Awdurdod y Parc Cenedlaethol 07/05/2025

Dyddiad y Cyfarfod : 07/05/2025

10am, Rhith-gyfarfod

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 05 Mawrth 2025

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

17/25    Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) ar Wersylla a Charafanau

Cadarnhau’r Cyfarwyddyd arfaethedig o dan Erthygl 4 (1) ar gyfer defnyddio tir am 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, carafanau a/neu gartrefi symudol.

18/25    Cytundeb i Gyflawni Cynllun Datblygu Lleol 3

Cymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni drafft ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

19/25    Llythyr Cylch Gwaith

Nodi Llythyr Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru.

20/25    Rhaglen y Tirweddau Dynodedig ar Ffermio Bro – Panel Asesu Lleol

Sefydlu Panel Asesu Lleol ar Ffermio Bro, mabwysiadu’r Cylch Gorchwyl Cenedlaethol, a phenodi tri Aelod ar y panel.

21/25    Amrywio Rheol Sefydlog 16

Nodi’r amrywiad i Reol Sefydlog Contract 16 ar gyfer caffael pont droed newydd ar frys yn lle’r bont beryglus bresennol.

 

  1. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

  1. Derbyn diweddariad llafar oddi wrth y Prif Swyddog Cynllunio (Polisi Strategol) ynglŷn ag Fferm Wynt Arnofiol Llŷr ar y Môr.

 

NODIR:               Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.