Cynllun Partneriaeth 2025-2029
Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2025-2029
Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn cyfrannu at ddibenion y Parc Cenedlaethol o ran cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth o’r Parc.
Mae Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol (a elwid gynt yn Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol) yn fodd o gydlynu’r ymdrech honno. Mae’n cynnwys polisïau, targedau a chamau gweithredu sydd â’r nod o gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.
Mae Grŵp Partneriaeth a nifer o grwpiau cyflawni yn cael eu ffurfio i hwyluso’r gwaith o weithredu a monitro’r Cynllun. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu yma maes o law.
Mae’r dolenni i’r dogfennau perthnasol wedi’u nodi isod.
01 Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2025-2029
02 Fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’r Cynllun Partneriaeth
03 Arfarniad o Gynaliadwyedd (yn ymgorffori’r Asesiad Amgylcheddol Strategol):
04 Atodiad A – Adolygiad o’r Cynlluniau, y Polisïau a’r Rhaglenni Perthnasol
05 Atodiad B – Gwybodaeth Sylfaenol
06 Atodiad C – Asesiadau Manwl o’r Polisïau
07 Asesiad o’r Rheoliadau Cynefinoedd
08 Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
09 Stage 2 Equality Impact Assessment (English language only)
10 Stage 2 Well-being of Future Generations Assessment (English language only)
Roedd y Cynllun Partneriaeth a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar y 26ain o Fawrth 2025 yn cynnwys cyfeirnodau at gamau gweithredu ar ffrydiau gwaith nad oedd yn rhedeg yn olynol. Roedd angen gwneud hyn i gadw cysondeb rhwng yr asesiadau effaith cychwynnol a’r asesiadau terfynol.
Yn y Cynllun Partneriaeth a gyhoeddir, mae’r cyfeirnodau at gamau gweithredu yn rhedeg yn olynol. Mae’r tabl isod yn galluogi trosi rhwng cam 1 (drafft ymgynghori) a fersiwn derfynol y Cynllun Partneriaeth a gyhoeddir.