Awdurdod y Parc Cenedlaethol 25/03/2026

Dyddiad y Cyfarfod : 25/03/2026

10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2026

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2026

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2026

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025 

9. Llenwi swyddi gwag ar y Pwyllgor Adolygu Gweithredol, Pwyllgor Archwilio A Disgyblu, Gweithgor Cynorthwyo Aelodau, Cyd-Bwyllgor Corfforaethol De-Orllewin Cymru – Pwyllgor Craffu ac Pwyllgor Ymgynghorol Porthladd Aberdaugleddau.

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/26    Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2026/27

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlynol:  Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2026/27 a’r rhagolygon 2027/28 i 2029/30.Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf.

Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi, y Cronfeydd wrth gefn, a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2026/27.

10/26    Cymeradwyo grantiau yn unol ag Adran 76 o’r Safonau Ariannol

Gofynnir i’r Aelodau ystyried ac awdurdodi taliad o tua £75,000 i Gyngor Sir Penfro fel cyfraniad tuag at y rhwydwaith bysiau’r arfordir a’r swydd Rheolwr Strategaeth yr Uned Trafnidiaeth Integredig am y flwyddyn ariannol 2026/2027.

11/26    Cyflwyno cynllun trwyddedu mewn perthynas â’r gweithrediadau arfordiro masnachol ar dir sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol neu a brydlesir gan yr Awdurdod.

Gofynnir i’r Aelodau gytuno i gyflwyno cynllun trwyddedu mewn perthynas â’r gweithrediadau arfordiro masnachol ar dir sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol neu a brydlesir gan yr Awdurdod, cyn belled â bod yr asesiadau amgylcheddol cysylltiedig ar y llwybrau penodol wedi’u cwblhau yn foddhaol.

12/26    Tâl i’r Aelodau 2026/27

Nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru am y flwyddyn 2025/26 a phenderfynu pa swydd(i) ddylai dderbyn Tâl Uwch.

11. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

13/26    Diweddariad ar Warchodfa Natur Rosemoor, Sir Benfro

Bydd yr Aelodau yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd y bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn caffael Gwarchodfa Natur Rosemoor, gan gynnwys trosolwg o’r risgiau allweddol.