Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 25/02/26

Dyddiad y Cyfarfod : 25/02/2026

10am, Rhith Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2025

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Derbyn adroddiad y cyfarfodydd o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf and 21 Hydref 2025 a 13 Ionawr 2026

6. Derbyn adroddiad y cyfarfodydd o’r Gweithgor Arallgyfeirio Incwm a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf a 17 Medi 2025

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/26 Paratoi at y dyfodol? Cynaliadwyedd ariannol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y camau a gymerir gan yr Awdurdod i’w helpu i fod yn gynaliadwy yn ariannol

02/26 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Cyflwynir yr adroddiadau Archwilio Mewnol o ran Rheoli Asedau, Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Rhanddeiliaid, Rheoli Risg, a Chynllunio Strategol, ynghyd ag adroddiad dilynol ar y cynnydd tuag at weithredu’r camau y cytunwyd arnynt a glustnodwyd yn yr adroddiadau blaenorol.

03/26 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Rhagfyr 2025)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.

04/26 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiadau yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Prosiectau a’r Dangosyddion Blaenoriaeth / Y Camau Gweithredu o ran y Meysydd Newid Corfforaethol / Y Camau Gwella yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol am y Cyfnod yn Diweddu ar 31 Rhagfyr 2025

05/26 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

06/26 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 9 mis hyd at 31 Rhagfyr 2025
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2025.

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

07/26 Y Polisi Rheoli Risg – Y Gofrestr Risg a’r Datganiad Rheoli Risg
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau a thrafod fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Risg, yr Adroddiad ar Sicrwydd Ail Linell, a’r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg.

10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.