Mae Llwybrau Llesiant yn brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl, ac yn canolbwyntio ar bwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro, yn enwedig ei Pharc Cenedlaethol. Mae'r prosiect hwn yn dilyn llwyddiant Gwreiddiau i Adferiad, a'r bartneriaeth lwyddiannus rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro.
Mae Gwreiddiau i Adferiad yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro, ac mae’n cael ei gefnogi drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Medi 2028.
Mae Llwybrau Llesiant ar gyfer…
- Gofalwyr
- Gofalwyr Ifanc
- Pobl Ifanc
- Pobl y mae eu symudedd yn golygu bod llai o gyfleoedd iddynt gael budd o dreulio amser yn yr awyr agored
- Poblogaeth ehangach Sir Benfro sy’n ystyried bod ganddynt iechyd meddwl gwael
Mae ein gweithgareddau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, yn hwyl ac weithiau’n hamddenol, gyda’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd. Gallai rhaglen nodweddiadol gynnwys:
- Celf a chrefft ar thema awyr agored, gyda rhai sesiynau dan do pan nad yw’n bosibl bod yn yr awyr agored
- Teithiau cerdded (sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o alluoedd)
- Cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned – e.e. Gerddi Cymunedol, Tasgau Cadwraeth a Chasglu Sbwriel
- Cyfle i bobl archwilio’r awyr agored ar garreg eu drws ac yn y Parc Cenedlaethol rhyfeddol
- Profiadau awyr agored wedi’u teilwra ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau
Mae’r tîm Llwybrau Llesiant yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan, gan gynnwys trefnu trafnidiaeth ar gyfer llawer o’r gweithgareddau. Mae rhagor o fanylion yn ein rhaglenni misol.
Cefnogir y prosiect gan grŵp brwdfrydig o wirfoddolwyr. I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda’r prosiect, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Manylion cyswllt
Manylion cyswllt
Os hoffech chi gymryd rhan, naill ai fel gwirfoddolwr neu gyfranogwr, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Manylion cyswllt
Sara Walters (Swyddog Gwreiddiau i Adferiad)
E-bost sara@pcmind.org.uk
07943 186630
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Maisie Sherratt (Swyddog Gwreiddiau i Adferiad)
E-bost MaisieS@pembrokeshirecoast.org.uk
07773 778205
Albany Milton (Swyddog Gwreiddiau i Adferiad)
E-bost AlbanyM@pembrokeshirecoast.org.uk
07483 377403