Pwyllgor Rheoli Datblygu 09/07/25

Dyddiad y Cyfarfod : 09/07/2025

10am, Rhith-Gyfarfod

1.   Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

a)  21 Mai 2025

b)  18 Mehefin 2025

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/25/0137/FUL – Newid defnydd o fod yn ganolfan ddehongli i ddefnydd cymysg o ganolfan ddehongli â bar ar thema Rwm (A3) – The Coastal Schooner, The Harbour, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9HE

Argymhelliad y Swyddog: Gwrthod

b) NP/25/0149/FUL – Ailddatblygu ac estyniad i’r parc gwyliau presennol, i gynnwys gosod sylfeini ar gyfer lleoli carafanau; dymchwel adeiladau; ac addasu ysgubor amaethyddol yn annedd preswyl, a gosod paneli solar ffotofoltäig ar y to; adeiladu garej; a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynediad, lle parcio ceir, tirweddu caled a meddal, a seilwaith uwchben ac o dan y ddaear – Rowston Holiday Park, New Hedges, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8TL

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

c) NP/25/0106/FUL – Ail-gyflwyno NP/23/0636/FUL – newid defnydd tir i greu caban symudol/ carafán o dan polisi 41 â lle penodol ar gyfer maes parcio cymunedol/ lle troi’n ôl, llefydd pasio, ynghyd â gwelliannau ecolegol a thirweddu – Tir gerllaw Old Lime Kilns / Cottages, Middle Kilns Road, Herbrandston, Sir Benfro, SA73 3TE

Argymhelliad y Swyddog: Gwrthod

6.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau  .

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.