Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Gwella ei Bresenoldeb Ar-lein i Helpu i Fynd i’r Afael â Throseddau Treftadaeth
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi lansio presenoldeb ar-lein newydd ar gyfer Gwarchod Treftadaeth, gan ei gwneud yn haws i’r cyhoedd ymgysylltu ag ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau treftadaeth yn yr ardal.
Mae tudalen we ddiweddaraf y prosiect bellach yn fyw, wedi’i hategu gan sianeli cyfryngau cymdeithasol ar eu newydd wedd. Gallwch ddilyn Heritage Watch Dyfed-Powys ar Facebook a @heritage_watch_dyfed_powys ar Instagram. Mae diweddariadau Cymraeg hefyd ar gael drwy ddilyn @GwarchodTreftadaeth ar Facebook a @gwarchodtreftadaeth ar Instagram.
Mae’r llwyfannau hyn yn darparu gwybodaeth hygyrch, canllawiau ymarferol a llwybrau clir ar gyfer riportio digwyddiadau neu gamu i mewn.
Menter gydweithredol yw Gwarchod Treftadaeth sy’n cael ei harwain yn lleol gan Awdurdod y Parc, gan weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, Cadw, a phartneriaid eraill. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o safleoedd treftadaeth agored i niwed, yn annog pobl i riportio, yn darparu hyfforddiant, yn monitro safleoedd sydd mewn perygl, ac yn cefnogi gwaith atgyweirio yn dilyn difrod troseddol. Mae rhanddeiliaid yn cwrdd yn rheolaidd i gydlynu ymdrechion a rhannu arferion gorau.
Mae troseddau treftadaeth yn cynnwys unrhyw weithgarwch anghyfreithlon sy’n niweidio adeiladau hanesyddol, henebion, tirweddau neu safleoedd archaeolegol. Mae troseddau’n amrywio o yrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd i fandaliaeth a dwyn, cynnau tân heb awdurdod, canfod metel yn anghyfreithlon, a difrodi safleoedd rhestredig neu gofrestredig, a gall pob un o’r rhain arwain at oblygiadau cyfreithiol.
Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o warchod treftadaeth. Dylid riportio troseddau a amheuir i Heddlu Dyfed-Powys – ar-lein neu drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng. Wrth wneud hynny, soniwch am “Op Heritage Cymru”, y fenter genedlaethol sy’n uno holl heddluoedd Cymru yn erbyn troseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol. Mae’r cynllun hefyd yn helpu i wella prosesau cofnodi troseddau, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a sicrhau adroddiadau cyson ar hyd a lled Cymru.
Drwy roi’r gair ar led a bod yn wyliadwrus, gall y cyhoedd helpu i ddiogelu mannau hanesyddol gwerthfawr Sir Benfro.