Anturiaethau yng Nghastell Caeriw ym mis Awst
Mae'r haf wedi cyrraedd Castell Caeriw, lle bydd y castell hanesyddol yn adleisio â sŵn cleddyfau, straeon ac antur ymarferol tan fis Medi.
O heriau canoloesol a helfa drysor i anturiaethau byw, gall ymwelwyr edrych ymlaen at ddyddiau llawn cyffro, darganfod a gwefr hanes.
Bydd Diwrnodau Antur Canoloesol yn llenwi’r Castell â gweithgareddau bob dydd rhwng dydd Sul a dydd Iau yn ystod gwyliau’r ysgol (ac eithrio 23 i 25 Awst). Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys Hanesion Hyll am 11am, sgwrs ryngweithiol fywiog yn llawn straeon gwaedlyd, a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth rhwng 11.30am a 3pm. Bydd Ysgol Marchogion yn rhoi cyfle i ysweiniaid ifanc ddysgu sgiliau cleddyfau a symudiadau brwydro cyn cael eu hurddo’n farchogion fel Amddiffynwyr Caeriw, a daw’r diwrnod i ben gyda Canfod yr Allwedd!, sef helfa drysor yn y prynhawn lle bydd pedair allwedd wedi’u cuddio o amgylch y Castell ond dim ond un fydd yn agor y gist i ddatgelu’r wobr.
Yn ogystal ag anturiaethau hanesyddol y Castell, mae The Storymaster’s Quests: Castell Antur yn gwahodd ymwelwyr i ymuno â byd lle daw straeon yn fyw ac mae pob penderfyniad yn bwysig. Oliver McNeil sydd wedi creu ac sy’n perfformio’r sioe ryngweithiol hon, gyda llais Tom Baker. Mae’n gosod y cynulleidfaoedd mewn stori ffantasi fyw lle mae eu dewisiadau’n siapio’r canlyniad. Mae pob chwiliad yn cyfuno chwedleua a theatr â dirgelwch chwareus, ac ni fydd dau berfformiad fyth yr un fath. Mae’r holl fanylion ar gael ar wefan Castell Caeriw.

Gall ymwelwyr sy’n chwilio am her hunan-arweiniol wynebu Antur y Bylchfuriau!, sef llwybr addas i’r teulu drwy’r Castell bob dydd. Drwy ddefnyddio ffôn clyfar i ddilyn cliwiau, bydd anturiaethwyr ifanc yn archwilio tyrau, yn datgelu cyfrinachau cudd ac yn hawlio gwobr fach – gan droi taith drwy hanes yn her ryngweithiol.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae rhaglen yr haf yn dod â’r Castell yn fyw mewn ffordd na fydd teuluoedd fyth yn ei anghofio. Mae plant wrth eu bodd yn camu i fyd y marchog, yn archwilio’r bylchfuriau ac yn cymryd rhan mewn anturiaethau y byddant yn eu cofio ymhell ar ôl y gwyliau. Mae’n ffordd wych o fwynhau’r Castell yn ystod yr haf.”
Ar wahân i’r brif raglen o ddigwyddiadau, mae cyfle hefyd i archwilio agwedd arall ar Gaeriw. Bydd y Felin Heli, sef yr unig felin heli sydd wedi’i hadfer yng Nghymru, ar agor drwy gydol y gwyliau, gan gynnig cipolwg ar orffennol diwydiannol y Castell – ac mae Ystafell De Nest yn yr Ardd Furiog ger mynedfa’r Castell yn addo dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau cartref a chinio ysgafn, felly mae’n ffordd berffaith o orffen ymweliad.
Mae manylion llawn y gweithgareddau, yr wybodaeth ar gyfer archebu, a’r prisiau mynediad ar gael ar wefan Castell Caeriw yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw.