Awdurdod y Parc Cenedlaethol 18/06/2025

Dyddiad y Cyfarfod : 18/06/2025

10:15am, Rhith-gyfarfod

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 07 Mai 2025

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 09 Ebrill 2025 a 12 Mai 2025.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Pobl a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2025

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gwyrfoddolwyr a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2025

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

 

22/25    Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (LlC) ar y Newidiadau i’r Hawliau Datblygu a Ganiateir

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ymateb yr Awdurdod i Ymgynghoriad LlC ar y newidiadau i’r hawliau datblygu a ganiateir.

23/25    Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau

Yn unol â’n dyletswydd statudol, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu’r modd y mae swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau wedi’u cyflawni, ac yn rhoi trosolwg o’r materion ymddygiad yn gyffredinol o fewn yr Awdurdod.

24/25    Gweithdrefn ar gyfer Ymdrin â Honiadau yn erbyn Aelodau

Cymeradwyo’r weithdrefn arfaethedig ar gyfer cynnal ymchwiliad gan Bwyllgor Safonau yr Awdurdod.

25/25    Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.

26/25    Pwyllgor Gwasanaethau Pobl

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i uno’r Pwyllgor Gwasanaethau Pobl â’r Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol.

27/25    Digwyddiadau Corfforaethol

Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

 

10. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

11. Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr ar y Newidiadau i Gofrestr Risg yr Awdurdod.