Bu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol 2 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 30 Medi 2020. Daeth Cynllun Datblygu Lleol 2 yn weithredol ar adeg ei fabwysiadu.
Mae Cynllun Datblygu Lleol 2 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddogfen bolisi gynllunio ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’n amlinellu polisïau allweddol a dyraniadau tir fydd yn llunio dyfodol y Parc Cenedlaethol ac yn arwain anghenion datblygu hyd at 2031. Mae’n disodli Cynllun Datblygu Lleol 1 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r Cynllun yn cynnwys testun a mapiau, ac ynghyd â pholisi cynllunio cenedlaethol bydd yn llywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Mae’r CDLl 2 wedi cael ei fonitro’n flynyddol, a hyd yma mae tri Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r adroddiadau hyn yn gwerthuso pa mor dda y mae strategaeth, amcanion a pholisïau’r CDLl yn cael eu cyflawni. Rhaid i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal adolygiad llawn o’u Cynllun Datblygu Lleol heb fod yn hwy na phedair blynedd ar ôl dyddiad ei fabwysiadu.1 Mae hyn yn sicrhau bod y cynllun yn gyfredol ac yn nodi unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol. Dechreuodd yr Awdurdod adolygu Cynllun Datblygu Lleol 2 yn ffurfiol ym mis Medi 2024.
