Lleoedd Gwyllt a Rhyfeddod
I ddathlu 75 mlynedd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 2027, rydyn ni’n gwahodd beirdd ifanc i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth arbennig.
Ysgrifennwch gerdd wedi’i hysbrydoli gan y tirweddau, y bywyd gwyllt a’ch hoff fannau yn y Parc Cenedlaethol. Clogwyni stormus, coedwigoedd tawel, hen gerrig a thraethau tywodlyd – os yw’n gwneud i chi deimlo rhywbeth, mae’n perthyn yn eich cerdd.
Gadewch i’ch geiriau grwydro. Gadewch iddyn nhw floeddio, sibrwd neu hedfan.
Categorïau oedran:
- O dan 11
- 11-16
Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi yn argraffiad 2027 O Lan i Lan a byddwch yn derbyn taleb o £50 i wario yng Nghastell Caeriw neu Gastell Henllys, yn ogystal â bag rhoddion y Parc Cenedlaethol.
Sut i gymryd rhan
Os yw’r cystadleuydd o dan 16 mlwydd oed, bydd rhaid cael caniatâd rhiant neu warcheidwad i gyflwyno’r gerdd.
Anfonwch un gerdd wreiddiol hyd at 40 llinell i poetry75@pembrokeshirecoast.org.uk erbyn 11.59PM ar 31 Rhagfyr 2026.
Cofiwch gynnwys enw cyntaf ac oedran y cystadleuydd, yn ogystal ag enw a chyfeiriad e-bost rhiant neu warcheidwad.
Mae’r telerau ac amodau llawn yn berthnasol.
Telerau ac Amodau
- Hyrwyddwr y gystadleuaeth hon yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant a phobl ifanc sy’n byw yn y Deyrnas Unedig yn y categorïau oedran canlynol:
O dan 11
11-16 - Mae rhaid i gystadleuwyr fod yn 16 mlwydd oed neu’n iau ar 31 Rhagfyr 2026.
- Does dim rhaid talu i gystadlu.
- I gystadlu, anfonwch un gerdd wreiddiol i barddoniaeth75@pembrokeshirecoast.org.uk erbyn 59pm ar 31 Rhagfyr 2026.
- Rhaid i’r gerdd fod yn ddim mwy na 40 llinell.
- Mae pob cystadleuydd yn cael cyflwyno un gerdd yn unig.
- Mae’n rhaid i’r gerdd fod yn waith gwreiddiol y cystadleuydd ac ni chaiff ymyrryd ar hawliau unrhyw un arall.
- Mae’n rhaid i’r gerdd fod wedi’i hysbrydoli gan dirweddau, bywyd gwyllt neu fannau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Rhaid i’r cynigion gynnwys:
- enw cyntaf y cystadleuydd
- oedran y cystadleuydd
- enw rhiant neu warcheidwad
- cyfeiriad e-bost rhiant neu warcheidwad
- Drwy gystadlu, mae’r rhiant neu warcheidwad yn cadarnhau eu bod wedi darllen a derbyn y telerau ac amodau hyn, ac wedi rhoi caniatâd i’r plentyn neu berson ifanc gystadlu.
- Ni fydd cynigion sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau, neu sydd ddim yn bodloni’r gofynion hyn, yn cael eu hystyried.
- Bydd cynigion yn cael eu barnu gan banel wedi’i benodi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Bydd cynigion yn cael eu barnu ar sail creadigrwydd, gwreiddioldeb ac ymateb i’r thema.
- Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar gyfer pob categori oedran. Bydd y beirniaid hefyd yn rhoi canmoliaeth arbennig i rai cynigion o bosib.
- Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth ar ôl y penderfyniad.
- Bydd gwobr yn cael ei rhoi yn y ddau gategori. Bydd y cynigion buddugol yn cael eu cyhoeddi yn argraffiad 2027 O Lan i Lan ac yn derbyn taleb o £50 i wario yng Nghastell Caeriw neu Gastell Henllys, a bag rhoddion y Parc Cenedlaethol. Ni fydd opsiwn arian yn cael ei gynnig.
- Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i gyfnewid y wobr am un sy’n gyfwerth neu yn fwy gwerthfawr os oes angen.
- Byddwn yn cysylltu â’r enillwyr drwy fanylion cyswllt y rhiant neu warcheidwad a roddwyd fel rhan o’r cynnig.
- Os nad yw’n bosib cysylltu â’r enillydd o fewn 14 diwrnod ar ôl hysbysu, neu nad yw’n ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddewis enillydd gwahanol.
- Os, ym marn y beirniaid, nad oes unrhyw gynnig mewn categori o ansawdd digonol, mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i beidio â rhoi gwobr yn y categori hwnnw.
- Mae hawlfraint pob cerdd yn aros gyda’r awdur.
- Drwy gystadlu, mae cystadleuwyr a’u rhiant neu warcheidwad yn rhoi trwydded anghyfyngedig a rhydd o freindaliadau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gyhoeddi neu arddangos (gan gynnwys yn ddigidol neu ar gyfryngau cymdeithasol) cerddi buddugol neu gerddi gafodd ganmoliaeth arbennig mewn cysylltiad â’r gystadleuaeth a chyhoeddusrwydd ynghylch dathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r Awdurdod.
- Heblaw bod caniatâd ychwanegol wedi’i roi, bydd unrhyw gerdd sy’n cael ei chyhoeddi yn cynnwys enw cyntaf a chategori oedran y cystadleuydd yn unig.
- Bydd data personol sydd wedi’i rannu ar gyfer y gystadleuaeth yn cael ei ddefnyddio dim ond i weinyddu’r gystadleuaeth, cysylltu â’r enillwyr, trefnu gwobrau a chyhoeddi’r cerddi buddugol yn argraffiad 2027 O Lan i Lan, heblaw bod caniatâd ychwanegol yn cael ei rhoi ar gyfer unrhyw bwrpas arall.
- Bydd data personol yn cael ei drin yn unol â pholisi preifatrwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddiwygio, gohirio neu ganslo’r gystadleuaeth os oes angen.
- Drwy gystadlu, rydyn ni’n ystyried bod cystadleuwyr a’u rhieni neu warcheidwaid yn cytuno â’r telerau ac amodau.