Hysbysiad Preifatrwydd 1000 Diwrnod Cyntaf

Cyhoeddwyd : 19/01/2026

Sut Rydym yn Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol


1. Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch fel rhan o’r broses archebu ar-lein

• Enw’r sawl (rhiant/gofalwr) sy’n archebu.

• Rhif ffôn y sawl sy’n archebu.

• Cyfeiriad e-bost y sawl sy’n archebu.

• Cyfeiriad y sawl sy’n archebu.

• Manylion talu’r sawl sy’n archebu.

Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei chasglu drwy ffurflen gofrestru a fydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi archebu lle yn y sesiwn.

• Manylion cyswllt mewn argyfwng.

• Enw’r plant sy’n cymryd rhan, eu hoedran, rhywedd, gofynion deietegol, unrhyw alergeddau.

• Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau, meddyginiaeth neu driniaethau cyfredol a allai effeithio ar eich gallu chi neu ar allu eich plant i gymryd rhan.

• Cydsyniad ar gyfer tynnu lluniau/recordio fideo a sain.

• Data demograffig i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynhwysol ac i ddarparu tystiolaeth i gyllidwyr.

Mae’r data’n ddienw at ddibenion dadansoddi ac adrodd – Ethnigrwydd, Gweithgarwch Economaidd (Does dim rhaid i chi roi’r wybodaeth hon a gallwch ddewis ‘mae’n well gen i beidio â dweud’.)


2. Rheoli Sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf

Rydym yn casglu eich gwybodaeth er mwyn:

•  I chi a’r plant sy’n cymryd rhan gael mynediad at sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf.

•  Sicrhau eich bod chi a’r plant sy’n cymryd rhan yn deall sut mae cymryd rhan yn sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf yn ddiogel ac yn effeithiol (gyda’ch cydsyniad chi).

•  Gwella hygyrchedd i sicrhau bod eich anghenion chi ac anghenion y plant sy’n cymryd rhan yn cael eu diwallu.

•  Darparu tystiolaeth i gyllidwyr.

•  Defnyddio lluniau a fideos i hyrwyddo’r prosiect.


3. Gwella’r Gwasanaeth

Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y canlynol:

• Gweld sut mae’r gwasanaeth yn gweithio.

• Cynllunio sut i’w wella yn y dyfodol.

Os byddwn yn gofyn i chi lenwi arolwg:

• Ni fydd yn cynnwys eich enw nac unrhyw beth a allai ddatgelu pwy ydych chi.

Rydym yn gwneud hyn er mwyn:

• Gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn ddiogel, yn ddefnyddiol ac yn diwallu anghenion pobl.


4. Eich Caniatâd (Cydsyniad)

Dim ond os byddwch chi’n rhoi caniatâd i ni dynnu lluniau a gwneud fideos ohonoch chi a’r plant sy’n cymryd rhan y byddwn yn gwneud hynny – drwy roi tic mewn blwch ar y ffurflen gofrestru.

Dim ond os byddwch chi’n rhoi caniatâd i ni rannu gwybodaeth amdanoch chi y byddwn yn gwneud hynny – er enghraifft, drwy roi tic mewn blwch ar ffurflen


5. Sut Rydym yn Cadw Eich Gwybodaeth yn Ddiogel

Caiff eich ffurflenni eu storio’n ddiogel am 7 mlynedd.

Rydym yn eu cadw am resymau cyfreithiol neu am resymau yn ymwneud ag yswiriant.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd:

• Bod gennym reswm da dros gadw’r wybodaeth.

• Bod angen yr wybodaeth arnom i ddangos sut cafodd y gwasanaeth ei ddefnyddio.

• Dim ond gwybodaeth angenrheidiol rydym yn ei chasglu, ac rydym yn ei chadw’n breifat ac yn ddiogel.


7. Eich Hawliau

• Yr hawl i gael gwybod

• Yr hawl i gael mynediad

• Yr hawl i gywiro

• Yr hawl i ddileu (mewn rhai achosion)

• Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

• Yr hawl i wrthwynebu

• Yr hawl i gludadwyedd data (os yw’n berthnasol)

• Yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl (os mai cydsyniad yw’r sail gyfreithiol)


8. Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

Mae Swyddog Diogelu Data yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn y gyfraith ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

E-bostSDD@arfordirpenfro.org.uk

Ffôn: 01646 624800

Gallwch ysgrifennu atom hefyd yn:
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Rhif cofrestru: Z6910336
Mae hyn yn golygu mai ni sy’n gyfrifol am ofalu am eich gwybodaeth bersonol a gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn cyfreithiau diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw gwybodaeth yn ddiogel, cymerwch gip ar ein polisi preifatrwydd: https://www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd/

Sut mae cwyno:

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk neu ar 0303 123 1113.


9. Tabl Pwrpas

 

Ar gyfer beth mae’r wybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio:

 

 Ein rhesymau


Ein buddiannau dilys (Mae dilys yn golygu bod gennym reswm da dros ddefnyddio’r data)

Gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i reoli Sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf Contract
Buddiant Dilys
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Tasg Gyhoeddus
Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn wrth hwylusydd eich sesiwn am unrhyw beth a allai effeithio ar eich cyfranogiad chi neu ar gyfranogiad plant yn y sesiwn.

Mae hyn yn helpu i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn.

Gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gynllunio a gwerthuso Sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf Yn amodol ar roi cydsyniad penodol Drwy rannu eich adborth, rydych chi’n ein helpu ni i wella’r gwasanaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu eich anghenion chi ac anghenion pobl eraill yn well.
Gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i hyrwyddo Sesiynau 1000 Diwrnod Cyntaf Yn amodol ar roi cydsyniad penodol