Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 23/07/25
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cyng D Clements
Cynigwyr: Dr M Havard
Eilydd: Neb
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cyng C George
Cynigwyr: Dr M Havard
Eilydd: Cyng D Clements
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2025
6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
18/25 Adroddiad Archwiliad Mewnol
Derbyn yr adroddiadau isod:
· Rheolaethau Ariannol Allweddol (Asedau Sefydlog)
· Strategaeth TG a Thrawsnewid Digidol
· Canolfannau Ymwelwyr
· Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2024/25
19/25 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Mai 2025)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
20/25 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
21/25 Datganiad Drafft o Gyfrifon 2024/25
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn y Datganiad Drafft o Gyfrifon 2024/25
22/25 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25 ac i lywio’r datganiad.
8. Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Ariannol a Chodi Arian ar berfformiad y gyllideb yn y chwarter cyntaf.
9. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
10. Ystyried yr adroddiad canlynol:
23/25 Gweithredu’r Polisi Rheoli Risg
Diweddaru’r Aelodau ar weithredu’r Polisi Rheoli Risg newydd drwy gyflwyno Cofrestr Risg drafft a Datganiad Archwaeth Risg drafft.
11. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus