Awdurdod y Parc Cenedlaethol 30/07/2025
10am, Rhith-gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:
a) 18 Mehefin 2025 APC Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
b) 18 Mehefin 2025 APC Cyfarfod Cyffredin
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar:
a) 21 Mai 2025
b) 18 Mehefin 2025
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gweithwyr a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2025
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2025
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2025
11. Cadarnhau penodi’r Cynghorydd M James yn gynrychiolydd yr Awdurdod ar Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro.
12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
29/25 Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Diwygiedig a Chynlluniau Cyflawni
Cymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24-26/27 (Diwygiwyd yn 2025) a’r Cynlluniau Cyflawni diwygiedig.
30/25 Adroddiad Blynyddol ar Fonitro’r Fframwaith Partneriaeth 2024/25 a chymeradwyo’r Fframwaith Partneriaeth
Nodi’r adroddiad ar Fonitro’r Fframwaith Partneriaeth a chymeradwyo’r Fframwaith Partneriaeth.
31/25 Cytundeb Partneriaeth Oriel y Parc ag Amgueddfa Cymru
Cymeradwyo adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth pum mlynedd rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Amgueddfa Cymru.
32/25 Cymorth i Croeso Sir Benfro 2026/2029
Gwneud penderfyniad ai rhoi cymorth ariannol i Croeso Sir Benfro am y cyfnod 2026 i 2029.
33/25 Cynllun Datblygu Lleol 2 – Canllawiau Cynllunio Atodol
Cymeradwyo’r dogfennau canllawiau cynllunio atodol ar gyfer ymgynghori.
34/25 Rheolau Sefydlog ar y Gweithdrefnau Contractio a Chaffael
Mabwysiadu’r Rheolau Sefydlog diwygiedig ar Gontractau dyddiedig Gorffennaf 2025.
35/25 Fframwaith ar Hunanwerthuso Cymorth i Aelodau Cymru ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Cymeradwyo’r Fframwaith ar Hunanwerthuso Cymorth i Aelodau Cymru ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried gweithredu’r fframwaith yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
36/25 Cynllun Hyfforddi ar gyfer Datblygu Aelodau
Gofynnir i’r aelodau gytuno ar Gynllun Hyfforddi ar gyfer Datblygu Aelodau.
37/25 Penodiad y Pwyllgor Safonau
Ystyried argymhelliad Panel Penodi’r Pwyllgor Safonau a chwblhau’r broses benodi ar gyfer Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o bum mlynedd yn weithredol o 18 Mehefin 2025.