Awdurdod y Parc Cenedlaethol 17/12/2025

Dyddiad y Cyfarfod : 17/12/2025

10yb, Rhith-gyfarfod

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2025

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2025

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2025

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Medi 2025

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

51/25    Cytundeb i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y dogfennau paratoadol allweddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol 3 newydd. 

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cytundeb yr Aelodau i gynnal ymgynghoriad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n ymgorffori’r Adroddiad ar Gwmpas yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, a’r Papur ar y Materion, y Weledigaeth a’r Amcanion Drafft ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol 3 (CDLl 3) newydd.

52/25    Rhestr o’r tâl a godir am y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio dewisol anstatudol

Gofynnir i’r Aelodau gytuno ar gynyddu’r tâl a godir am y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio dewisol anstatudol yr Awdurdod.

53/25    Strategaeth Datblygu’r Aelodau

Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r Strategaeth ddiwygiedig ar Ddatblygu’r Aelodau.

54/25    Croeso Sir Benfro

Rhoi trosolwg i’r Aelodau o waith Croeso Sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

10. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

11. Ystyried yr adroddiad canlynol:

55/25    Cytuno ar Gymorth i Ironman Cymru 2027-2029

Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb ar y camau nesaf o ran cymorth ariannol APCAP i gynnal Ironman Cymru o 2027-2029.

56/25    Caffael Gwarchodfa Natur Rosemoor, Sir Benfro

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo mewn egwyddor bod yr Awdurdod yn caffael Gwarchodfa Natur Rosemoor, ac awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â’r trafodaethau gyda’r tirfeddiannwr presennol a rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau’r trosglwyddo.

 

NODIR:               Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.