Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lansio rhaglen ffermio arloesol

Posted On : 20/05/2025

Mae cynllun newydd wedi’i lansio i helpu ffermwyr a thirfeddanwyr ledled y Parc Cenedlaethol i gydweithio – gan wella cynefinoedd, diogelu bywyd gwyllt ac adeiladu gwydnwch tymor hir i’r dirwedd.

Mae Ffermio Bro, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2028, yn rhan o ymdrech ehangach i gryfhau rheolaeth tir gydweithredol ar draws Tirweddau Dynodedig Cymru.

Wedi’i wreiddio yn y gymuned ffermio, mae’r cynllun yn dod â phobl ynghyd i gyflawni gwelliannau amgylcheddol ystyrlon – gan gefnogi dulliau sy’n gyfeillgar i natur a helpu i greu ecosystemau iach, cysylltiedig ledled y Parc.

Dywedodd Arwel Evans, Swyddog Cyswllt Cadwraeth Ffermydd gyda’r Awdurdod Parc Cenedlaethol:

“Mae gan Sir Benfro dreftadaeth amaethyddol gyfoethog sydd wedi siapio ein tirwedd – o’r llaeth a’r cig eidion a gynhyrchir ar borfeydd toreithiog, i’n ‘Tato Newy’ enwog. Bu ffermwyr yn warcheidwaid y tir ers cenedlaethau, a thrwy ein cynllun newydd, Ffermio Bro, rydym yn gobeithio eu cefnogi i adeiladu mentrau gwydn wrth helpu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad i ffynnu unwaith eto yn y dyfodol.”

Mae’r cynllun yn cynnig sawl ffordd i dirfeddanwyr a ffermwyr gydweithio, yn dibynnu ar eu lleoliad a’u blaenoriaethau ar y cyd. Bydd rhai prosiectau yn canolbwyntio ar nodau thematig, gyda ffermydd ledled y Parc yn gweithio tuag at ganlyniadau cyffredin heb fod angen ffurfio clwstwr ffurfiol. Gall eraill gynnwys cydweithio yn ôl dalgylch, lle mae ffermydd ar hyd yr un afon neu nant yn cydgysylltu ymdrechion i wella ansawdd dŵr. Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer gwaith lleol, megis mentrau ar y cyd ar dir comin neu brosiectau sy’n helpu i gysylltu cynefinoedd ar draws y dirwedd.

Bydd ceisiadau am gyllid o dan £10,000 yn cael eu hasesu gan dȋm Ffermio Bro, tra bydd prosiectau mwy yn mynd gerbron panel pwrpasol.

Mae Ffermio Bro yn canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau cysylltiedig sy’n cefnogi rheolaeth dir gynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys gwella rheolaeth dŵr croyw i ddiogelu afonydd, nentydd ac ecosystemau dyfrol; hyrwyddo technegau ffermio adfywiol sy’n meithrin iechyd pridd ac yn cefnogi cynhyrchu bwyd hirdymor; a gwarchod tir pori cymunedol drwy ddiogelu tir comin.

Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi adfer ffiniau traddodiadol, megis perthi a waliau cerrig sy’n nodwedd nodedig o dirlun Sir Benfro. Yn ogystal, mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n helpu i warchod ac i wella bywyd gwyllt y Parx drwy amddiffyn rhywogaethau penodol.

Ychwanegodd Arwel Evans:

“Mae’r cynllun yma’n cael ei lywio gan ffermwyr – ac rydyn ni’n croesawu pob syniad da am wella cynefinoedd a gofalu am fywyd gwyllt.”

Gall ffermwyr a thirfeddanwyr o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro nawr gyflwyno Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer y ffenestr gyllido nesaf, sy’n cau ddydd Llun 23 Mehefin 2025.

Am fwy o wybodaeth neu i gychwyn cais, cysylltwch â thȋm Ffermio Bro drwy ebostio ffermiobro@arfordirpenfro.cymru neu llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn www.arfordirpenfro.cymru/ffermio-bro.

A herd of Friesan cows grazing on a clifftop