Awdurdod y Parc Cenedlaethol 10/09/2025
10am, Rhith-gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 09 Gorffennaf 2025
7. a) Llenwi swyddi gwag ar y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a’r Fforwm Gweithwyr sydd wedi ei llenwi dros dro gan Dr R Plummer a Mr G Jones.
b) Cadarnhau penodi’r Cynghorydd S Alderman yn gynrychiolydd yr Awdurdod ar Bwyllgor Ymgynghorol Porthladd Aberdaugleddau.
8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
38/25 Cytundeb Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol 3
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo cyflwyniad y Cytundeb Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol 3 i Lywodraeth Cymru am Gytundeb.
39/25 Mabwysiadu Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Cei Cresswell
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Cei Cresswell fel Canllawiau Cynllunio Atodol.
40/25 Grŵp Partneriaeth y Parc Cenedlaethol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cylch Gorchwyl Drafft a’r aelodaeth ar gyfer Grŵp Partneriaeth i gynorthwyo gyda chyflwyniad y Cynllun Partneriaeth 2025/29.
41/25 Ymgynghoriad ar ymestyn y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarlledu cyfarfodydd
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad.
NODIR: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.