Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol 3 (CDLl 3) newydd. Bydd y Cynllun yn arwain datblygiadau hyd at 31 Mawrth 2040 ac ar ôl ei fabwysiadu bydd yn disodli'r CDLl 2 presennol.
Fel rhan o’r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer CDLl 3, mae’r Awdurdod yn gwahodd pobl i gyflwyno manylion safleoedd y dymunant iddynt gael eu hystyried, i’w cynnwys fel safleoedd i’w datblygu neu eu diogelu yn y Cynllun. Cyfeirir at y safleoedd a nodwyd fel Safleoedd Ymgeisiol a gellir eu henwebu ar gyfer defnydd tir penodol gan gynnwys:
• Tai (gan gynnwys tai fforddiadwy)
• Cyflogaeth
• Manwerthu
• Masnachol
• Hamdden
• Seilwaith Gwyrdd/Mannau Agored
• Llety Sipsiwn a Theithwyr
• Ynni Adnewyddadwy
- • Bydd angen llenwi ffurflen ar gyfer cyflwyno pob Safle Ymgeisiol (un safle i bob ffurflen). Mae’n bwysig darparu cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen.
- • Er mwyn helpu gyda’r gwaith o lenwi’r ffurflenni, paratowyd Nodiadau Cyfarwyddyd sy’n rhoi manylion am ble y gellir cael rhagor o wybodaeth.
- • Mae map cyfyngiadau rhyngweithiol ar gael i helpu cynigiwyr safleoedd i nodi unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar safleoedd posibl yn hawdd. Mae’r rhain yn cynnwys dynodiadau amgylcheddol, parthau llifogydd, ansawdd tir amaethyddol ac ati a byddant yn helpu i nodi a fydd angen gwybodaeth atodol (e.e. asesiadau canlyniadau llifogydd, arolygon ecolegol, datganiadau draenio, astudiaethau effaith priffyrdd) fel rhan o broses asesu’r Awdurdod i sicrhau y bydd safleoedd yn gyflawnadwy.
- •Bydd y safleoedd yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r fethodoleg a nodir mewn Papur Cefndir Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol.
Sylwer: os yw eich safle eisoes wedi’i ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol 2 cyfredol ond nad yw wedi’i ddatblygu hyd yma, bydd angen i chi ailgyflwyno eich safle fel Safle Ymgeisiol nawr os ydych am iddo gael ei ystyried i’w gynnwys yn CDLl 3.
Gellir cyflwyno’n electronig i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ar ffurf papur i’r Tîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6DY.
Nid chodir tâl am gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol. Mae’n bwysig darparu cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflenni. Er y bydd yr Awdurdod yn ystyried derbynioldeb pob safle i’w ddatblygu, bydd hefyd yn bwysig iawn i’r cynigydd ddangos sut y maent yn bwriadu cynnig safle i’w ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd gwaith cyflawni’r safleoedd a neilltuwyd yn cael ei graffu drwy broses Archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol a gellir gofyn i’r cynigydd am dystiolaeth bellach i ddangos pryd a sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.
Rhaid cyflwyno’ch safle(oedd) erbyn 5pm ddydd Llun 27 Ebrill 2026. Ni ellir cadw cyflwyniadau yn gyfrinachol a byddant yn cael eu cyhoeddi.
Bydd pob safle yn cael ei gofnodi ar Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a fydd yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir sydd wedi’i drefnu ar gyfer Ionawr i Fawrth 2027.
Cynhelir gweithdy ar-lein ar y broses gyflwyno ac asesu Safle Ymgeisiol ar Microsoft Teams ddydd Mercher 4 Chwefror am 2pm. Cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno trwy e-bostio devplans@pembrokeshirecoast.org.uk. Rhowch wybod i ni erbyn dydd Mawrth 3 Chwefror os hoffech ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar gael.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Polisi Strategol drwy e-bostio devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffonio 01646 624800.
