Pwyllgor Rheoli Datblygu 21/05/25
10am, Rhith-gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025
4. Ystyried Cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/24/0638/FUL – Creu un safle teithwyr i gynnwys un garafan sefydlog, un garafan deithiol, un ystafell ddydd/ amlbwrpas, a gwelliannau ecolegol (rhannol ol-weithredol) – Tir ger Froghall Yard, Moreton Lane, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9JG
Argymhelliad y Swyddog: Gwrthod
b) NP/24/0484/FUL – Ail-ddatblygu cyn-safle motel/ bwyty ar gyfer defnydd masnachol a chymunedol cymysg, gan gynnwys siop/ swyddfa bost y pentref, cyfleusterau bistro/ bwyty a chynadledda ynghyd â mynedfa newydd i gerbydau, maes parcio a gwelliannau i’r ffordd, tirweddu a gwelliannau bioamrywiaeth ynghyd â newid defnydd tir cyfagos ar gyfer datblygiad twristiaeth sy’n cynnwys hyd at 18 o gabanau gwyliau pren ynghyd â lle parcio a thirweddu (Cynllun Diwygiedig) – Roch Gate (Former Motel), Roch, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AF
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd
c) NP/25/0079/FUL – Ailadeiladu’r sied gerllaw’r capel a ffurfio ramp yn y fynwent – Pisgah Baptist Chapel, Cei Cresswell, Creseli, Sir Benfro, SA68 0TD
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd
6. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:
(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.
(c) Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.
(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.