Ariannu dyfodol byd natur: Cynllun grantiau Gweithredu dros Natur yn ailagor ar gyfer 2025
Gwahoddir grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau tref a chymuned, ysgolion a busnesau ledled Sir Benfro i wneud cais i gynllun grant poblogaidd Gweithredu dros Natur, sydd bellach wedi ailagor i dderbyn ceisiadau ar gyfer 2025.
Sefydlwyd y cynllun gan Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro, ac mae’n cynnig grantiau o hyd at £4,000 i gefnogi prosiectau sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i’r amgylchedd ac i gadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu o’i gwmpas. Gall prosiectau cymwys gynnwys mentrau sy’n gwella bioamrywiaeth, sy’n creu neu’n gwella mannau gwyrdd, sy’n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, neu sy’n gwarchod ac yn adfer cynefinoedd naturiol.
Ers ei lansio yn 2021, mae’r cynllun Gweithredu dros Natur wedi cefnogi 41 o brosiectau ledled Sir Benfro, o erddi cymunedol a chreu cynefinoedd i erddi llesiant a mannau gwyrdd sy’n dod â budd i bobl ac i fywyd gwyllt.
Mewn rowndiau cyllido blaenorol rydym wedi gweld ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yn creu mannau sy’n ystyriol o fywyd gwyllt, yn plannu dolydd, ac yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol yn eu hardaloedd lleol.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro:
“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi mai dyma ein rownd fwyaf o gyllid eto, sy’n ein galluogi ni i gefnogi hyd yn oed mwy o brosiectau ledled Sir Benfro. Mae llwyddiant grantiau Gweithredu dros Natur yn y gorffennol wedi dangos pa mor frwdfrydig a rhagweithiol yw cymunedau lleol o ran gofalu am eu hamgylchedd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth ddaw eleni.”
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 11.59pm ar ddydd Llun 8 Medi 2025. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod o fewn pedair wythnos i’r dyddiad cau. Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 2 Mawrth 2026. Nid oes angen arian cyfatebol.
Mae ffurflenni cais, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gael yn: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/effaith/gwneud-cais-am-gyllid/.
Darperir cyllid ar gyfer y cynllun drwy’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ddarperir gan CGGC.
Mae Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr – rhif elusen 1179281.
