Pwyllgor Adolygu Gweithredol 11/06/2025
10:00am, Rhith-gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Ystyried yr adroddiad canlynol:
04/25 Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Cysylltiad
Cyflwyno asesiad archwiliad dwfn o un o amcanion llesiant, sef Cysylltiad.
Rhoi adolygiad i’r Aelodau o waith yr Awdurdod ar addysg gan ganolbwyntio’n arbennig ar y modd y gellir cyflawni ein hamcanion yn y maes hwn drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill.
Rhoi adolygiad i’r Aelodau o waith y tîm Iechyd a Llesiant, a’r modd y mae gweithgaredd ar hyn o bryd a’r gweithgaredd sydd wedi’i gynllunio yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion pobl drwy leihau anghydraddoldeb, gwella llesiant, a chefnogi Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.
07/25 Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant
Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2025.