Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ehangu cynllun Cadeiriau Olwyn ar y Traeth diolch i ymdrechion codi arian ysbrydoledig teulu

Posted On : 27/10/2025

Mae cadair olwyn newydd ar gyfer y traeth wedi ei hychwanegu at gasgliad o offer symudedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’r diolch am hynny yn mynd i ymdrechion arbennig un teulu oedd yn codi arian er cof am unigolyn annwyl iawn iddynt.

Mae’r gadair olwyn newydd, sydd wedi’i lleoli ym Maenorbŷr, yn rhan o ymdrech ehangach gan Awdurdod y Parc i wella mynediad at safleoedd awyr agored i bobl sy’n cael anhawster symud.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn enwog am ei arfordir syfrdanol, ond mae gan y parc enw da hefyd am ymdrechu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fwynhau’r ardaloedd arfordirol trawiadol hyn. Rhan allweddol o’r ymdrech hon yw’r casgliad amrywiol o offer symudedd sydd ar gael gan yr Awdurdod, gan gynnwys cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth. Mae’r cadeiriau olwyn arbennig hyn wedi ei gwneud hi’n haws i lawer mwy o bobl gael mynediad at ardaloedd arfordirol; maent wedi galluogi rhai pobl i fynd i’r traeth am y tro cyntaf, ac mae eraill wedi teimlo awel y môr unwaith eto ar ôl meddwl na fyddai hynny’n bosibl.

Dim ond drwy haelioni busnesau lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n cadw’r offer, yn codi arian ac yn helpu i benderfynu beth sydd ei angen, y mae’r gwasanaeth hanfodol hwn yn bosibl.

Cafodd y gadair ddiweddaraf ei hychwanegu at gasgliad y Parc er cof am Fiona Hutchinson, a fu farw ym mis Mehefin 2024.

Roedd Fiona yn byw â salwch prin oedd yn golygu ei bod wedi gorfod defnyddio cadair olwyn am 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi’n dal yn hoff iawn o dreulio amser yn yr awyr agored gyda’i theulu.

Meddai ei mab, Stuart Hutchinson: “Rydym ni wedi cael sawl gwyliau gwych fel teulu dros y blynyddoedd. Roedd Mam wrth ei bodd yn cael mynd i’r traeth gyda ni, ac roedd hi’n defnyddio’r cadeiriau olwyn arbennig oedd ar gael mewn gwahanol leoliadau.”

Er cof amdani, mae teulu Fiona wedi bod yn codi arian ers dros flwyddyn i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau’r un profiadau. Llwyddodd y teulu i godi swm anhygoel o bron i £4,000 i Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro a defnyddiwyd yr arian i brynu cadair olwyn D-Bug newydd sbon ar gyfer y traeth. Bydd y gadair olwyn newydd yn cael ei chadw ym Maenorbŷr – y lleoliad diweddaraf i ymuno â’r cynllun. Mae’r gymuned leol yn falch iawn o gael cadw’r offer ac yn edrych ymlaen at weld yr holl gyfleoedd fydd hyn yn ei roi i ymwelwyr.

Ychwanegodd Stuart: “Diolch i haelioni teulu a ffrindiau fy Mam, bydd llawer mwy o bobl yn gallu creu atgofion gwerthfawr ar y traeth gyda’u hanwyliaid, yn union fel y gwnaethom ni.”

Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau cefnogi’r prosiect – drwy godi arian neu roi o’u hamser a rhannu eu harbenigedd i gysylltu ag Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod y Parc: angelar@pembrokeshirecoast.org.uk.

Ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau/ i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o offer symudedd sydd ar gael i’w llogi mewn lleoliadau ledled y Parc Cenedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro ar gael yma: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.