Pwyllgor Adolygu Gweithredol 04/03/2026

Dyddiad y Cyfarfod : 04/03/2026

10am, Rhith-gyfarfod

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Ystyried yr adroddiad canlynol:

 

15/26    Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Cymunedau

Cyflwyno archwiliad dwfn ar gyflawni tai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol.

 

Astudiaeth Achos: Grant Tai Cymdeithasol

Rhoi trosolwg i’r Aelodau ar Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.

 

Astudiaeth Achos: Tai Fforddiadwy ar Safleoedd Eithriedig Gwledig

Rhoi trosolwg i’r Aelodau ar gyflawni 31 o dai fforddiadwy ar safle eithriedig gwledig.

 

16/26    Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant

Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 31 Rhagfyr 2025.

 

NODIR:  Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.