Anturiaethau Creadigol yn Oriel y Parc i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Posted On : 09/02/2026

Bydd tân y ddraig a rhuo’r baedd yn dychwelyd i Oriel y Parc yr hanner tymor hwn, wrth i Ganolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol wahodd teuluoedd i fwynhau chwedlau, creadigrwydd a dathliadau Gŵyl Dewi.

Mae rhaglen Oriel y Parc ar gyfer yr hanner tymor a phenwythnos Dydd Gŵyl Dewi yn llawn gweithgareddau creadigol ymarferol a digwyddiadau adrodd stori, heb anghofio’r Orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, sef dathliad blynyddol mwyaf lliwgar Sir Benfro. Bydd Taith y Chwedlau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o’r orymdaith eleni.

Rhwng dydd Sadwrn 14 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth, bydd anturwyr bach yn gallu cymryd rhan yn Nhaith y Chwedlau, gan ddilyn stori’r Twrch trafferthus a’r Ddraig Goch benderfynol ar hyd Tyddewi. Gall teuluoedd chwilio am lefydd i wrando ar y stori ar hyd y daith, cwblhau’r her ac ennill gwobr. Mae taflenni’r daith ar gael yn Oriel y Parc (£4 y plentyn).

Mae digon o gyfle i fod yn greadigol yn Oriel y Parc yn ystod yr hanner tymor. Bydd yr Ystafell Ddarganfod ar agor rhwng 14 a 27 Chwefror (ac eithrio 17,18 a 19 Chwefror), a bydd sesiynau celf a chrefft rhad ac am ddim i deuluoedd yn cael eu cynnal yno. Dyma gyfle i greu penwisgoedd draig a masgiau baedd gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau celf. Mae’r sesiynau hyn yn addas i bob oed, ac yn gyfle i grefftwyr ifanc gymryd rhan yn y dathliadau dydd Gŵyl Dewi a gwisgo eu creadigaethau yn yr orymdaith.

Gweithdy ‘Gwnewch ac Ewch arbennig: Bydd y gweithdy creu Adenydd Draig a Chennin Pedr Mawr yn cael ei gynnal ddydd Mercher 18 Chwefror, rhwng 11am a 3pm. Dyma gyfle i blant greu eitemau lliwgar i’w gwisgo ar ddiwrnod yr orymdaith (£4 yr un, galw heibio).

Bydd y dathliadau yn cyrraedd uchafbwynt ddydd Sadwrn 28 Chwefror, pan fydd gorymdaith Gŵyl Dewi Tyddewi yn llenwi’r ddinas â cherddoriaeth, lliw a chreadigrwydd. Mae adrodd straeon yn rhan fawr o’r diwrnod, a bydd sesiynau adrodd straeon Taith y Chwedlau yn cael eu cynnal yng Ngardd Oriel y Parc cyn ac ar ôl yr orymdaith o 1:30pm, gan ddod â chymeriadau’r daith yn fyw i gynulleidfaoedd o bob oed.

Bydd yr orymdaith yn dechrau am 2pm, a gellir cymryd rhan yn rhad ac am ddim. Mae croeso i bawb ymuno â ni ar y stryd a chefnogi’r plant ysgol, y grwpiau cymunedol, a’r trigolion lleol wrth iddynt drawsnewid stryd fawr Tyddewi i ddathlu nawddsant Cymru. Ariennir yr orymdaith gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn annog ymwelwyr i ddod â sosbenni a ffyn taro i ychwanegu at yr awyrgylch, a gall unrhyw un gymryd rhan yn ein cystadleuaeth gwisg orau; bydd gwobr i’r plentyn a’r oedolyn sydd â’r wisg orau.

Ar ôl yr orymdaith, gall teuluoedd ddal ati i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Chlai! Bydd y gweithdy hamddenol ac ymarferol hwn, sydd wedi’i ysbrydoli gan themâu a thraddodiadau Cymru, yn cael ei gynnal rhwng 3pm a 4:30pm (£2.50 y plentyn).

Bydd Ffair Grefftau gan Makers Bizarre hefyd yn cael ei chynnal rhwng 10:30 a 4:30pm, a bydd pob math o grefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw gan stondinwyr lleol i’w gweld yno (mynediad am ddim).

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau, oriau agor, a’r rhaglen amrywiol o arddangosfeydd gan Amgueddfa Cymru ac artistiaid lleol ar gael ar https://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/ ac https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.