Arddangosfa newydd o’r enw Môrwelion yn agor yn Oriel y Parc

Posted On : 08/07/2025

Bydd arddangosfa drawiadol newydd, Môrwelion / The Sea Horizon, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf. Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith Garry Fabian Miller, yr artist enwog o Brydain.

Dros y pedwar degawd diwethaf mae Fabian Miller wedi ceisio defnyddio celf fel cyfrwng i gyfleu ein diddordeb yn y gorwel – y pwynt hwnnw ble mae’r tir, y môr a’n dychymyg yn cwrdd.

Mae’r arddangosfa hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, ac yn cynnwys crynodeb lawn o siwrnai artistig Miller. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffiaeth o gasgliad Môrwelion 1970 a dynnwyd ar do ei gartref yn Clevedon, yn ogystal â’i waith di-gamera diweddar sydd wedi ei greu mewn ystafell dywyll gyda golau, gwydr, dŵr a phlanhigion er mwyn creu lluniau haniaethol syfrdanol sydd wedi eu hysbrydoli gan y môr a’r awyr.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei rhannu rhwng dwy ystafell, ac mae’n gwahodd ymwelwyr i feddwl am themâu cyfnewidiol y gorwel, ac yn eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg i brofi celf ddiriaethol ar thema’r arfordir yn ogystal â’r darnau haniaethol.

An artwork showing a dark sea horizon

Dywedodd Garry Fabian Miller: Rwy’n ffodus iawn bod fy ngwaith cynharaf fel artist, sef Môrwelion, sy’n dyddio’n ôl i 1976/7 pan oeddwn i’n 19 oed, wedi cael cartref addas yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn 2023, bron i hanner canrif yn ddiweddarach. Rwy’n falch ei fod yn cael ei ddangos ar y cyd â’m myfyrdodau Ystafell Dywyll ar thema’r gorwel.

“Mae’r arddangosfa yn cael ei chynnal yng ngorllewin pell Cymru, ac fel fy nghartref yn Dartmoor, mae pobl yn meddwl amdanynt fel llefydd pell ac anghysbell. Ond, rwy’n creu mai dyma ganolbwynt y byd, ac mae modd canfod ystyr a phwrpas yma. Dylai celf fod ar gael i bawb ei brofi. Mae Oriel y Parc yn gwneud hyn yn bosibl ac rwy’n falch o gael arddangos fy ngwaith mewn lle mor unigryw.”

Bydd Oriel y Parc yn cynnal digwyddiad arbennig am 11am ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf i nodi agoriad swyddogol yr arddangosfa. Am hanner dydd bydd sgwrs rhwng Garry Fabian Miller a Dr Bronwen Colquhoun, Curadur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru.  Byddan nhw’n trafod y broses greadigol, grym tirwedd, a phwysigrwydd oesol y gorwel mewn celf ac mewn bywyd.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae gwaith Garry Fabian Miller yn cyfleu ein perthynas gyda’r arfordir – a’r ffordd y mae’r arfordir yn gallu ein hysbrydoli, ein llonyddu a’n cysylltu ni â rhywbeth mwy.  Rydym ni’n falch iawn fod Môrwelion / The Sea Horizon wedi cyrraedd Oriel y Parc, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at rannu lluniau syfrdanol y casgliad gyda’n hymwelwyr.”

Bydd yr arddangosfa ar agor tan Wanwyn 2026. Mynediad am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ar www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

The artist working in his studio

Garry Fabian Miller yn gweithio yn ei stiwdio © Howard Sooley