Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Cymeradwyo Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) i Reoli Safleoedd Gwersylla a Charafannau 28 diwrnod
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) er mwyn dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd gwersylla, carafannau, a chartrefi symudol 28 diwrnod yn y Parc Cenedlaethol.
Gwnaethpwyd y penderfyniad yng nghyfarfod yr Awdurdod ddydd Mercher 7 Rhagfyr, ac mae’n dynodi cam pwysig ymlaen wrth fynd i’r afael ag effeithiau gwersylla dros dro heb ei reoleiddio ar dirweddau ac ecosystemau gwarchodedig y Parc.
Mae’r mesurau newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr a gynhaliwyd dros 3 mis yn 2024, ac ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025. Nod y cynigion oedd mynd i’r afael ag amrywiaeth o bryderon ynghylch y sefyllfa bresennol, gan gynnwys yr effaith weledol ar y dirwedd, bygythiadau i fioamrywiaeth, a phwysau ar seilwaith lleol – ac yn eu plith broblemau fel sŵn, tagfeydd traffig, a mathau eraill o aflonyddwch o safleoedd gwersylla a charafannau dros dro gerllaw.
Mae’r datganiad eglurhad y cytunwyd arno ym mis Mawrth 2024 yn cadarnhau mai dim ond i safleoedd gwersylla, carafannau a chartrefi symudol 28 diwrnod y bydd y cyfyngiadau arfaethedig yn berthnasol. Ni fydd hyn yn effeithio ar fathau eraill o ddefnydd 28 diwrnod dros dro, fel meysydd parcio dros dro, a sawnau symudol. Ni fydd hyn yn effeithio ychwaith ar safleoedd sy’n gweithredu dan dystysgrif eithrio neu fel rhan o sefydliadau esempt.
Mae’r datganiad hefyd yn egluro na fydd angen caniatâd cynllunio ychwanegol i wersylla neu garafanio mewn cysylltiad â digwyddiadau dros dro eraill a ganiateir, fel priodasau, gwyliau, ffilmio neu sioeau amaethyddol. Wrth benderfynu a yw gwersylla’n ategol i ddigwyddiad, bydd yr Awdurdod yn ystyried ffactorau fel trwyddedu, hysbysebu, pa gyfran o’r safle sy’n cael ei ddefnyddio, a hyd y digwyddiad.
Bydd cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rhoi’r pwerau i’r Awdurdod allu ei gwneud hi’n ofynnol i safleoedd gwersylla carafanio, a chartrefi symudol 28 diwrnod gael caniatâd cynllunio. Bydd hyn yn sicrhau bod eu lleoliad a’u gweithrediad dyddiol yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gwarchod amgylchedd unigryw’r Parc Cenedlaethol.
Daw Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rym ddydd Mercher 1 Ionawr 2026. Bydd hyn yn rhoi amser i dirfeddianwyr a gweithredwyr safleoedd ddeall y rheolau newydd a chyflwyno unrhyw geisiadau cynllunio angenrheidiol cyn tymor 2026. Ni fydd ffioedd yn berthnasol i’r ceisiadau hyn, a bydd yr Awdurdod yn eu blaenoriaethu i leihau oedi. Bydd gwasanaeth cyn gwneud cais am ddim hefyd ar gael yng nghyswllt y cynigion hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar safleoedd presennol sydd â chaniatâd cynllunio na’r rhai sy’n gweithredu o dan dystysgrifau eithrio.
Yn ychwanegol at Gyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yr awdurdod yn ymgysylltu â sefydliadau sydd wedi eu heithrio er mwyn datblygu Cod Ymddygiad gwirfoddol. Bydd hyn yn sicrhau bod y safleoedd sydd wedi eu heithrio yn dal ati i weithredu mewn ffordd gyfrifol yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol, ac yn cydweithio i warchod y Parc Cenedlaethol.
Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad i’w gweld yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/ymgynghoriadau-cyhoeddus/