Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 14/05/25
10am, Rhith-gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3.Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025.
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2025
6. d yr adroddiadau canlynol:
09/25 Crynodeb Archwilio Blynyddol 2024
Mae crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos y gwaith a wnaed ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024.
10/25 Cynllun Archwilio Archwilio Cymru 2025
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2025 oddi wrth Archwilio Cymru.
11/25 Adroddiad Archwilio Cymru ar Hyrwyddo Mynediad i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn amlinellu barn Archwilio Cymru yn dilyn y gwaith a wnaed i asesu’r modd y mae’r Awdurdod yn hyrwyddo mynediad i’r Parc Cenedlaethol.
12/25 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau ymlaen a gymerwyd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2024/25, a chrynodeb o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn, ynghyd â’r adroddiadau a gwblhawyd ers y cyfarfod diwethaf.
13/25 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Mawrth 2025)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
14/25 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 31ain o Fawrth 2025.
15/25 Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella corfforaethol.
16/25 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Ebrill 2025 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
8. Ystyried yr adroddiad canlynol:
17/25 Newidiadau i broses yr Awdurdod o Reoli Risg
Mae’r adroddiad yn cyflwyno fersiynau diwygiedig o’r dogfennau sy’n ymwneud â Rheoli Risg, a gofynnir i’r Aelodau am eu sylwadau cyn cyflwyno’r fersiynau terfynol gerbron yr Awdurdod i’w cymeradwyo.
9. Derbyn diweddariad llafar ynghylch y camau ymlaen a gymerwyd ar yr adolygiad o seiberddiogelwch gan archwilio mewnol.
10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.