Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 12/11/25
10am, Rhith Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
24/25 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant 
Mae’r adroddiadau yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Prosiectau a’r Dangosyddion Blaenoriaeth / Y Camau Gweithredu o ran y Meysydd Newid Corfforaethol / Y Camau Gwella yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol am y Cyfnod yn Diweddu ar 30 Medi 2025.
25/25 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 30 Medi 2025) 
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
26/25 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
27/25 Adroddiad ar Gynorthwyo a Datblygu Aelodau
Ystyried diweddariad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar Gynorthwyo a Datblygu Aelodau.
28/25 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at 30 Medi 2025
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2025
29/25 Adroddiadau Archwilio Mewnol 
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau ymlaen a gymerwyd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2025/26, a chrynodeb o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn.
6. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
7. Ystyried yr adroddiad canlynol:
30/25 Parhad Technoleg Gwybodaeth ac Adfer ar ôl Trychineb
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau drafod yr Adroddiad ar Barhad Technoleg Gwybodaeth ac Adfer ar ôl Trychineb a ddarparwyd gan Archwilio Mewnol.
31/25 Y Polisi Rheoli Risg – Y Gofrestr Risg a’r Datganiad Rheoli Risg
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau a thrafod fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Risg, yr Adroddiad ar Sicrwydd Ail Linell, a’r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg.
8. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.