Canllawiau Cynllunio Atodol Coed a Choetiroedd

Mae’r Canllaw hwn yn darparu cyngor ynglŷn â’r mathau o dirweddau ble gallai sensitifrwydd ganiatáu plannu coed neu goetiroedd newydd, gan helpu i lywio’r goeden iawn i’r man iawn. Mabwysiadwyd y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 20 Medi 2023.


 

Mae’r Canllaw yn darparu sylfaen tystiolaeth i helpu gydag ymateb i’r argyfwng amgylcheddol a hinsawdd yn unol â’r hyn a amlinellir yng nghynllun deng-mlynedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ymateb i’r Argyfwng Newid Hinsawdd (2020-2030) drwy ddarparu cyngor ynglŷn â’r mathau o dirweddau ble gallai’r sensitifrwydd ganiatáu plannu coed neu goetiroedd newydd, tra’n sicrhau bod ystyriaethau ‘y goeden iawn yn y man iawn’ yn cael sylw.

 

Gellir ystyried y Canllaw yn estyniad i’r canllawiau rheoli presennol a geir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Cymeriad Tirwedd a Chanllawiau Cynllunio Atodol Cymeriad Morwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

Canllawiau Cynllunio Atodol Coed a Choetiroedd

 

Canllawiau Cynllunio Atodol Coed a Choetiroedd Map

Ffigwrau

Ffigwr 1.1 – 4.8 Cy