POL_P1 Polisi Gorfodaeth a Chydymffurfiaeth Cynllunio
Polisi Gorfodaeth a Chydymffurfiaeth Cynllunio - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Fersiwn: 2
Dyddiad Gweithredol: 26/03/2025
Perchennog y Ddogfen: Prif Swyddog Cynllunio (Amgylchedd)
Noder bod y ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Tabl Cynnwys
- Rhan 1: Nodau ac amcanion y weledigaeth
- Rhan 2: Blaenoriaethau
- Rhan 3: Gwneud penderfyniadau
- Rhan 4. Atodiad: Amlinelliad o fesurau gorfodi
- Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio
- Hysbysiad Gofyn am Wybodaeth (Hysbysiad Adran 330)
- Hysbysiad Tor Amod
- Hysbysiad Rhybudd Gorfodi
- Hysbysiad Gorfodi
- Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
- Hysbysiad Stop
- Hysbysiad Stop Dros Dro
- Hysbysiad Dirwyn Hysbysebu i Ben
- Hysbysiad Adran 215
- Hysbysiad Gwneud Gwaith Atgyweirio Brys
- Hysbysiad Atgyweirio
- Hysbysiad Dirwyn i Ben
- Gorchymyn Dirymu
- Gwaharddeb
- Gweithredu Uniongyrchol
- Erlyn
- Apeliadau gorfodi
- Rhan 5: Cwynion
- Rhan 6: Diogelu Data, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Rhan 7: Atodiad – Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol
- 8: Atodiad – Rheoli Polisi
Rhan 1: Nodau ac amcanion y weledigaeth
1.1 Mae gwasanaeth effeithiol o orfodi a chydymffurfio ar faterion cynllunio yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol y system gynllunio, a thrwy hynny yn diwallu anghenion y gymuned o ran datblygu tra’n gwarchod a gwella rhinweddau arbennig tirwedd y Parc Cenedlaethol a’r adnoddau naturiol a diwylliannol, ac yn meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol y Parc.
1.2 Mae’r ddogfen hon yn nodi polisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod ar ddelio â materion gorfodi a chydymffurfio â rheolau cynllunio, ac mae blaenoriaethau yn eu lle ar ymdrin ag achosion difrifol o dorri’r rheolau ac achosion sensitif o ran amser.
1.3 Nod y gwasanaeth yw:
- bod yn amserol, yn effeithiol ac yn ymatebol wrth atal, rheoli ac unioni datblygiad heb ganiatâd;
- sicrhau hygrededd y gwasanaeth cynllunio er mwyn cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol;
- gwarchod amwynderau cyhoeddus ac unioni unrhyw effeithiau niweidiol sy’n deillio o ddatblygiad;
- cynnal gweithdrefnau effeithiol o fonitro i sicrhau bod datblygiad â chaniatâd yn cael ei gyflawni yn unol â’r hyn a gymeradwywyd a’r telerau cynllunio;
- sicrhau bod y datblygiad yn unol â’r polisïau cynllun datblygu a fabwysiadwyd.
1.4 Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol (yr Awdurdod), drwy ddarparu gwasanaeth gorfodi a chydymffurfio, yn diwallu amcanion allweddol y Llawlyfr Rheoli Datblygu o ran y broses gorfodi, hynny yw, bod yn agored, yn deg ac yn dryloyw mewn unrhyw ymwneud â’r achwynydd a’r troseddwr honedig.
1.5 Dylai pob parti sy’n ymwneud â gorfodaeth cynllunio nodi nad yw torri rheolau cynllunio bob tro yn drosedd, ond gall hynny fod yn wir. Ymhlith y troseddau mae gwneud gwaith heb ganiatâd ar Adeiladau Rhestredig, a hysbysebion anghyfreithlon, a thorri rheolau o dan Adran 210 o’r Ddeddf (Gorchmynion Cadw Coed).
1.6 Mae cymryd camau i reoleiddio torri rheolau yn fater dewisol, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi mai dim ond pan fo’n briodol gwneud hynny y dylid cymryd camau gorfodi, ac y dylai unrhyw gyfryw gamau fod yn gymesur â’r achos o dorri rheolau cynllunio dan sylw ac nid i gosbi’r person(au) sy’n gyfrifol. (Gweler y Llawlyfr Rheoli Datblygu (Adran 14) [1] a’r Cylchlythyr 24/97 Gorfodi Darpariaethau Deddfwriaethol Rheoli Cynllunio a Gofynion Gweithdrefnol [2]).
1.7 Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu a’i ddiwygio yn rheolaidd fel sy’n ofynnol gan newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisi.
[1] https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-10/llawlyfr-rheoli-datblygu.pdf
[2] https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gorfodi-darpariaethau-deddfwriaethol-rheoli-cynllunio-a-gofynion-gweithdrefnol-cylchlythyr-2497.pdf
Rhan 2: Blaenoriaethau
Polisi 1: Bydd achosion o dorri rheolau cynllunio, gan gynnwys peidio â chydymffurfio ag amodau cynllunio, yn cael eu hymchwilio yn briodol yn unol â’r egwyddorion canlynol ac yn nhrefn blaenoriaeth.
Pan fydd ymholiad yn cael ei wneud yn y lle cyntaf, ni fydd statws blaenoriaeth yn cael ei roi iddo nes bod y swyddog achos wedi’i asesu’n ofalus.
Dim Blaenoriaeth
Dyma fydd y dynodiad cychwynnol pan agorir yr achos. Unwaith y bydd y swyddog achos a neilltuwyd i’r achos wedi adolygu’r ymholiad, bydd statws rhagarweiniol yn cael ei roi. Gall y statws newid yn dibynnu ar ganfyddiadau’r ymweliad â’r safle.
Blaenoriaeth Isel – Gwyrdd
This will be assigned to cases that are assessed as being:
i. Mân achosion o dorri amodau cynllunio.
ii. Mân faterion domestig megis y canlynol:
- ffensys/ siediau/ dysglau lloeren.
- anghydfod ynghylch ffiniau a pherchnogaeth (er yn dechnegol, gall hyn fod yn fater sifil).
- newid defnydd heb awdurdod nad yw’n arwain ar unwaith at bryderon sylweddol ynghylch amwynderau.
- hysbysebion heb awdurdod sydd heb eu cynnwys isod.
Blaenoriaeth Ganolig – Ambr
Bydd y statws hwn yn cael ei roi i achosion megis, ond heb fod yn gyfyngedig i’r isod:
i. Torri rheolau cynllunio yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.
ii. Cwynion lle mae’r terfyn amser ar gyfer cymryd camau ffurfiol ar fin dod i ben.
iii. Cwynion am niwed sylweddol yn cael ei achosi i amwynder, er enghraifft:
- estyniadau i eiddo preswyl sy’n arwain at broblemau difrifol o ran edrych dros eiddo preswyl arall neu broblemau amwynder eraill.
- defnyddio tir heb awdurdod sy’n achosi problemau amwynder i eiddo cyfagos.
iv. Dechrau datblygiad heb gydymffurfio â’r amodau caniatâd cynllunio.
v. Codi hysbysebion heb awdurdod sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar ddiogelwch ar y priffyrdd neu ar amwynderau gweledol.
Blaenoriaeth Uchel – Coch
i Datblygiad heb awdurdod sy’n achosi niwed difrifol uniongyrchol ac anadferadwy i’r amgylchedd neu amwynder cyhoeddus, yn enwedig unrhyw waith y bernir ei fod yn niweidio rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol, er enghraifft, gwaith ar adeiladau rhestredig heb awdurdod, dymchwel adeiladau o bwys sydd heb eu rhestru mewn Ardal Gadwraeth, gwaith sylweddol heb awdurdod sy’n effeithio ar Heneb, safle archaeolegol mawr, rhywogaeth a warchodir neu ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
ii Datblygiad heb awdurdod sy’n achosi aflonyddwch difrifol i gymdogion neu sy’n peri bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd.
iii Gwaith heb awdurdod ar goed sydd wedi’u cynnwys mewn Gorchymyn Cadw Coed neu sydd mewn Ardal Gadwraeth.
2.1 Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y torri rheolau honedig a’r adnoddau sydd ar gael, yr amser targed ar gyfer ymateb cychwynnol fydd fel a ganlyn:
- Achosion Blaenoriaeth Uchel: Anelir at gynnal ymweliad â’r safle ac ymchwiliad cychwynnol o fewn un neu ddau ddiwrnod gwaith o dderbyn yr achos.
- Achosion Blaenoriaeth Ganolig: Cynhelir ymweliad â’r safle ac ymchwiliad cychwynnol o fewn saith diwrnod gwaith o dderbyn yr achos.
- Achosion Blaenoriaeth Isel: Cynhelir ymweliad â’r safle ac ymchwiliad cychwynnol o fewn pymtheg diwrnod gwaith o dderbyn yr achos.
2.2 Wrth raglennu ymweliadau safle mewn achosion blaenoriaeth uwch, bydd y Swyddogion Gorfodi yn ymwybodol o fanteisio ar gyfleoedd, lle bo hynny’n gyfleus, i ymweld ag achosion eraill, blaenoriaeth ganolig ac is, ar yr un daith. Gall blaenoriaeth achos newid yn dilyn yr ymweliad safle cychwynnol neu ar ôl derbyn gwybodaeth ychwanegol.
2.3 Ar ôl ymweld â’r safle a sefydlu’r ffeithiau, mae pedwar canlyniad posibl:
- Nad oes unrhyw dorri rheolau cynllunio.
- Bod torri rheolau cynllunio wedi digwydd, ond na fydd mantais mewn cymryd camau gweithredu yn yr achos hwn.
- Bod gofyn cael rhagor o wybodaeth, a bod gofyn cael Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio i gael rhagor o wybodaeth ynghylch a yw hyn yn achos o dorri rheolau cynllunio.
- Bod hwn yn achos o dorri rheolau cynllunio a bod angen cymryd camau pellach.
2.4 Os canfyddir bod achos o dorri rheolau cynllunio wedi digwydd, cymerir un o’r camau gweithredu canlynol:
- Bod yr Awdurdod yn ceisio datrys y mater drwy drafodaethau.
- Gwahoddir gwneud cais cynllunio neu fath arall o gais ar gyfer y datblygiad heb awdurdod.
- Cymerir camau gorfodi ffurfiol sydd wedi’u hawdurdodi gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu neu o dan gynllun yr Awdurdod o ddirprwyo.
2.5 Bydd y tîm Gorfodi yn anelu at gwblhau cam cyntaf (penderfyniad) yr ymchwiliad gorfodi cyn pen deuddeg wythnos (84 diwrnod) o’r dyddiad y derbyniwyd y gŵyn yn y lle cyntaf.
2.6 Bydd yr achwynydd yn cael gwybod am y penderfyniad ffurfiol a wnaed gan yr Awdurdod hwn yn ysgrifenedig.
2.7 Bydd perfformiad y tîm o ran cyrraedd y targedau hyn yn cael ei fonitro a’i adrodd yn rheolaidd i Bwyllgor Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod.
Polisi 2: Derbynnir cwynion am honiadau o dorri rheolau cynllunio drwy bob dull cyfathrebu rhesymol – megis llythyr, e-bost, ffôn neu drwy alwr personol – cyn belled â bod yr achwynydd yn rhoi ei enw a’i fanylion cyswllt llawn.
Ni fydd honiadau dienw o dorri rheolau cynllunio fel arfer yn cael eu hymchwilio oni bai eu bod yn ymwneud ag achos difrifol o dorri rheolau cynllunio neu faterion sy’n effeithio ar iechyd a diogelwch.
Mae’r Awdurdod yn hapus i dderbyn cwynion yn Saesneg neu yn Gymraeg.
2.8 Anogir achwynwyr i ddefnyddio ffurflen safonol wrth lunio eu cwynion, a dylai pob cwyn nodi lleoliad y safle neu’r eiddo dan sylw yn glir, nodi’n glir union natur y broblem, a rhoi syniad o unrhyw niwed sy’n cael ei achosi.
2.9 Byddai’n ddefnyddiol pe bai unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei chynnwys am y person neu’r sefydliad y credir ei fod yn gyfrifol am yr achos o dorri rheolau cynllunio, a’r dyddiad neu’r amser y dechreuodd hynny.
2.10 Lle mae achwynwyr yn pryderu y bydd eu hunaniaeth yn cael ei datgelu ar unrhyw adeg, gallant geisio cyfeirio eu cwyn drwy eu cynghorydd lleol neu eu cyngor cymuned/ tref. Weithiau, efallai y bydd cais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gofyn am wybodaeth wedi’i golygu i gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
2.11 Mae’r Awdurdod yn sylweddoli y gall achwynwyr fod yn amheus ynglŷn â chodi materion lle gellir eu hadnabod. Fodd bynnag, yn aml gwneir cwynion sy’n seiliedig ar resymau nad ydynt yn ymwneud â materion cynllunio (h.y. anghydfod rhwng dau eiddo). Os yw’n ymddangos bod yr achwynydd hefyd wedi’i ysgogi gan faterion heblaw am faterion cynllunio, gall yr awdurdod cynllunio ystyried na fyddai er budd y cyhoedd i ymchwilio i’r mater. Gall hyn gynnwys lle gwneir cwynion dim ond ar sail cystadleuaeth fasnach neu gwynion wedi’u hysgogi gan anghydfod rhwng cymdogion.
2.12 Bydd yr Awdurdod yn anelu at gydnabod y gŵyn yn ysgrifenedig cyn pen pump diwrnod gwaith. Pan fydd yr Awdurdod wedi ymchwilio i’r mater sy’n destun achos gorfodi ac wedi dod i’r casgliad bod un o’r canlyniadau canlynol wedi digwydd, bydd yr achwynydd yn cael gwybod am y canlyniad hwnnw yn ysgrifenedig (electronig neu lythyr).
- Bod penderfyniad ffurfiol wedi’i wneud bod achos o dorri rheolau cynllunio wedi digwydd ond yn dilyn trafodaethau anffurfiol bod yr achos hwn wedi’i ddatrys.
- Bod Hysbysiad Gorfodi wedi’i gyhoeddi.
- Bod caniatâd cynllunio wedi’i roi drwy wneud cais neu drwy apêl gorfodi.
- Bod achos o erlyn wedi cychwyn (a bod dyddiad y gwrandewir yr achos gyntaf yn cael ei ystyried yn ddyddiad ‘gweithredu cadarnhaol’).
- Bod camau gweithredu uniongyrchol gan yr Awdurdod wedi datrys y mater.
2.13 Os yw’r mater y tu allan i bwerau’r Awdurdod hwn, bydd yr achwynydd yn cael gwybod yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl am y rhesymau pam na ellir cymryd camau gweithredu, ac yn cael gwybod, os yw’n briodol ac yn hysbys, am unrhyw gorff arall y dylai gysylltu ag ef.
2.14 Er y bydd hunaniaeth achwynydd yn cael ei diogelu, gall llwyddiant unrhyw gamau gorfodi dilynol ddibynnu ar ei barodrwydd i gydweithredu ac o bosibl rhoi tystiolaeth mewn apêl neu wrandawiad llys.
Rhan 3: Gwneud penderfyniadau
Polisi 3: Bydd yr Awdurdod hwn yn cymryd camau gorfodi dim ond pan ystyrir bod mantais o wneud hynny. Ni fydd camau gorfodi ffurfiol yn cael eu cymryd dim ond i reoleiddio’r achos o dorri rheolau cynllunio lle nad oes unrhyw niwed amlwg wedi’i wneud yn sgîl hynny. Wrth gymryd camau gorfodi ffurfiol, bydd yr Awdurdod yn barod i ddefnyddio’r holl bwerau gorfodi sydd ar gael, yn gymesur â difrifoldeb yr achos.
3.1 Wrth benderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, bydd yr Awdurdod yn ystyried y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol a fabwysiadwyd, a’r ddo
- Y Llawlyfr ar Reoli Datblygu.
- Cylchlythyr 24/97 Gorfodi Darpariaethau Deddfwriaethol Rheoli Cynllunio a Gofynion Gweithdrefnol.
3.2 Wrth ystyried a oes mantais o gymryd camau gorfodi, y cwestiwn i benderfynu yw a yw’r torri rheolau cynllunio yn effeithio’n annerbyniol ar amwynder cyhoeddus, y defnydd presennol a wneir o dir ac adeiladau sy’n haeddu cael eu diogelu er budd y cyhoedd neu’r amgylchedd naturiol.
3.3 Bydd unrhyw gamau a gymerir yn gymesur â’r achos o dorri rheolau cynllunio dan sylw. Bydd pob penderfyniad ynghylch ai cymryd camau gorfodi neu beidio yn cael ei gofnodi ar y ffeil/ cronfa ddata ynghyd â’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.
3.4 Lle asesir ei bod yn debygol y byddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer y datblygiad, byddai’r person sy’n gyfrifol fel arfer yn cael gwahoddiad i gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol. Yn gyffredinol, bydd yn amhriodol cymryd camau gorfodi ffurfiol yn erbyn achos dibwys neu dechnegol o dorri rheolau, nad yw’n achosi unrhyw niwed i amwynder nac i’r amgylchedd.
3.5 Wrth amddiffyn camau gorfodi ar apêl ac yn y llysoedd, bydd angen dangos bod y gweithdrefnau perthnasol wedi’u dilyn a bod polisi cenedlaethol ar gynllunio a gorfodi wedi’i ystyried.
Polisi 4: Bydd penderfyniadau ar gamau gorfodi cynllunio yn cael eu gwneud yn unol â chynllun yr Awdurdod ar ddirprwyo, a lle bo angen, ar gyngor cyfreithiwr. Bydd unrhyw benderfyniad ar gamau gweithredu yn ystyried cyngor cyfreithiwr (lle bo’n berthnasol) ac yn seiliedig ar adroddiad ysgrifenedig. Bydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cytuno ar gamau gweithredu naill ai’n uniongyrchol, neu gan swyddogion awdurdodedig. Y swyddogion awdurdodedig hynny yw’r Prif Weithredwr (y Swyddog Parc Cenedlaethol), y Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am Gynllunio, a/neu’r Rheolwr Rheoli Datblygu (y Swyddog Arweiniol ar Reoli Datblygu), y Prif Swyddog Cynllunio (Rheoli Datblygu) a/neu’r Rheolwr Polisi Strategol (y Swyddog Arweiniol ar Bolisi Cynllunio).
3.6 Dylai amlder cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a’r gallu i ymestyn y dirprwyo, olygu bod llai o angen cymryd camau brys, ond gall fod angen gwneud hynny o bryd i’w gilydd
3.7 Dim ond gan y canlynol y bydd camau gorfodi brys yn cael eu hawdurdodi:
- Y Prif Weithredwr (y Swyddog Parc Cenedlaethol).
- Y Cyfarwyddwr sydd â chyfrifoldeb am faterion Cynllunio.
- Y Rheolwr Rheoli Datblygu (y Swyddog Arweiniol ar Reoli Datblygu).
- Y Prif Swyddog Cynllunio (Rheoli Datblygu).
- Y Rheolwr Polisi Strategol (y Swyddog Arweiniol ar Bolisi Cynllunio).
3.8 Wrth awdurdodi’r cyfryw gamau gweithredu, rhoddir ystyriaeth briodol i unrhyw gyngor gan:
- Y Rheolwr Rheoli Datblygu (y Swyddog Arweiniol ar Reoli Datblygu),
- Y Cyfreithiwr
3.9 Bydd adroddiad ar y cyfryw gamau brys yn cael ei gyflwyno gerbron y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu i’w hysbysu o’r camau a gymerwyd neu i geisio cadarnhad ôl-weithredol lle bo angen.
Polisi 5: Polisi’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yw na fydd Aelodau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu sy’n gwasanaethu fel Ynadon yn cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad ynghylch materion gorfodi allai arwain at gamau cyfreithiol ffurfiol.
3.10 Mae’r polisi hwn wedi’i roi ar waith i atal unrhyw ganfyddiad o wrthdaro buddiannau ar ran Aelodau’r Awdurdod sy’n gwasanaethu fel Ynadon.
Polisi 6: Wrth ystyried a ddylid cymryd camau gorfodi, ni fydd yr Awdurdod yn rhoi pwysau ar y ffaith bod datblygiad eisoes wedi cychwyn.
3.11 Ac eithrio mewn sefyllfaoedd penodol iawn, er enghraifft, gwaith ar adeiladau rhestredig, nid yw’n drosedd gwneud gwaith datblygu heb ganiatâd cynllunio, ac felly mae’n bwysig bod datblygiadau heb awdurdod yn cael eu trin yn ôl eu rhinweddau unigol yn yr un modd â datblygiadau arfaethedig.
3.12 Y prawf i’w ddefnyddio fydd “a fyddai caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad hwn pe bai wedi bod yn destun cais cynllunio?”
Polisi 7: Fel arfer, bydd penderfyniadau i beidio â chymryd camau gorfodi yn cael eu gwneud gan y Rheolwr Rheoli Datblygu neu’r Cyfarwyddwr Lle ac Ymgysylltu yn unol â’r trefniadau dirprwyo i’r swyddogion. Bydd y rhesymau dros beidio â chymryd camau gorfodi yn cael eu cofnodi yn ysgrifenedig neu ar y gronfa ddata.
3.13 Mae paragraff 14.2.3 o Lawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru yn nodi, wrth ystyried camau gorfodi, mai’r mater i’r ACLl ei ystyried wrth wneud penderfyniad ddylai fod a fyddai’r datblygiad heb awdurdod yn effeithio’n annerbyniol ar amwynder cyhoeddus neu’r defnydd presennol o dir neu adeiladau sy’n haeddu eu gwarchod er budd y cyhoedd. Dylai’r camau gorfodi fod yn gymesur â’r effeithiau cynllunio a achosir gan y datblygiad heb awdurdod; fel arfer mae’n amhriodol cymryd camau gorfodi ffurfiol yn erbyn achos o dorri rheol ddibwys neu dechnegol nad yw’n achosi unrhyw niwed i amwynder cyhoeddus.
Polisi 8: Ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn caniatáu trafodaethau hirfaith diangen i ohirio camau gorfodi hanfodol.
3.14 Er y bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn ymdrechu i oresgyn unrhyw niwed a achosir gan ddatblygiadau heb awdurdod drwy drafod lle bynnag y bo modd, mae’r system orfodi yn colli hygrededd yn gyflym os yw datblygiadau annerbyniol yn cael eu parhau oherwydd trafodaethau gorfodi estynedig neu hirfaith all arwain at achosion mwy costus a chymhleth lle mae gwaith yn parhau.
3.15 Felly, bydd terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodaethau fel arfer yn cael ei osod yn unol â’r flaenoriaeth a roddir i’r achos, ond anelir at gau’r gŵyn gychwynnol cyn pen deuddeg wythnos i’r dyddiad derbyn.
Polisi 9: Mewn sefyllfaoedd lle dim ond drwy osod amodau cynllunio priodol y gellir gwneud datblygiad heb awdurdod yn dderbyniol, gofynnir am gais cynllunio i reoleiddio’r datblygiad. Os na fydd y cyfryw gais yn dod i law o fewn amserlen y cytunwyd arni, bydd Hysbysiad o Rybudd Gorfodi yn cael ei gyflwyno.
3.16 Nod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fydd sicrhau lle ystyrir bod datblygiad yn dderbyniol, ond yn parhau i fod heb awdurdod, yna bydd cyflwyno Hysbysiad Rhybudd Gorfodi ynghyd â datganiad, yn gwarchod buddiannau perchnogion/ datblygwyr yn y dyfodol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi, lle mae ACLl yn ystyried bod datblygiad heb awdurdod yn achosi niwed annerbyniol i amwynder cyhoeddus, neu ddifrod i safle a ddynodwyd yn statudol, ond y gellid atal neu liniaru’r niwed hwnnw yn foddhaol drwy osod amodau ar roi caniatâd cynllunio, y dylai gyflwyno hysbysiad o rybudd gorfodi. Bydd cyflwyno’r cyfryw hysbysiad yn rhoi neges glir i’r datblygwr, os cyflwynir cais cynllunio ôl-weithredol, y gellid rheoli’r datblygiad yn ddigonol i’w wneud yn dderbyniol. Heb hynny, mae’r datblygiad yn annerbyniol a bod mantais o gymryd camau gorfodi pellach, ac y byddai’r camau hynny yn cael eu cymryd.
Polisi 10: Wrth ystyried a ddylid cymryd camau gorfodi, ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn rhoi pwysau ar ystyriaethau cynllunio ansylweddol ond bydd yn ystyried hawliau dynol a’i ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn ystod ymchwiliadau ac mewn penderfyniadau ynghylch cymryd camau gorfodi.
3.17 Nid diben y system gynllunio yw gwarchod buddiannau preifat un person yn erbyn gweithgareddau person arall.
3.18 Rhaid gweithredu ar sail cynllunio cadarn.
3.19 Ni roddir pwysau i wrthwynebiad neu gefnogaeth leol i ddatblygiad heb awdurdod oni bai bod y gwrthwynebiad neu’r gefnogaeth honno wedi’i seilio ar resymau cynllunio dilys.
3.20 Lle bo’r Awdurdod yn cael gwybod am anabledd neu salwch sy’n effeithio ar unigolyn sy’n destun ymchwiliad neu gamau gorfodi, yna bydd yr Awdurdod, os yw’n briodol ac yn angenrheidiol, yn gwneud addasiadau rhesymol lle bo’r rhain yn gydnaws â’i ddyletswyddau cyfreithiol. Gall yr addasiadau rhesymol hyn gynnwys cael cyfaill neu eiriolwr yn bresennol mewn cyfarfod neu ymweliad safle neu gyfathrebu dim ond drwy asiant cynllunio. Fodd bynnag, ni fydd achos o anabledd neu salwch yn atal yr Awdurdod rhag cynnal ymchwiliad neu, os oes angen, rhag cymryd camau gorfodi lle bo gofyn.
3.21 Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu’n anghydnaws â’r hawliau ECHR hyn oni bai, o ganlyniad i ddeddfwriaeth sylfaenol, na allai fod wedi gweithredu’n wahanol. Mae’r system gynllunio, yn ei hanfod, yn parchu hawliau’r unigolyn tra’n gweithredu er budd y gymuned ehangach. Rhan greiddiol o’r broses o wneud penderfyniadau i’r ACLl yw asesu’r effeithiau y bydd datblygiad yn eu cael ar unigolion, a phwyso a mesur yr effeithiau hynny yn erbyn y budd ehangach i’r cyhoedd wrth benderfynu a ddylid caniatáu i ddatblygiad barhau neu i fwrw ymlaen yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Wrth gynnal yr ymarferiad hwn o gydbwyso, dylai’r ACLl fod yn fodlon ei fod wedi gweithredu’n gymesur.
3.22 Lle mae’r Awdurdod yn ymwybodol y gallai camau gorfodi arwain at unigolyn yn dod yn ddigartref, bydd yn ystyried goblygiadau hynny wrth bennu amser yn yr hysbysiadau gorfodi, er mwyn galluogi unigolion i wneud trefniadau eraill.
Polisi 11: Wrth ystyried camau gorfodi priodol, bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cysylltu’n agos ag adrannau o fewn Cyngor Sir Penfro a chyrff rheoleiddio eraill ynghylch eu pwerau o dan ddeddfwriaeth arall.
3.23 O bryd i’w gilydd, gellir cyflawni canlyniadau mwy effeithiol ac effeithlon drwy ddefnyddio pwerau y tu allan i ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref. Hefyd mae’n bwysig bod camau gorfodi gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cael eu cydlynu lle bo’n berthnasol â chamau sy’n cael eu hystyried neu eu cymryd gan y Cyngor Sir o dan ddeddfwriaeth arall.
Polisi 12: Bydd achwynwyr sydd wedi hysbysu’r Awdurdod am honiadau o dorri rheolau cynllunio yn cael gwybod am y canlyniad.
3.24 Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi ymchwilio i achos honedig o dorri rheolau cynllunio, bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r achwynydd ynghylch canlyniad yr ymchwiliad ac yn rhoi gwybod iddo a fydd camau pellach yn cael eu cymryd.
Rhan 4. Atodiad: Amlinelliad o fesurau gorfodi
Mae nifer o fesurau a ddarperir gan ddeddfwriaeth sy’n helpu i benderfynu a yw datblygiad heb ei awdurdodi, ac yn galluogi awdurdod cynllunio lleol i gymryd camau lle bo’n briodol.
Isod mae disgrifiad byr o’r prif bwerau gorfodi sydd ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol pe bai’n cael ei ystyried bod mantais mewn cymryd camau gorfodi. Nid yw hyn wedi’i fwriadu i nodi’n llawn yr holl ystyriaethau cyfreithiol manwl, ond yn syml i geisio egluro natur gyffredinol y pwerau gorfodi sydd ar gael. Ym mhob achos, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio defnyddio’r pŵer mwyaf effeithiol sydd ar gael i unioni achos o dorri rheolau cynllunio.
Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio
4.1 Mae’r Hysbysiad hwn yn galluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i fynnu gwybodaeth fanwl am achos lle amheuir bod rheolau cynllunio wedi’u torri.
4.2 Gall Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo roi gwybodaeth megis:
- Manylion pob gweithgaredd a gyflawnir ar y tir y gellid amau eu bod yn torri rheolau cynllunio.
- Materion sy’n ymwneud â’r amodau neu’r cyfyngiadau a roddwyd ar unrhyw ganiatâd cynllunio.
- Enwau a chyfeiriadau unrhyw berson y gwyddys ei fod yn defnyddio’r tir at unrhyw ddiben.
- Natur unrhyw fuddiant cyfreithiol yn y tir ac enwau a chyfeiriadau unrhyw berson arall y gwyddys bod ganddo fuddiant.
4.3 Nid yw cyflwyno Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio yn atal yr awdurdod cynllunio lleol rhag cymryd camau gorfodi ffurfiol eraill yn erbyn torri rheolau cynllunio. Mae gan y sawl sy’n derbyn Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio 21 diwrnod i ymateb i’r Hysbysiad, ond os nad oes ymateb, mae trosedd gyfreithiol wedi’i chyflawni all fod yn destun achos erlyn yn y Llys Ynadon. Y gosb am beidio â chydymffurfio yw uchafswm o £1,000. Gall ail achos o barhau i beidio â chydymffurfio gael cosb o ddirwy ddyddiol.
4.4 Gall rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol ynghylch Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio arwain at ddirwy o hyd at £5,000.
4.5 Mesur tebyg i’r Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio yw’r Hysbysiad Gofyn am Wybodaeth o dan Adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).
Hysbysiad Gofyn am Wybodaeth (Hysbysiad Adran 330)
4.6 Mae hysbysiad Adran 330 yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd roi gwybodaeth am berchnogaeth yr eiddo ac unrhyw berson arall allai fod â buddiant yn yr eiddo.
4.7 Mae derbynnydd Hysbysiad Adran 330 yn cael 21 diwrnod i ymateb i’r Hysbysiad (neu’r cyfryw gyfnod hirach a nodir yn yr Hysbysiad), ond os nad oes ymateb, mae trosedd gyfreithiol wedi’i chyflawni all gael cosb yn y Llys Ynadon o ddirwy hyd at £1,000.
4.8 Mae rhoi datganiad ffug mewn ymateb i’r hysbysiad yn derbyn cosb, ar ôl euogfarnu yn y Llys Ynadon, drwy ddirwy o hyd at £5,000 neu yn Llys y Goron, drwy ddirwy, carchar, neu’r ddau.
Hysbysiad Tor Amod
4.9 Mae’r hysbysiad hwn yn ddewis arall yn lle Hysbysiad Gorfodi ar gyfer unioni achos o dorri amod drwy fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol arno.
4.10 Nid yw’n bridiant cyfreithiol ar y tir, a dim ond i’r person sy’n gyfrifol am y torri amod y gellir cyflwyno’r hysbysiad.
4.11 Gall yr hysbysiad fod yn orfodol (yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud) neu’n waharddiad (yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth ddirwyn i ben).
4.12 Bydd yr hysbysiad yn nodi cyfnod cydymffurfio na all fod yn llai na 28 diwrnod.
4.13 Gall methu â chydymffurfio arwain at ddirwy o hyd at £1,000.
4.14 Nid oes apêl yn erbyn y cyfryw hysbysiad sy’n atebol yn y Llys Ynadon.
Hysbysiad Rhybudd Gorfodi
4.15 Bwriedir i’r Hysbysiad hwn gael ei ddefnyddio lle mae’r Awdurdod hwn yn ystyried y gallai datblygiad heb awdurdod gael ei wneud yn dderbyniol o’i reoli drwy gais ôl-weithredol a defnyddio amodau.
4.16 Ni fydd yr Hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi mewn sefyllfaoedd lle nad yw’r Awdurdod hwn yn rhesymol ddisgwyl y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi; fodd bynnag, dylid nodi y gall materion newydd ddod i’r amlwg, neu er gwaethaf argymhelliad i gymeradwyo’r cais, gallai’r pwyllgor rheoli datblygu anghytuno â’r argymhelliad.
4.17 Rhaid i’r Hysbysiad hwn nodi’r achos honedig o dorri rheol cynllunio a nodi’r camau i’w cymryd i unioni’r achos o fewn amserlen benodol, a rhaid cyflwyno’r hysbysiad i bob parti sydd â buddiant yn y tir.
4.18 Rhaid i’r Hysbysiad hwn ddatgan, oni bai bod cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, y gellir cymryd camau gorfodi pellach.
Mae hyn oherwydd bod cyflwyno Hysbysiad Rhybudd Gorfodi yn gyfystyr â chymryd camau gorfodi o dan Adran 171A o Ddeddf 1990, sy’n caniatáu i’r Awdurdod hwn gymryd camau gorfodi pellach am y torri rheol cynllunio o fewn pedair blynedd i gyhoeddi’r hysbysiad cychwynnol.
4.19 Nid oes hawl apelio yn erbyn Hysbysiad Rhybudd Gorfodi, ac eithrio drwy wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol; fodd bynnag, os cyflwynir cais ôl-weithredol oherwydd yr Hysbysiad hwn, mae gan ymgeisydd yr hawl i apelio naill ai yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio, neu yn erbyn cyflwyno hysbysiad gorfodi wedi hynny.
4.20 Bydd cyhoeddi Hysbysiad Rhybudd Gorfodi yn ‘stopio’r cloc’ o ran y datblygiad heb awdurdod yn cael imiwnedd rhag camau gorfodi.
Hysbysiad Gorfodi
4.21 Hwn yw’r prif ffurf o Hysbysiad a ddefnyddir i ddelio â datblygiad heb awdurdod. Rhaid i’r hysbysiad hwn, pan gaiff ei gyhoeddi, nodi’r achos honedig o dorri rheolau, a nodi’r camau i’w cymryd i unioni’r torri rheolau o fewn amserlen benodol, a rhaid cyflwyno’r hysbysiad i bob parti sydd â buddiant yn y tir.
4.22 Gall hyn olygu cyflwyno’r hysbysiad i’r morgeisai h.y. y Banc neu’r Gymdeithas Adeiladu a fenthycodd yr arian i brynu’r eiddo, neu aelodau eraill o’r teulu sydd â buddiant tebyg yn yr eiddo.
4.23 Gall yr Hysbysiad gyfeirio naill ai at Newid Defnydd y tir, neu at ddatblygiad gweithredol.
4.24 Mae hawl i apelio, cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad, ac mae saith sail y gellir seilio’r apêl honno arnynt. Rhestrir y seiliau hynny ar ddiwedd yr adran hon.
4.25 Os na chyflawnir gofynion yr hysbysiad, ac os nad oes apêl wedi’i chyflwyno neu os gwrthodir unrhyw apêl, yna gellir erlyn y person cyfrifol.
4.26 Mae methu â chydymffurfio â gofynion Hysbysiad Gorfodi yn drosedd y gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol gychwyn achos erlyn yn erbyn y drosedd honno. Y ddirwy uchaf yn y Llysoedd Ynadon yw £20,000, ac mae’r swm yn ddiderfyn yn Llys y Goron. Hefyd gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol fynd i mewn i’r safle a chyflawni’r gwaith sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad yn ddiofyn, ac wedyn ceisio adennill y costau am wneud y gwaith oddi wrth y perchennog/ meddiannwr.
Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
4.27 Mae’r hysbysiad hwn yn debyg i’r Hysbysiad Gorfodi.
Gall yr Hysbysiad:
(a) ei gwneud yn ofynnol i adfer yr adeilad i’w gyflwr blaenorol; neu
(b) os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu’n ddymunol, ei gwneud yn ofynnol i waith arall a nodir yn yr Hysbysiad i liniaru effeithiau’r gwaith heb awdurdod; neu
(c) ei gwneud yn ofynnol i’r adeilad gael ei adfer i’r cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe bai telerau unrhyw ganiatâd adeilad rhestredig wedi’u dilyn.
4.28 Rhaid i’r Hysbysiad nodi’r cyfyngiadau amser ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â gofynion yr Hysbysiad.
4.29 Mae hawl i apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig. Mae’r gweithdrefnau yn debyg i’r rhai ar gyfer apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi. Os caiff gwaith sy’n destun Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig ei awdurdodi yn ddiweddarach gan gais ôl-weithredol am ganiatâd Adeilad Rhestredig, bydd yr Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig yn peidio â chael unrhyw effaith er bod yr atebolrwydd i erlyn am drosedd a gyflawnwyd cyn dyddiad unrhyw ganiatâd ôl-weithredol yn parhau.
Hysbysiad Stop
4.30 Ar ôl cyflwyno Hysbysiad Gorfodi, gall yr Awdurdod ystyried bod unrhyw barhau i dorri rheol mor ddifrifol fel y dylai ddod i ben ar unwaith.
4.31 Yn y cyfryw achosion, bydd Hysbysiad Stop hefyd yn cael ei gyflwyno.
4.32 Gall methu â chydymffurfio ag Hysbysiad Stop arwain at ddirwy ddiderfyn.
4.33 Nid oes hawl apelio yn erbyn Hysbysiad Stop, ac eithrio drwy wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
4.34 Gall cyflwyno Hysbysiad Stop arwain at y rhwymedigaeth i dalu iawndal.
Hysbysiad Stop Dros Dro
4.35 Nid oes rhaid cyhoeddi Hysbysiad Stop Dros Dro gyda Hysbysiad Gorfodi, a daw i rym yn syth.
4.36 Mae Hysbysiad Stop Dros Dro yn peidio â bod mewn grym ar ôl 28 diwrnod a dim ond pan fydd yr Awdurdod hwn o’r farn y dylid dod â’r torri rheolau i ben ar unwaith y caiff ei gyhoeddi.
4.37 Gall methu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro arwain at ddirwy ddiderfyn.
4.38 Nid oes hawl apelio yn erbyn Hysbysiad Stop Dros Dro, ac eithrio drwy wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
Hysbysiad Dirwyn Hysbysebu i Ben
4.39 Ni chaniateir arddangos rhai hysbysebion heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Yn y cyfryw achosion, gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol erlyn pobl sy’n gyfrifol am arddangos hysbyseb anghyfreithlon neu gyflwyno Hysbysiad Dirwyn i Ben (mewn achosion lle nad oes angen caniatâd penodol ar gyfer hysbyseb ond lle mae’n achosi “niwed sylweddol” i amwynder yr ardal neu berygl i aelodau’r cyhoedd).
Hysbysiad Adran 215
4.40 Gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol gyflwyno Hysbysiad Adran 215 i berchennog/ meddiannydd unrhyw dir neu adeilad y bernir ei fod mewn cyflwr anniben i’r graddau ei fod yn cael effaith andwyol ar amwynder y gymdogaeth. Mae’r Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person(au) y cyflwynir yr Hysbysiad iddynt dacluso’r safle ac os na wneir hynny gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol gymryd camau cyfreithiol.
4.41 Mae hawl apelio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar unrhyw Hysbysiad Adran 215 a gyflwynir gan yr Awdurdod hwn.
Hysbysiad Gwneud Gwaith Atgyweirio Brys
4.42 Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wneud gwaith angenrheidiol i adeilad rhestredig, ddylai ond fod yn berthnasol i gyfanrwydd cyffredinol yr adeilad, a gellir ei gyflwyno i bob parti sydd â buddiant yn yr adeilad gwag.
Hysbysiad Atgyweirio
4.43 Gellir cyflwyno’r hysbysiad hwn mewn perthynas ag adeilad rhestredig a feddiannir nad yw, ym marn yr Awdurdod Cynllunio Lleol, yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol.
4.44 Gall hyn arwain at yr Awdurdod yn caffael yr adeilad dan sylw yn orfodol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol.
4.45 Yn yr un modd, mae deddfwriaeth sy’n rhoi’r pŵer i’r Awdurdod Cynllunio gymryd camau gweithredu ar safleoedd mwynau neu lle mae Gorchmynion Cadw Coed wedi’u hanwybyddu.
Hysbysiad Dirwyn i Ben
4.46 Cyflwynir yr hysbysiad hwn os yr ymddengys i Awdurdod Cynllunio Lleol, o ystyried y Cynllun Datblygu ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill, ei bod yn fanteisiol er budd cynllunio priodol yn eu hardal (gan gynnwys er budd amwynder) i gymryd camau i ddirwyn unrhyw ddefnydd o dir i ben neu y dylid gosod unrhyw amodau ar barhau i ddefnyddio tir; neu y dylid newid neu waredu unrhyw adeiladau neu weithiau.
Gorchymyn Dirymu
4.47 Gellir cyflwyno’r Gorchymyn hwn os, ar ôl ystyried y Cynllun Datblygu ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill, ei bod yn ymddangos i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ei bod yn fanteisiol i ddirymu neu addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir a roddwyd drwy gais.
Gwaharddeb
4.48 Pan fo’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn bod angen neu’n fanteisiol i ffrwyno unrhyw achos gwirioneddol neu a amheuir o dorri rheolau cynllunio neu reolau adeiladau rhestredig, gall wneud cais i’r Llys am waharddeb.
4.49 Fel arfer, dim ond pe bai’r achos o dorri rheolau yn arbennig o ddifrifol neu’n hirfaith ac yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed eithriadol i’r amgylchedd lleol y byddai’r cyfryw gamau yn cael eu cymryd. Gall methu â chydymffurfio â gwaharddeb arwain at garchar.
Gweithredu Uniongyrchol
4.50 Dyma pryd y gall yr Awdurdod hefyd fynd i mewn i’r safle a chyflawni’r gwaith sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad yn ddiofyn ac yna ceisio adennill costau’r gwaith gan y perchennog/ meddiannydd.
4.51 Lle mae ‘Gweithredu Uniongyrchol’ yn digwydd, bydd yr Awdurdod yn cofrestru pridiant ar y tir dan sylw er mwyn adennill costau’r gwaith.
Erlyn
4.52 Mewn achosion lle mae trosedd wedi’i chyflawni (peidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau uchod; gwaith heb awdurdod ar adeiladau rhestredig; gwaredu gwrychoedd heb awdurdod, gwaith heb awdurdod ar goed; ac arddangos hysbysebion heb awdurdod), ystyrir erlyn.
Apeliadau gorfodi
4.53 Mae Adran 174(2) o Ddeddf 1990 yn nodi saith sail wahanol ar gyfer cyflwyno apêl gorfodi, sef y saith isod:
(a) mewn perthynas ag unrhyw dorri rheolau cynllunio allai fod yn ganlyniad i’r materion a nodir yn yr hysbysiad, y dylid rhoi caniatâd cynllunio neu, yn ôl yr achos, y dylid rhyddhau’r amod neu’r cyfyngiad dan sylw.
(b) nad yw’r materion hynny wedi digwydd.
(c) nad yw’r materion hynny (os oeddent wedi digwydd) yn gyfystyr â thorri rheolau cynllunio.
(d) ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad, na ellid cymryd unrhyw gamau gorfodi mewn perthynas ag unrhyw dorri rheolau cynllunio allai fod yn ganlyniad i’r materion hynny.
(e) na chafodd copïau o’r hysbysiad gorfodi eu cyflwyno fel sy’n ofynnol gan Adran 172.
(f) bod y camau y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i’w cymryd, neu’r gweithgareddau y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i ben, yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i unioni unrhyw dorri rheolau cynllunio allai fod yn ganlyniad i’r materion hynny neu, yn ôl yr achos, i unioni unrhyw niwed i amwynder a achoswyd gan y cyfryw dorri rheolau.
(g) bod unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag Adran 173(9) yn llai na’r hyn y dylid, yn rhesymol, ei ganiatáu.
Rhan 5: Cwynion
5.1 Bydd unrhyw gwynion ynghylch y modd y cynhaliwyd ymchwiliadau neu gamau gorfodi yn cael eu hymchwilio yn unol â gweithdrefnau cwyno yr Awdurdod. Mae ymchwiliadau a chamau gorfodi yn rhan briodol o swyddogaeth gynllunio yr Awdurdod ac felly ni fydd cwynion a wneir dim ond ar y sail bod ymchwiliad wedi digwydd, neu dim ond ar y sail bod camau gorfodi ffurfiol wedi’u cymryd, yn cael eu hymchwilio.
Rhan 6: Diogelu Data, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth
6.1 Bydd yr Awdurdod yn rheoli gwybodaeth a dderbynnir wrth ymchwilio i honiadau o dorri rheolau cynllunio yn unol â’r wybodaeth a nodir ym mholisi preifatrwydd cynllunio yr Awdurdod (APCAP-Hysbysiad-Preifatrwydd-Cynllunio-2023-1.pdf). Fel y nodir uchod, bydd gwybodaeth allai adnabod achwynwyr yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
6.2 Lle mae ymchwiliad yn mynd rhagddo a bod achos gorfodi ar y gweill, ni fydd yr Awdurdod yn rhyddhau gwybodaeth ynghylch yr achos allai beryglu achos cyfreithiol.
Rhan 7: Atodiad – Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol
Dolenni defnyddiol: :
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd)
- Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
- Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
- Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
- Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 14 ac Arbed) 2015
- Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
- Polisi Cynllunio Cymru
- Llawlyfr Rheoli Datblygu
- Llawlyfr Rheoli Datblygu Adran 14 Atodiad: Offer Gorfodi
- Cylchlythyr 24/97 Gorfodi Darpariaethau Deddfwriaethol Rheoli Cynllunio a Gofynion Gweithdrefnol
- Gorfodaeth Cynllunio APCAP
- Canllaw Gorfodaeth Cynllunio APCAP
- Ffurflen Gwyno ynglŷn â Gorfodaeth Cynllunio
- Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Manylion Cyswllt:
Tîm Gorfodi Cynllunio
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Ffôn: 01646 624 800
E-bost: dc@arfordirpenfro.org.uk
Gwefan: www.arfordirpenfro.org.uk
Rhan 8: Atodiad – Rheoli Polisi
Lefel Newid: Mae angen Cymeradwyaeth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Polisi newydd neu Newid Polisi.
Ymgynghori:Gweithdy Aelodau – Polisi Protocol Gorfodi 05/03/2025
Asesiadau: Asesiad Integredig wedi’i Gwblhau
Cymeradwyaeth: yr Awdurdod Parc Cenedlaethol 26/03/2025
Hanes y Fersiwn:
Fersiwn – f2
Dyddiad Gweithredol –26/03/2025
Crynodeb o’r Newidiadau – Polisi wedi’i ddiweddaru yn unol â deddfwriaeth gyfredol, polisi cynllunio a chanllawiau Llywodraeth Cymru
Adolygiad:
Fersiwn – f2
Dyddiad Gweithredol – 26/03/2025
Perchennog y Ddogfen – Prif Swyddog Cynllunio (Amgylchedd)
Sbardun Dyddiad yr Adolygiad – Cylch adolygu o 3 blynedd
Dyddiad yr Adolygiad – 26/03/2025