Ymgynghoriad ar y dogfennau canlynol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 3 (CDLl3):
• Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn ymgorffori’r Adroddiad Cwmpasu Asesiad Amgylcheddol Strategol
• Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd Atodiad B: Llinell Sylfaen
• Papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion Drafft
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori ar y dogfennau a restrir uchod.
Ble gallwch chi weld y dogfennau
Mae’r dogfennau ar gael i’w lawrlwytho o wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol (gweler y dolenni isod). Gallwch weld y dogfennau ar gyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd cyhoeddus lle maen nhw ar gael. Gellir darparu copïau papur o’r canllawiau am gost.
Cynhelir digwyddiad ymgysylltu ar-lein ar ddogfennau CDLl 3 ar Microsoft Teams ddydd Llun 9 Chwefror rhwng 7pm ac 8.30pm. Cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno trwy e-bostio cynlldatb@arfordirpenfro.org.uk. Rhowch wybod i ni erbyn dydd Llun 2 Chwefror os hoffech ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar gael.
Sut i ymateb?
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan 5pm ddydd Llun, 23 Mawrth 2026.
Mae holiadur ar-lein ar gael i’w gwblhau ar dudalen we’r ymgynghoriad ar gyfer dogfennau CDLl 3. Gallwch wneud sylwadau yn ysgrifenedig hefyd i’r Tîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu drwy e-bost at cynlldatb@arfordirpenfro.org.uk
Bydd yr holl sylwadau’n cael eu cydnabod a’u rhoi ar gael i’r cyhoedd. Ymatebir i sylwadau mewn Adroddiad Ymgynghori. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Polisi Strategol drwy e-bostio cynlldatb@arfordirpenfro.org.uk neu ffonio 01646 624800.
