Awdurdod y Parc Cenedlaethol 22/10/2025
10am, Rhith-gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Medi 2025
7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
42/25 Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni’r Amcanion Llesiant 2024/25
Mae’r adroddiad yn amlygu perfformiad yr Awdurdod am y flwyddyn 2024/25 yn erbyn y gweithgareddau a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27, y Cynlluniau Cyflawni cysylltiedig, a’r datblygiadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
43/25 Adroddiad ar y Tâl Parcio a godir drwy’r peiriannau Talu ac Arddangos 2026
Mae’r adroddiad hwn yn dilyn cyflwyniad a wnaed gerbron Gweithgor Amrywio Incwm yr APC fis Medi eleni ar faterion refeniw codi tâl mewn meysydd parcio, ac mae’n nodi argymhellion ar y tâl i’w godi ym meysydd parcio APCAP i ddod i rym ar y 1af o Fawrth 2026.
Mae’r adroddiad yn nodi cais gan Gyngor Sir Penfro i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ynghylch ariannu cyfleusterau cyhoeddus mewn lleoliadau ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’n amlinellu’r materion a glustnodwyd gan y Gweithgor Aelodau fu’n ystyried y mater hwn yn flaenorol yn 2023, y gweithgaredd a gynhaliwyd rhwng 2023 a 2025, ac yn gwneud argymhellion ynghylch yr ymateb i’w ddychwelyd i Gyngor Sir Penfro.
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r ymgynghoriad gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac i awgrymu unrhyw faterion y dymunant eu cynnwys mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Gan fod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar yr 8fed o Ragfyr 2025, gofynnir i’r Aelodau ddirprwyo’r ymateb i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr.
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cytundeb yr Aelodau i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2024-2025 (adroddiad rhif 4) i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2025 ac i gymeradwyo’r ymatebion i’r sylwadau a dderbyniwyd ar Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-2024 (adroddiad rhif 3).
47/25 Adroddiad Blynyddol ar faterion Diogelu 2024-25
Diben yr adroddiad hwn yw rhoi sicrwydd parhaus i Aelodau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol a’r rhanddeiliaid eraill bod y prosesau a’r systemau sydd yn eu lle i reoli materion Diogelu o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel yr Awdurdod) yn parhau i fod yn effeithiol.
48/25 Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024/25
Mae’r adroddiad yn amlinellu perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y meysydd cydraddoldeb y mae’n ofynnol adrodd arnynt ar gyfer 2024/25. Mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu’r adroddiad hwn o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Mae’r papur yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y Fframwaith newydd ar gyfer adrodd i Lywodraeth Cymru ar y camau ymlaen a gymerwyd yn y meysydd gwaith a gynhwysir yn Llythyr Grant Strategol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol 2025-26.
50/25 Aelodaeth o’r Pwyllgorau Disgyblu, Cwynion ac Apêl
Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad o aelodaeth y Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, y Pwyllgor Cwynion a Phwyllgor Apêl yr Awdurdod.