maen nhw’n annog timau o bob rhan o’r sir–a’r tu hwnt–i gymryd rhan.
Ychwanegodd Angela Robinson:
“Mae Llwybr Arfordir Penfro yn fwy na llwybr yn unig – mae’n uno cymunedau, tirweddau, ac unigolion. Mae Cerdded y Llwybr i Lesiant yn gyfle i ddathlu hynny, ac i atgoffa ein hunain mor lwcus ydym ni o gael rhywle o’r fath ar garreg ein drws.”
Bydd adnodd digidol arbennig ar gael i helpu timau i baratoi at y diwrnod mawr, i gael gwybod am unrhyw beryglon posibl, ac i rannu straeon, lluniau a fideos. I gofrestru ar gyfer her Cerdded y Llwybr i Lesiant, neu i gael rhagor o fanylion, ewch i bit.ly/LlwybrILesiant.
Mae’r digwyddiad yn chwilio am noddwyr. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag Angela Robinson: angelar@arfordirpenfro.org.uk.
