Beth ydy hyn?
- Mae’n brosiect i bobl, i fywyd gwyllt, i’n hamgylchedd ac yn fwy na dim, i’n dyfodol
 - Bydd Plannu Sir Benfro yn creu coetir gan bobl Sir Benfro, ar gyfer pobl Sir Benfro
 - Bydd coeden yn cael ei phlannu ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni i deulu yn Sir Benfro.
 
Pam?
- Rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd a byd natur. Mae gan sefydliadau cyhoeddus ddyletswydd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, i wella’r amgylchedd ac i’w ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Fel dinasyddion, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
 
Sut?
- Mae Cyngor Sir Penfro wedi rhoi darn o dir ar gyfer plannu’r coed, wedi darparu’r coed, ac wedi cynllunio’r coetir
 - Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio gyda rhieni newydd i annog dewisiadau magu plant cynaliadwy a hyrwyddo’r manteision sydd ynghlwm â threulio amser gyda’i gilydd ym myd natur
 - Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Tir Coed yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl o sefydliadau eraill i blannu’r coed
 
Bydd Plannu Sir Benfro yn:
Amgylchedd:
- Gwella ansawdd dŵr afon Cleddau drwy amsugno dŵr ffo, lleihau erydiad pridd a lleihau llifogydd
 - Lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd yr aer
 - Gwella a gwarchod henebion archeolegol
 
Bywyd gwyllt:
- Cynyddu bioamrywiaeth hen dir fferm drwy ddarparu cynefin a gorchudd coetir ar gyfer gwahanol rywogaethau
 - Cysylltu ardaloedd o goetir, creu coridorau bywyd gwyllt.
 
Pobl:
- Darparu cyfleoedd i bobl wella eu hiechyd corfforol drwy gerdded a phlannu coed
 - Darparu cyfleoedd i bobl wella eu lles meddyliol drwy fod ym myd natur, drwy wirfoddoli a drwy ddysgu a rhannu gydag eraill
 - Darparu cyfleoedd i rieni gysylltu â’u plant, gyda natur a chyda materion cynaliadwy ehangach sy’n ymwneud â magu plant
 - Darparu ymdeimlad o gymuned, ymdrech ar y cyd a gweithredu cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
 
Dyfydol:
- Enghraifft o sut y gall cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat ac unigolion weithio gyda’i gilydd er budd pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd ehangach
 - Creu lle i’n plant a’n hwyrion ei fwynhau, ochr yn ochr â bywyd gwyllt am flynyddoedd lawer i ddod.