Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024/25

Cyhoeddwyd : 23/02/2026


Cynnwys


 

Adran 1: Cyflwyniad a Chefndir

Adran 2: Adnabod, casglu a defnyddio gwybodaeth cydraddoldeb perthnasol

Adran 3: Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Adran 4: Diwylliant

Adran 5: Trefniadau caffael

Adran 6: Gweithgareddau i gefnogi cyflawni Amcanion Cydraddoldeb yr Awdurdod

Nod Tymor Hir 1: Creu Parc sy’n Dirwedd i Bawb

Nod Tymor Hir 2: Bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn gynhwysol yn ddiofyn a bod ein prosiectau yn cyfrannu at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Nod Tymor Hir 3: Bod ein gweithlu yn amrywiol, ein bod yn gyflogwr o ddewis a bod y staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth mewn amgylchedd gwaith sy’n gynhwysol ac yn deg

Nod Tymor Hir 4: Bod ystod amrywiol o bobl yn gallu dylanwadu ar waith yr Awdurdod ac ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar ardal y Parc

Atodiad 1 –Data Recriwtio a Chydraddoldeb y Gweithlu ac Ymateb i Ddadansoddi

 


Adran 1: Cyflwyniad a Chefndir


O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 rhaid i gorff rhestredig yng Nghymru lunio adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.

 


Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Ddyletswydd Gyffredinol


Wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau, rhaid inni roi sylw dyladwy i:

  • Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill
  • Wrth ystyried sut i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill, mae angen inni hefyd:

Dileu neu leihau hyd yr eithaf unrhyw anfanteision a ddioddefir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno.

Bodloni’r anghenion hynny sydd gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol sy’n wahanol i anghenion pobl eraill

Annog pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu unrhyw weithgaredd arall lle mae cyfranogiad gan y bobl hynny’n anghymesur o isel.

 


Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Dyletswyddau Penodol


Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn darparu pŵer i wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i gefnogi perfformiad gwell o’r Ddyletswydd Gyffredinol; dyma Ddyletswyddau Penodol Cymru. Mae’r dyletswyddau penodol yng Nghymru wedi’u nodi yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Maent yn nodi gofynion y mae’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â hwy ar:

  • Amcanion
  • Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol
  • Ymgysylltu
  • Asesu Effaith
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb
  • Gwybodaeth cyflogaeth
  • Gwahaniaethau cyflog
  • Hyfforddiant staff
  • Caffael
  • Adrodd yn flynyddol
  • Cyhoeddi
  • Adolygu
  • Hygyrchedd

 


Pwy sy’n cael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?


Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu nodweddion gwarchodedig. Dyma’r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i nodi’r mathau o bethau sy’n effeithio ar sut mae pobl yn cael eu trin a gall olygu y gall pobl ddioddef gwahaniaethu. Mae’r gyfraith wedi’i chynllunio i’w diogelu, sef:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd, cred neu ddiffyg cred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

 


Adran 2: Adnabod, casglu a defnyddio gwybodaeth cydraddoldeb perthnasol


Cyflogaeth a Recriwtio


Mae’r Awdurdod yn casglu gwybodaeth monitro cydraddoldeb fel rhan o’i broses recriwtio.

Mae’r Awdurdod yn casglu gwybodaeth am ei weithlu, ac mae hyn yn cael ei gofnodi drwy system Cezanne. Effeithiwyd ar lefelau o wybodaeth a gedwir pan newidiodd yr Awdurdod i system Cezanne, fodd bynnag, mae bellach yn gweld lefelau o wybodaeth yn gwella. Ar ddiwedd 2024/25 roedd 71.24% o ddata monitro cydraddoldeb wedi’i gwblhau’n llawn ar System Cezanne. Mae hyn yn debyg i 70.31% ar ddiwedd 2023/24. Mae lefelau’r data a gedwir wedi effeithio ar y gallu i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn gywir ar gyfer y categorïau ethnigrwydd, anabledd a chrefydd a chred.

Caiff data ei ddadansoddi’n flynyddol a’i adrodd yn flynyddol – gweler Atodiad 1. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y tro cyntaf ar ddata monitro hyfforddiant a chydraddoldeb. Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Awst 2025 rhwng Pennaeth Gwasanaethau Pobl, Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Llywodraethu a’r Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth i adolygu data 2024/25 a’r mater o categorïau gydag ymateb isel. Mae cynllun gweithredu wedi’i roi ar waith i fynd i’r afael â meysydd sy’n peri pryder; nodir rhagor o wybodaeth yn yr Atodiad.

Mae ein data monitro cydraddoldeb yn llywio cynllunio ar gyfer y gweithlu gyda ffocws penodol ar faterion sy’n ymwneud â risgiau proffil oedran i’r Awdurdod a chynllunio olyniaeth.

Roedd gan ein cynlluniau cyflawni yn 2024/25 gamau gweithredu penodol ar:

  • Archwilio llwybrau newydd i gyfleoedd cyflogaeth trwy gyfleoedd datblygu sgiliau/hyfforddiant/prentisiaeth
  • Datblygu Cynllun Sefydliad a Gweithlu

Fel rhan o adolygiad 2025 o’r Cynlluniau Cyflawni, mae’r camau gweithredu hyn wedi’u cario ymlaen i’r Gynlluniau Cyflawni ar Gwasanaethau Corfforaethol – Cefnogi ein Hamcanion Llesiant ac Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am yr Parc.

Parhaodd yr Awdurdod â gweithgareddau i gefnogi ei Adolygiad Cyflog a Graddio yn 2024/25. Fel rhan o’r broses hon, cynhaliwyd dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a disgwylir i ganlyniad y dadansoddiad hwn gael ei adrodd yn 2025/26.

 


Perfformiad/ Astudiaethau Achos Effaith


Mae gwybodaeth am ein gweithgareddau cynhwysiant ac allgymorth a’n gwaith cydraddoldeb corfforaethol yn cael eu casglu fel rhan o’n fframwaith perfformiad. Caiff data ei gadw ar ein system adrodd perfformiad a’i hadrodd i’r Aelodau drwy adroddiadau Pwyllgor perthnasol i’w galluogi i graffu ac asesu ein gwaith yn y maes hwn.

Mae staff hefyd yn cyflwyno Astudiaethau Achos Effaith sydd wedi’u cynnwys mewn adroddiadau perfformiad, ac maent wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer dangos effaith ein prosiectau a’n gweithgareddau cynhwysiant ac allgymorth.

 


Asesiadau Effaith a Chynllunio Strategol


Defnyddir ystod eang o setiau data i lywio cynllunio strategol ac asesiadau effaith cysylltiedig, gan gynnwys:

  • Data Cyfrifiad
  • CCHD – A yw Cymru’n Decach
  • Data sy’n hysbysu Dangosyddion Cenedlaethol Cymru a Cherrig Milltir Cenedlaethol
  • Data Llywodraeth Cymru o ran arolygon ymwelwyr ac arolwg cenedlaethol i Gymru
  • Asesiad Llesiant Sir Benfro
  • Adroddiadau tlodi gan JRF a End Child Poverty
  • Ymchwil ac adroddiadau sy’n ymwneud â rhwystrau rhag cael mynediad i’r awyr agored

Yn 2024/25, helpodd y ffynonellau data hyn i lywio’r asesiad effaith cydraddoldeb ar y Cynllun Partneriaeth a’r asesiad integredig ar y Cynllun a’r Amcanion Cydraddoldeb.

Datblygwyd dogfen dystiolaeth ategol i lywio adolygiad Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb yr Awdurdod yn 2025 a chafodd ei chyflwyno i’r Aelodau ochr yn ochr â’r Cynllun.

Mae cyfyngiadau i setiau data ar ymwelwyr o ran cefnogi dadansoddiad yn erbyn nodweddion gwarchodedig. Dyma rywbeth a nodwyd gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad ar Hyrwyddo Mynediad i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae hwn yn faes heriol ac mewn ymateb i argymhellion Archwilio Cymru, cytunodd yr Awdurdod ar yr ymatebion rheoli canlynol:

  • Defnyddio data o ddata ymwelwyr ehangach gan Llywodraeth Cymru i lywio ein gwaith, ac archwilio cyfleoedd gyda chyrff perthnasol er mwyn iddynt gynnwys ystod ehangach o ddata demograffig yn y wybodaeth ymwelwyr y maent yn ei chasglu ac yn ei hadrodd.
  • Mae’r Awdurdod yn cynnal arolwg llwybr arfordirol o bryd i’w gilydd, wedi’i gyfeirio yn ein strategaeth rheoli llwybr arfordirol a byddwn yn archwilio dichonoldeb casglu data demograffig ehangach yn yr iteriad nesaf ohono.
  • Gweithredu arolwg blynyddol sydd eisoes yn cael ei ddatblygu gyda’n cyfranogwyr prosiect a gwirfoddol, a chreu fframwaith i sicrhau bod adborth a gwybodaeth a gesglir gan y Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant yn cael ei fwydo drwodd i lywio cynllunio strategol corfforaethol ehangach, gweithgareddau gwella a datblygu prosiectau.
  • Archwilio dichonoldeb casglu data demograffig fel rhan o unrhyw arolygon adborth a ddatblygir ar gyfer Canolfannau a Rhaglen Digwyddiadau a Gweithgareddau.

Mae’r Awdurdod hefyd wedi adolygu amrywiol adroddiadau a dogfennau canllaw sy’n tynnu sylw at rwystrau wrth gael mynediad at fannau awyr agored a natur y mae unigolion â nodweddion amrywiol neu groestoriadol yn eu hwynebu. Mae wedi ystyried yr argymhellion a ddarparant ar wella cynhwysiant a hygyrchedd fel rhan o gynllunio strategol, asesiadau integredig a datblygu prosiectau.

Er mwyn llywio llunio polisïau defnydd tir, bu’r Awdurdod yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro ar Asesiad Marchnad Dai Leol Sir Benfro 2023. Ychwanegwyd cyfeiriadau yn yr Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol 2, yn dilyn ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd ar yr adroddiad draft, i ystyried tystiolaeth o’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol mewn perthynas â gofynion tai penodol ar gyfer pobl hŷn a pobl anabl ac at Safonau Cartrefi Gydol Oes.  Fel rhan o’r adolygiad hwn, ystyriodd yr Awdurdod hefyd y dystiolaeth ddiweddaraf o’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (2019). Cynhelir Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr newydd ar gyfer Sir Benfro yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru.

 


Mapio Rhanddeiliaid a Data Lefel Prosiect


Mae’r Awdurdod yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu penodol lle bo angen i helpu i lywio datblygiad prosiect. Mae hyn yn bwysig o safbwynt cydraddoldeb o ran sicrhau bod yr atebion a’r ymyriadau a ddatblygwn yn cael eu llywio gan y rhai y maent yn ceisio cael budd ohonynt.

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant gyfres o weithdai tîm yn ystod 2024 i ddadansoddi ein rhanddeiliaid a blaenoriaethu meysydd lle dylem ganolbwyntio ein hadnoddau a’n hymdrech. Mapiodd y gweithdy cyntaf y we o gysylltiadau sydd gan aelodau’r tîm a nododd y rhanddeiliaid hynny yr ydym yn tynnu arnynt am gefnogaeth a phartneriaeth a’r rhai lle rydym yn darparu cefnogaeth ac ymgysylltiad. Cafodd y rhain eu grwpio gyda’r grŵp olaf o randdeiliaid, y rhai sydd ‘pellaf’ oddi wrthym, sef y rhai yr ydym wedi’u nodi fel rhai sydd angen cysylltiad cryfach. I adeiladu ar y gwaith mapio hwn, cynhaliodd y Tîm ymarfer Dadansoddi Rhanddeiliaid i baru’r rhanddeiliaid a nodwyd a’u sefydliadau cynrychioliadol â’r meysydd priodol o’n gwaith ymgysylltu a chynhwysiant.
Fe wnaethant nodi cymhellion posibl dros gydweithio ac yn rhoi blaenoriaeth i bob grŵp o randdeiliaid.

Bydd ymgysylltu mwy manwl â rhanddeiliaid yn parhau i gael ei gynnal fel rhan o’r broses o werthuso a datblygu prosiectau newydd. Yn 2024/25, er enghraifft, helpodd Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i ddylunio ein gwefan newydd i archebu offer symudedd awyr agored er mwyn sicrhau ei bod mor hygyrch â phosibl. Mae cynnwys rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad ein Prosiect Gwreiddiau i Adferiad a’r prosiect dilynol Llwybrau i Ddarganfod. Fel rhan o ddatblygu’r Prosiect Llwybrau i Ddarganfod, bu swyddogion yn gweithio gyda phobl ifanc a gofalwyr i fapio sut y gallem ymgysylltu â hwy a’u cynnwys. Nid oedd gan y Prosiect Agored i Bawb werthuswr allanol, ond cynhaliwyd gwerthusiad mewnol a’i gofnodi yn yr adroddiad terfynol y prosiect.

 


Arolwg Cyfranogwyr Ymgysylltu a Chynhwysiant


Ym mis Mawrth ac Ebrill 2025, cynhaliodd yr Awdurdod arolwg ar gyfer cyfranogwyr unigol mewn gweithgareddau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant i helpu i sicrhau ansawdd. Mae’r rhain yn cynnwys gwirfoddolwyr, cyfranogwyr mewn gweithgareddau lles a gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â phrosiectau a rhaglenni cynhwysiant.

Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio ffurflen ar-lein, a oedd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd yn cynnwys y cwestiynau canlynol:

  • Cwestiwn 1: Pa mor fodlon ydych chi ar y cyfan â’ch profiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad y Parc Cenedlaethol?
  • Cwestiwn 2: Beth oedd y peth gorau am eich gweithgaredd?
  • Cwestiwn 3: A oeddech chi’n teimlo’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad y Parc Cenedlaethol?
  • Cwestiwn 4: Oes unrhyw beth sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gymryd rhan?
  • Cwestiwn 5: Beth fyddai’n gwneud eich profiad yn well?
  • Cwestiwn 6: Cwestiwn dewisol i ddweud mwy am y gwasanaeth penodol yr ymgysylltir ag ef.

Dychwelwyd 51 o arolygon, 3 yn y Gymraeg a 48 yn Saesneg, gyda chynrychiolaeth gref o gyfranogwyr mewn teithiau cerdded lles a gwirfoddoli. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol gyda 44 o ymatebwyr yn rhoi sgôr o 5/5 i’w profiad a’r 7 sy’n weddill yn rhoi sgôr o 4/5. Yr ymateb uchaf i gwestiwn 2 oedd cyfeillgarwch neu fudd cymdeithasol. Mae hyn yn dangos y cysylltiad cadarnhaol sydd gan ein gwaith wrth gefnogi maes “Ymgysylltu” o’r 5 Ffordd i Lesiant Meddyliol. Gwneir hyn trwy helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn a hunanwerth, gan roi cyfle i bobl rannu profiadau cadarnhaol a darparu cefnogaeth emosiynol a chaniatáu i gyfranogwyr gefnogi eraill.

“Y profiad o fod allan yn yr awyr iach gyda phobl o’r un anian. Mor dda i’m hiechyd meddwl.”

“Mae’n grŵp cyfeillgar iawn, lle mae aelodau’n cydweithio’n dda gan helpu gyda phrosiectau Cadwraeth a hefyd yn cael hwyl wrth ddysgu sgiliau newydd.”

“Cynhwysol iawn – yn teimlo fel bod lle a thasg i bawb.”

Nid oedd mwy na hanner y cyfranogwyr yn teimlo bod unrhyw rwystrau i’w cyfranogiad ac yn teimlo nad oedd unrhyw welliannau i’w gwneud. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o adborth y byddwn yn mynd i’r afael ag ef megis amrywio amseroedd a dyddiau gweithgareddau, darparu opsiynau hygyrch i bobl heb drafnidiaeth a sicrhau bod amser cymdeithasol ar gyfer diod boeth.

Nododd un person nad oedd yn teimlo’n ddiogel yn ystod ei weithgaredd, ond ni roddodd unrhyw reswm nac unrhyw arwydd o’r rheswm pam. Rydym yn archwilio ein harferion gwaith diogel yn rheolaidd ac yn parhau i wneud hynny. Bydd aelodau’r tîm yn annog cyfranogwyr i deimlo y gallant adrodd yn gyfrinachol am unrhyw bryderon a allai fod ganddynt.

Ni atebodd pob ymatebydd gwestiwn 6 ac ni wnaeth rhai grwpiau yr ydym yn gweithio gyda nhw ymateb, felly byddwn yn adolygu’r fethodoleg ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Bydd yr Arolwg Cyfranogwyr yn cael ei ailadrodd yn flynyddol fel rhan o’r gyfres o fesurau a ddefnyddir i archwilio a sicrhau ansawdd ein gwasanaethau.

 


Fforymau


Mae gan yr Awdurdod Fforwm Pwyllgor Ieuenctid ar waith fel rhan o’i Weithgareddau Cenhedlaeth Nesaf. Darperir cofnodion o Fforwm y Pwyllgor Ieuenctid i Aelodau fel rhan o bapurau Pwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Ymgysylltwyd â’r grŵp hwn hefyd fel rhan o ddatblygu’r Cynllun Partneriaeth. Mae swyddogion yn archwilio cyfleoedd i aelodau Fforwm y Pwyllgor Ieuenctid gymryd rhan yn y Grŵp Partneriaeth sy’n cael ei ddatblygu i gefnogi gweithredu’r Cynllun Partneriaeth.

Mae gan yr Awdurdod Fforwm Gwirfoddolwyr ar waith. Darperir cofnodion o’r Fforwm Gwirfoddolwyr i’r Aelodau fel rhan o bapurau Pwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mae’r Awdurdod yn gweithio ar ymgorffori dull partneriaeth gymdeithasol trwy ymgysylltu’n gadarnhaol a rhagweithiol ag Undeb Llafur cydnabyddedig Unison a gweithio gyda staff trwy’r Grŵp Cynrychiolwyr Staff. Mae’r Grŵp Cynrychiolwyr Staff yn rhoi cyfle i’r Awdurdod gael adborth gan staff. Mae cynrychiolydd undeb staff yn eistedd ar y grŵp hwn. Mae cynrychiolwyr undeb yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Fforwm Cyflogeion rhwng staff ac Aelodau. Cyfarfu swyddogion â’r Undeb i drafod sut i ddatblygu dull partneriaeth gymdeithasol gyda nhw. Roedd yr Undeb yn rhan o’r Adolygiad Cyflog a Graddio ac mae cynrychiolydd Undeb yn aelod o’r panel gwerthuso swyddi mewnol.

 


Datganiad o Effeithiolrwydd


Mae’r Awdurdod yn casglu ac yn defnyddio ystod o ddata o wahanol ffynonellau i lywio, cyfeirio ac asesu effaith ei waith cydraddoldeb a chynhwysiant.

Mae heriau’n parhau o ran bylchau yn y data monitro cydraddoldeb yn y gweithlu, sydd wedi effeithio ar ddadansoddiad dross awl blwyddyn a phroffil y gweithlu.

Mae data demograffig manwl am ymwelwyr ar gyfer y Parc yn faes heriol arall. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau ymchwil ac ymgysylltiadau eraill, mae’r Awdurdod wedi datblygu dealltwriaeth gref o rwystrau a all effeithio ar allu pobl i gael mynediad at y Parc a chael budd ohono. Mae’r ddealltwriaeth hon wedi helpu i ddatblygu prosiectau sy’n helpu i gael gwared ar rai o’r rhwystrau hyn.

 


Adran 3: Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb


Mae gan yr Awdurdod dempled asesu integredig ar waith sy’n cynnwys ei asesiadau effaith ar gydraddoldeb. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ac effeithiau iechyd hefyd wedi’u hymgorffori yn y broses asesu integredig. Ar gyfer y Cynllun Partneriaeth a’r Cynllun Datblygu Lleol, cynhelir asesiadau effaith cydraddoldeb ar wahân.

Yn 2024/25 cynhaliwyd 8 asesiad effaith cydraddoldeb fel rhan o asesiad integredig (sy’n cynnwys gwahanol gamau asesu). Lle bo angen, cymerwyd dull cam wrth gam gydag asesiadau’n cael eu hadolygu a’u diweddaru ar wahanol gamau o’r cyfnodau ymgynghori a chymeradwyo. Cynhaliwyd asesiadau ar y canlynol:

  • Cyfarwyddyd Erthygl 4 Datblygiad a Ganiateir 28 Diwrnod Cam 1 / Cam 2
  • Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Cei Cresswell (cyn Ymgynghori) Cam 1/ Cam 2/ Cam 3
  • Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Cam 1/ Cam 2
  • Polisi Gorfodi (Angen i’w gwblhau wedi’i nodi ar ôl cwblhau’r Ddogfen Sbarduno)

Cynhaliwyd asesiad effaith cydraddoldeb ar wahân ar y Cynllun Partneriaeth. Asesiad fesul cam oedd hwn, gydag asesiad cychwynnol cam 1 yn cael ei gynnal cyn ymgynghori. Yna, fel rhan o gam 2, cafodd ei adolygu a’i ddiweddaru ar ôl ymgynghori cyn i’r cynllun gael ei gymeradwyo’n derfynol.

Yn ystod y flwyddyn, datblygodd staff adnoddau ymhellach i gefnogi’r broses asesu integredig ac asesu effaith cydraddoldeb. Roedd hyn yn cynnwys creu dogfen sbarduno i gefnogi nodi a oedd angen asesiad llawn, diweddaru canllawiau a thempled asesu integredig a ffurfio’n swyddogol a diweddaru adrannau o fewn Adroddiadau’r Pwyllgor.

Ar hyn o bryd mae’r Awdurdod hefyd yn archwilio datblygiad rhestrau gwirio ac offer lefel prosiect i gefnogi asesu effaith fel rhan o ddatblygu prosiectau.

 


Section 4: Diwylliant


Hyfforddiant


Mae hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gael i staff ei gwblhau drwy blatfform dysgu ar-lein ELMS, ac mae’n rhan o’r prosesau sefydlu.

Darperir hyfforddiant ychwanegol i staff, gwirfoddolwyr ac Aelodau yn ôl yr angen. Roedd staff a gwirfoddolwyr yn gallu cael mynediad at ystod o gyfleoedd hyfforddi a ddarparwyd gan y prosiect Agored i Bawb yn 2024/25. Roedd hyn yn arbennig o fuddiol i’r Tîm Ewch i’r Awyr Agored a gafodd hyfforddiant arbenigol i gryfhau eu sgiliau mewn ymgysylltu awyr agored a chefnogaeth gynhwysiant.

Derbyniodd Rheolwyr Llinell hyfforddiant ar bolisi recriwtio newydd a pholisïau absenoldeb salwch Hirdymor a Thymor Byr.

Derbyniodd aelodau hyfforddiant ar Aflonyddu Rhywiol yn y gweithle.

Trefnodd yr Awdurdod Seminar Aelodau Cymru 2025/26 a oedd yn canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol i Bawb. Rhoddodd gyfle i Aelodau’r Awdurdod ac Aelodau eraill Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru archwilio rhwystrau a chyfleoedd o ran mynediad a chynhwysiant ar gyfer Parciau Cenedlaethol.

 


Cydweithio


Mae’r Awdurdod wedi meithrin diwylliant o gydweithio i gefnogi ei waith cynhwysiant ac allgymorth. Er mwyn cyflawni prosiectau’n effeithiol yn y maes hwn, mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid sydd ag arbenigedd a phwy sydd eisoes â pherthynas â phobl y mae’r prosiectau’n ceisio elwa.  Yn aml, gweithio drwy bartneriaid cyflawni dibynadwy yw’r allwedd i ganlyniadau llwyddiannus o ran meithrin ymddiriedaeth wrth ymgysylltu â phobl nad ydynt yn defnyddio’r Parc ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai sydd ag iechyd corfforol neu feddyliol gwael. Mae hyn i’w weld yn glir gan y prosiect Gwreiddiau at Adferiad lle mae ein partneriaeth â Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn galluogi cyfranogwyr i adeiladu eu hymgysylltiad yn raddol, gan ddechrau gyda sesiynau galw heibio mewn Canolfan Adnoddau Mind lle maent yn defnyddio gwasanaethau eraill iechyd meddwl, ac yn datblygu yn weithgareddau ac ymweliadau diwrnod cyfan wrth iddynt ddod i adnabod ac ymddiried yn staff y prosiect, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr.

Ar hyn o bryd mae’r Awdurdod yn cynnal Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Tirweddau Dynodedig yng Nghymru. Mae ganddynt Gynllun Gweithredu ar Lywodraethu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth. Cenhadaeth y Cynllun Gweithredu yw “Cefnogi, cynghori a gyrru Tirweddau Dynodedig Cymru yn eu blaen yn eu hymrwymiad i ddod yn fwy amrywiol a chynhwysol, gan sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn ‘llinyn aur’ a flaenoriaethir ym mhob un o’r tirweddau dynodedig sy’n sail i’r ddyletswydd gyhoeddus, ac a gefnogir gan fframwaith llywodraethu tryloyw sy’n gwerthfawrogi ac yn amlygu amrywiaeth ein cymunedau.” Mae swyddogion yr Awdurdod wedi bod yn ymgysylltu â’r Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Llywodraethu i lywio ein gweithgareddau cynhwysiant ac allgymorth, gweithgareddau’r gweithlu a datblygu prosiectau yn y dyfodol. Mae’r arweinydd Strategol wedi cefnogi cyflawniad y prosiect partneriaeth Agored i Bawb rhwng yr Awdurdod a Croeso Sir Benfro. Maent hefyd wedi gweithio gyda’r RNIB i ddatblygu a sicrhau cyllid ar gyfer y Prosiect Gweld Cymru’n Wahanol.

 


Adran 5: Trefniadau caffael


Yn 2024/25, mewn ymateb i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, cymeradwyodd yr Awdurdod Strategaeth Gaffael Cyfrifol yn Gymdeithasol a diweddarodd ei Bolisi Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol a Chynaliadwy. Fel rhan o’r gwaith hwn, archwiliodd swyddogion sut y gallai gweithgareddau mewn ymateb i’r ddyletswydd newydd hon hefyd gefnogi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae’r strategaeth yn cynnwys amcanion ar:

  • Gwella arferion Gwaith Teg a chydraddoldeb a fabwysiadir gan gyflenwyr
  • Cynyddu manteision cymunedol a gwerth cymdeithasol a ddarperir gan gyflenwyr

Mae gwybodaeth mewn perthynas â Chydraddoldeb wedi’i chynnwys yn yr holiaduron tendr cyn-ddewis.

 


Adran 6: Gweithgareddau i gefnogi cyflawni Amcanion Cydraddoldeb yr Awdurdod


Roedd gan yr Awdurdod Gynllun a Amcanion Cydraddoldeb ar waith ar gyfer y cyfnod 2020-2024. Adolygwyd y cynllun hwn a’r Amcanion yn 2024/25 gyda chynllun newydd yn cael ei roi ar waith ar gyfer y cyfnod 2025-2029.

Cymeradwyodd yr Aelodau set wedi’i diweddaru o Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Mawrth 2025. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau roi sylwadau ar y cynllun drafft yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Medi, a chynhaliwyd ymgynghoriad â staff a’r cyhoedd hefyd. Datblygwyd dogfen dystiolaeth ategol fel rhan o’r broses adolygu. Cynhyrchwyd fersiwn Hawdd ei Darllen o’r Cynllun Cydraddoldeb.

Lle bo modd, mae camau gweithredu wedi’u prif ffrydio i gynllunio a monitro corfforaethol ehangach i gefnogi cyflawniad ac atebolrwydd.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod newid ystyrlon yn y maes hwn yn cymryd amser ac o ganlyniad mae pob amcan yn dod o dan nod tymor hwy.

Isod rydym yn amlinellu ein cynnydd yn 2024/25 tuag at gyflawni’r Amcanion a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion 2020-2024 ac effeithiolrwydd y gweithgareddau hyn (camau). Bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn ystyried cynnydd yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion newydd 2025 – 2029.

 


Nod Tymor Hir 1: Creu Parc sy’n Dirwedd i Bawb


Amcan Cydraddoldeb 1: Erbyn 2024, bydd ein gwaith o hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan i ymwelwyr yn cynrychioli cynulleidfaoedd mwy amrywiol, a byddwn wedi gwaredu rhai o’r rhwystrau i gael mynediad i’r Parc i’r grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau penodol. Canlyniad hyn yw bod ystod mwy amrywiol o bobl yn elwa ac yn cael profiad o Rinweddau Arbennig y Parc.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Yn 2024/25, cyflwynodd yr Awdurdod brosiectau a gweithgareddau i gefnogi dileu rhwystrau i fynediad i’r Parc, a oedd hefyd yn ystyried yr agwedd hyrwyddo.

 


Prosiect Cyflymydd Agor i Bawb

Prosiect partneriaeth oedd hwn rhwng yr Awdurdod a Croeso Sir Benfro a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU. Gweithiodd y prosiect Agored i Bawb gyda busnesau a sefydliadau i wneud Sir Benfro yn ddewis cyntaf i drigolion ac ymwelwyr sy’n wynebu rhwystrau i deithio a thwristiaeth. Yn ystod 2024/25 cynigiodd y prosiect

  • Amrywiaeth o sesiynau hyfforddi, gan gynnwys ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain, hygyrchedd gwefannau, ymwybyddiaeth o hygyrchedd, ymwybyddiaeth o golled golwg, cymorth cyntaf iechyd meddwl, a hyfforddiant niwroamrywiaeth.
  • Hwyluso digwyddiadau pwrpasol, gan gynnwys diwrnod agored Chwaraeon Dŵr, taith Iaith Arwyddion Prydain o Gaeriw, taith Mobiloo.
  • Cynnal archwiliadau.
  • Datblygu hwb adnoddau

Uchafbwynt Effaith Bositif:Galluogodd cyllid gan brosiect Cyflymydd Agored i Bawb yr Awdurdod i greu amrywiaeth o fideos Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ei Ddiwrnod Archaeoleg. Mae’r fideos hyn ar gael ar sianel YouTube yr Awdurdod. Yn y saith mis cyntaf ers iddynt gael eu huwchlwytho, maent wedi derbyn 386 o ymweliadau.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Hwylusodd y prosiect Daith Mobiloo ar draws safleoedd yn Sir Benfro. Mae Mobiloo yn doiled hygyrch symudol a chyfleuster newid sydd wedi’i gynllunio i alluogi unigolion anabl i gyfranogi mewn digwyddiadau a theithiau gydag urddas ac annibyniaeth. Mae’n cynnwys nodweddion megis codwr, mainc newid maint oedolyn, a thoiled hygyrch. Prif nod taith Mobiloo oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau ac aelodau’r cyhoedd am bwysigrwydd cyfleusterau hygyrch. Cyfarfu tîm Mobiloo â phobl a rannodd eu profiadau a’u heriau wrth ddod o hyd i fannau hygyrch. Dangosodd yr arolwg a gynhaliwyd gan y tîm nad oedd llawer o gyfranogwyr wedi clywed am Mobiloo nac wedi’i weld o’r blaen, a byddai 89% yn fwy tebygol o fynychu digwyddiad pe bai un yn bresennol. Roedd yr adborth yn cynnwys:

“Ni ellir gorbwysleisio’r rhyddid a’r urddas y mae hyn yn ei roi i deuluoedd fel ein hun ni.”

“Mae gweld Mobiloo ar waith yn ysbrydoledig. Mae’n newid y gêm o ran hygyrchedd.”

Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae Black Girls Hike yn darparu lle diogel i fenywod Du archwilio’r awyr agored. Fe’i sefydlwyd yn 2019 i annog menywod o liw i brofi mannau gwyllt yn weithredol a herio’r sefyllfa sydd ohoni. Maent yn cynllunio teithiau cerdded grŵp cenedlaethol, diwrnodau gweithgareddau a hyfforddiant. Cysylltodd y prosiect Agored i Bawb â Black Girls Hike i’w gwahodd i gynllunio taith ger Tyddewi. Gweithiodd trefnydd Black Girls Hike gyda’r Tîm Agored i Bawb a grŵp lleol o’r enw We Move i gynllunio penwythnos cyffrous yn yr Hostel Ieuenctid yn Nhyddewi. Mae’r prosiect We Move wedi’i leoli yn Arberth ac mae’n galluogi pobl ifanc o’r mwyafrif byd-eang i brofi gweithgareddau nad ydynt efallai wedi’u cyrchu o’r blaen, ymuno ag eraill i ddathlu pwy ydynt, a thrafod heriau a rennir. Ar y 5ed o Hydref, arweiniodd Parcmon Gogleddol yr Awdurdod y grŵp ar y cyd ar daith gerdded hardd ond gwyntog o’r hostel lle gwelsant geffylau gwyllt, morloi ac adar. Cysylltodd y grŵp dros gariad cyffredin at natur. Ymunodd ffotograffydd a logwyd gan Agored i Bawb â’r grŵp i dynnu delweddau at ddiben cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn cyfryngau gweledol.

 


Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored

Mae Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored wedi galluogi’r Awdurdod i barhau â’i weithgareddau cerdded â chymorth yn dilyn diwedd prosiect Cerdded er Llesiant Gorllewin Cymru. Roedd 3,015 o gyfranogwyr yn y rhaglen cerdded â chymorth yn 2024/25, o’i gymharu â 3,545 yn 2023/24. Yn ei flwyddyn gyntaf mae wedi sefydlu grwpiau cerdded newydd, tra bod rhai presennol wedi cael eu hailfywiogi. Mae ffocws wedi bod ar ehangu mynediad, ymgysylltu ag unigolion sydd yn aml wedi’u datgysylltu oddi wrth wasanaethau eraill ac yn wynebu rhwystrau lluosog i gyfranogiad. Mae gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth arwain y teithiau cerdded hyn.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Yn dilyn ymweliad y Black Girls Hike â Thyddewi ym mis Medi 2024 drwy’r prosiect Agored i bawb, mae teithiau cerdded Mwyafrif Byd-eang newydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar, ac yn cael eu harwain gan y gymuned, a byddant yn ehangu wrth i ymddiriedaeth dyfu. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Balchder Sir Benfro i ddatblygu cynnig cerdded tebyg ar gyfer y gymuned LHDT+.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Sefydlwyd teithiau cerdded wythnosol Rhiant a Babi. Mae’r teithiau cerdded wedi creu cymuned i rieni newydd i’w helpu gyda mynd allan a threchu ynysu. Dywedodd un tad: “Mae’r teithiau cerdded hyn wir yn eich helpu i fynd allan o’r tŷ; gall fod mor hawdd teimlo’n ynysig ac yn sownd y tu mewn drwy’r dydd. Mae’r teithiau cerdded hyn yn wych.” Dywedodd mam arall: “Mae’r teithiau cerdded hyn wedi helpu yn fawr iawn gyda fy iechyd meddwl ar ôl cael y babi.”

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cynhelir teithiau cerdded hygyrch dan arweiniad staff yn wythnosol mewn lleoliadau cylchdroi o amgylch y Parc. Llwyddodd cyfranogwr ar y daith gerdded hygyrch i fwynhau taith gerdded gyda’i ŵyr, gyda chefnogaeth tîm Ewch i’r Awyr Agored. Cyflwynodd y tîm nhw i Gludiant Cymunedol Draig Werdd PACTO, gan adfer annibyniaeth yr oeddent yn credu oedd wedi’i cholli. Fe wnaethant rannu eu bod “yn teimlo’n fel pawb arall am y tro cyntaf ers 5 mlynedd.”

Mae Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored hefyd yn cydlynu cynnig cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd yr Awdurdod. Cefnogir ein darpariaeth offer symudedd gan westeion lleol fel caffis, clybiau syrffio a hosteli. Roedd 427 o archebion ar gyfer cadeiriau olwyn ac offer symudedd traeth, yn 2024/25 o’i gymharu â 399 yn 2023/24, cynnydd o 7%. Mynychodd y tîm nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r gwasanaeth yn ystod 2024/25 gan gynnwys sesiynau a drefnwyd fel rhan o’r prosiect Agored i Bawb. Mae gwesteiwyr newydd ar gyfer 2025 yn cynnwys Bluestone sy’n cynnal ac yn cefnogi cynnal a chadw ein triciau symudedd mynydd sydd heb eu defnyddio’n ddigonol o’r blaen ac yn gweithredu fel lleoliad ar gyfer teithiau cerdded hygyrch yn y dyfodol.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cefnogodd offer symudedd sesiynau traeth wedi’u haddasu gyda Tonic Surf a Blue Horizons ar gyfer 47 o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol a oedd yn ymweld o Loegr.

 


Gwreiddiau i Adferiad

Parhaodd y prosiect partneriaeth Gwreiddiau i Adferiad gyda Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, yn 2024/25. Gan fabwysiadu dull partneriaeth, mae’r prosiect hwn yn cefnogi iechyd meddwl pobl leol trwy amrywiaeth o brofiadau awyr agored mewn lleoliadau yn y Parc a’r cyffiniau. Mae Gwreiddiau i Adferiad yn brosiect sy’n canolbwyntio ar bobl felly mae cyfranogwyr yn awgrymu ac yn dewis y gweithgareddau yr hoffent eu gwneud. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys teithiau cerdded hamddenol, gemau traeth, gwaith cadwraeth ymarferol, garddio neu archwilio’r Parc Cenedlaethol. Mae nifer y cyfranogwyr bob amser yn uchel, ac mae nifer dda o bobl yn mynychu’r gweithgareddau. Mae pob sesiwn wedi’i chynllunio i gyflawni’r pum ffordd i lesiant.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cyfranogwyr yn adrodd bod eu hwyliau a’u hiechyd meddwl yn gwella oherwydd cysylltiad ag eraill, gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn prosiectau lleol. Mae’r rhaglen ddiddorol wedi’i chynllunio i ganiatáu i gyfranogwyr feithrin eu hyder a’u sgiliau gyda chyfranogwyr yn dod yn Fentoriaid Gwirfoddol. Cipiwyd yr effaith ar gyfranogwyr yn y fideo YouTube Gwreiddiau i Adferiad canlynol: https://www.youtube.com/watch?v=sRYpDj130wk&t=19

 


Cyfleusterau

Cyfrannodd yr Awdurdod £110k i Gyngor Sir Penfro ar gyfer toiledau cyhoeddus fel rhan o flwyddyn 1 o gytundeb 2 flynedd. Comisiynodd hefyd asesiad o nifer o’i feysydd parcio. Roedd hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd ar gyfer safleoedd ar y rhestr fer sy’n gysylltiedig â chynhwysiant a hygyrchedd o ran rampiau, arwyddion, ymgorffori mannau newid i bobl anabl a rhentu cadeiriau olwyn ar y traeth. Mae ffocws presennol yr Awdurdod ar brosiect parhaus yn Nhraeth Mawr.

 


Comisiwn Ffotograffiaeth a Ffilmio

Cwblhawyd comisiynau ffotograffiaeth a ffilmio ym mhob un o’r tri atyniad ymwelwyr. Mae banc newydd o ddelweddau a ffilmiau amrywiol ar gael i’w defnyddio, yn arddangos yr hyn sydd ar gael i ymwelwyr ac yn cynrychioli amrywiaeth y cynulleidfaoedd. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu defnyddio ar draws cyhoeddiadau, adnoddau marchnata a gwefan yr Awdurdod, gan gynnwys yn y cyhoeddiad O Lan i Lan 2025.

 


Rhwystrau Trafnidiaeth

Yn ystod 2024/25, datblygodd Swyddogion gais am Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i lwybr carbon isel yn Ne-ddwyrain Sir Benfro. Mae’n cynnwys edrych ar sut y gellid ariannu hyn. Roedd y cynnig yn llwyddiannus a bydd yn ymchwilio i rwystrau a datrysiadau trafnidiaeth i gael mynediad at waith yn Ninbych-y-pysgod. Gallai’r astudiaeth hon helpu i ddatblygu datrysiadau sy’n dileu rhwystrau trafnidiaeth i bobl sy’n gysylltiedig â chael mynediad at waith yn Sir Benfro, gan gynnwys pobl ifanc.

Mae’r Awdurdod yn parhau i gefnogi pobl i gael mynediad at ei brosiectau a’i weithgareddau drwy ddarparu minibws yr Awdurdod. Yn ystod y flwyddyn, aliniodd ei flaenoriaethau sero net a chydraddoldeb yr Awdurdod drwy ddarparu minibws trydan hygyrch newydd.

Parhaodd yr Awdurdod i ymwneud â’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar gyfer De-orllewin Cymru y mae ei gylch gwaith yn cynnwys gweithio ar lefel ranbarthol i wella cynllunio a chydlynu rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth. Mae’r Rheolwr Polisi Strategol wedi ymgysylltu â datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025-2030 drafft. Yn ystod 2024/25 cynhaliodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar y cynllun drafft, gan roi cyfle i bobl ddweud eu dweud ar ddyfodol rhwydweithiau trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.

Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cyllid i Wasanaethau Bysiau Arfordirol drwy bartneriaeth Greenways. Dychwelodd dau wasanaeth bws poblogaidd ar gyfer 2024/25, y Pâl Gwibio gyda 8,899 o deithwyr a’r Gwibiwr Strwmbl gyda 5,884 o deithwyr.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Parhaodd camau gweithredu’r Awdurdod yn ystod 2024/25 i helpu i chwalu rhwystrau i gael mynediad at y Parc ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hyn yn cynnwys datblygu adnoddau a fydd yn cefnogi hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd mwy amrywiol. Mae ein dull wedi’i dargedu at ddileu rhwystrau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n ymarferol o ran maint a chylch gwaith yr Awdurdod, yn ogystal â gweithio ar y cyd ag eraill i ddylanwadu ar faterion strategol fel trafnidiaeth.

Mae dulliau cydweithredol yn helpu’r Awdurdod i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a dylunio prosiectau sy’n ystyried barn y rhai y maent yn ceisio eu helpu. Er bod y prosiect Agored i Bawb wedi dod i ben, mae staff yr Awdurdod yn adeiladu ar y dulliau ac yn dysgu o’r prosiect hwn i lywio ein dulliau ymgysylltu, cynhwysiant a thwristiaeth adfywiol.

Mae’n bwysig bod yr Awdurdod yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn i ddileu rhwystrau, ac o ganlyniad mae gwaith yn y maes hwn wedi’i gario ymlaen yn ein Cynllun Cydraddoldeb diwygiedig 2025-2029.

 


Amcan Cydraddoldeb 2: Erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod yr atebion a ddatblygwyd i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r heriau a glustnodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynhwysol ac yn cymryd i ystyriaeth yr Asesiad o Effaith y Cynllun ar Gydraddoldeb.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Rhestr Wirio Prosiect

Gwnaeth yr Awdurdod gynnydd mewnol cyfyngedig ar ddatblygu rhestr wirio prosiectau yn 2024/25 gan fod y ffocws ar ddiweddaru canllawiau asesu integredig ehangach a’r ddogfen sbarduno. Fodd bynnag, datblygwyd a chyhoeddwyd y prosiect Agored i Bawb ar ei hwb adnoddau ar-lein

  • Canllawiau a thempledi i gefnogi sefydliadau yn y Parc ac yn Sir Benfro i ddatblygu Datganiadau/Canllawiau Mynediad. Mae Datganiadau Mynediad yn darparu gwybodaeth fanwl a chywir am hygyrchedd lleoliad neu fusnes o ran yr amgylchedd ffisegol a’r gwasanaethau.
  • Rhestr wirio ar gyfer cynllunio a chyflwyno digwyddiadau cynhwysol a hygyrch. Mae copi o’r rhestr wirio hon ar gael nawr ar fewnrwyd staff yr Awdurdod.

 


Ymgysylltu fel rhan o ddatblygu Prosiect

Fel rhan o’n hadolygiad o brosiect Gwreiddiau i Adferiad a ddarparwyd gan Mind Sir Benfro a’r Awdurdod, siaradodd tîm y prosiect â chynrychiolwyr o’r ‘gymuned gofalwyr’ yn Sir Benfro. Clywsant gan sawl grŵp, ac roedd yn amlwg, i rai, fod y cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored yn cynnig y potensial am amser seibiant mawr ei angen a hwb i lesiant. Gan adeiladu ar y bartneriaeth â Mind Sir Benfro a’u menter Plant a Phobl Ifanc, clywsant yn uniongyrchol gan bobl ifanc a oedd wedi elwa o dreulio amser yn yr awyr agored fel rhan o’r rhaglen Gwreiddiau i Adferiad er budd iechyd meddwl a lles. Ym mis Awst 2024, cysylltodd y prosiect ag Gweithredu dros Blant, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc rhwng 8 a 25 oed yn Sir Benfro. Mae’r elusen yn rhedeg grwpiau yn ogystal â chefnogi unigolion a theuluoedd yn y Sir. Helpodd y gwaith gydag Gweithredu dros Blant i lywio datblygiad cais gyda Mind am gyllid Cymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y Prosiect Llwybrau i Ddarganfod.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Ers Hydref 2024, rydym wedi cyflwyno 5 sesiwn awyr agored gyda grwpiau gofalwyr ifanc yn Sir Benfro. Roeddem yn gallu gweithio gyda’r grŵp gofalwyr ifanc 11 i 16 oed (sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Picton yn Hwlffordd) ar dair achlysur. Gan ganolbwyntio ar brofiadau a allai ddigwydd yn y ganolfan a’r cyffiniau, cymerodd y grŵp ran mewn gweithgaredd crefft y goedwig, buont yn greadigol gyda rhywfaint o ‘gelf amgylcheddol’ ac ymunodd mewn barbeciw grŵp yn Fortunes Frolic, lleoliad o fewn pellter cerdded i fan cyfarfod y grŵp. Fel yr eglurodd rhai o’r bobl ifanc i ni, ‘nid oes amser iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau bob amser ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben’, ac felly roedd defnyddio’r amser a neilltuwyd i fynychu grŵp ieuenctid gofalwyr ifanc Gweithredu dros Blant yn galluogi’r rhan fwyaf o’r grŵp i ymuno. Treuliodd ein tîm amser hefyd gyda dau grŵp o ofalwyr ifanc oedran ysgol gynradd. Yn yr un modd, roedden ni’n gallu darparu profiadau, yn agos at y lleoedd lle’r oedd y grwpiau eisoes yn cynnal cyfarfodydd – gan alluogi mwy o blant i gymryd rhan.

Mae cynllun Ewch i’r Awyr Agored wedi bod yn datblygu a gwella ein cynnig archebu offer symudedd a archebu cerdded â chymorth trwy weithgareddau ymgysylltu. Helpodd Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i ddylunio ein gwefan archebu offer symudedd awyr agored newydd i sicrhau ei bod mor hygyrch â phosibl. Fel rhan o ddatblygu cynigion cerdded â chymorth newydd, ymgysylltodd staff â Mosg Hwlffordd i drafod ffurfio grŵp cerdded mwyafrif byd-eang newydd. Fe wnaethant hefyd gynnal arolwg ar-lein ar gyfer rhieni newydd, gan dderbyn bron i 100 o ymatebion a ddangosodd gefnogaeth i sefydlu grwpiau cerdded â chymorth ar gyfer rhieni newydd a babanod.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Datblygodd y prosiect Agored i Bawb adnoddau y gellir eu defnyddio gan yr Awdurdod a sefydliadau sy’n gweithio ar draws y Parc ehangach i sicrhau bod eu lleoliadau a’u digwyddiadau yn hygyrch ac yn gynhwysol. Gall yr Awdurdod adeiladu ar y gwaith hwn wrth edrych i ddatblygu ei restrau gwirio prosiectau ei hun.

Wrth ddatblygu prosiectau fel Llwybrau i Ddarganfod a Ewch i’r Awyr Agored, mae’r Awdurdod wedi dangos sut mae’n mabwysiadu dull sy’n cael ei arwain gan bobl, gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys buddiolwyr wrth ddylunio prosiectau ac atebion.

 


Nod Tymor Hir 2: Bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn gynhwysol yn ddiofyn a bod ein prosiectau yn cyfrannu at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.


Amcan Cydraddoldeb 3: Erbyn 2024, bydd gennym staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi a mecanweithiau ar waith i sicrhau ein bod yn dylunio, caffael ac yn cyflawni gwasanaethau hygyrch a chynhwysol.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Hyfforddiant ac Ymsefydlu

Cafodd gwaith ar ddiweddaru’r cyfnod ymsefydlu a datblygu cynllun hyfforddi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr ei effeithio yn 2024/25 gan yr angen i Adnoddau Dynol ganolbwyntio eu gwaith ar yr Adolygiad Cyflog a Graddio.

Mae hyfforddiant Cydraddoldeb ar-lein drwy ELMS yn orfodol i staff, ac mae’n ofynnol i staff newydd ei gwblhau fel rhan o’r broses ymsefydlu.

Llwyddodd staff a’r sector twristiaeth ehangach i elwa o ystod o hyfforddiant a ddarparwyd drwy’r prosiect Agored i Bawb, gan gynnwys: Ymwybyddiaeth o’r Byddar ac Iaith Arwyddion Prydain, hygyrchedd gwefannau, ymwybyddiaeth o hygyrchedd, ymwybyddiaeth o golled golwg, cymorth cyntaf iechyd meddwl, a hyfforddiant niwroamrywiaeth.

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i wirfoddolwyr ym mis Ebrill gyda 6 o fynychwyr.

 


Systemau Digidol a Hygyrchedd

Yn ystod y flwyddyn, datblygodd Swyddogion Ffurflen Gais Prosiect TG/System newydd. Mae’r ffurflen hon yn cynnwys adran ar Gydraddoldeb a Hygyrchedd. Mae’n gofyn i swyddogion ystyried a oes unrhyw ystyriaethau cydymffurfio ar gyfer eu prosiect o ran hygyrchedd gwe ac ap neu addasiadau rhesymol (Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 a Deddf Cydraddoldeb 2010). Os oes, gofynnir iddynt amlinellu sut maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â chydymffurfiaeth yn y maes hwn drwy’r prosiect.

Parhaodd swyddogion â’r broses o leihau nifer y dogfennau PDF ar y wefan, gan gynnwys cyhoeddi mwy o ddogfennau corfforaethol a dogfennau sy’n gysylltiedig â pholisi ar ffurf HTML. Datblygodd y Gwasanaethau Democrataidd ganllawiau i staff hefyd ar sut i greu PDFau hygyrch ar gyfer staff sy’n creu adroddiadau ar gyfer Pwyllgorau.

Gweithiodd y swyddog Iechyd a Llesiant gyda Phobl yn Gyntaf Sir Benfro i adolygu’r broses archebu ar-lein ar gyfer ein cadeiriau olwyn traeth a’n hoffer symudedd.

 


Caffael

Yn 2024/25, mewn ymateb i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, cymeradwyodd yr Awdurdod Strategaeth Gaffael Cyfrifol yn Gymdeithasol a diweddarodd ei Bolisi Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol a Chynaliadwy. Fel rhan o’r gwaith hwn, archwiliodd swyddogion sut y gallai gweithgareddau mewn ymateb i’r ddyletswydd newydd hon hefyd gefnogi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r strategaeth yn cynnwys amcanion ar:

  • Gwella arferion Gwaith Teg a chydraddoldeb a gaiff eu mabwysiadu gan gyflenwyr
  • Cynyddu manteision cymunedol a gwerth cymdeithasol a gaiff eu darparu gan gyflenwyr

Mae’r Awdurdod yn ceisio achrediad Cyflog Byw ac, fel rhan o hyn, bydd angen iddo roi cynllun ar waith i dalu’r cyflog byw go iawn i gontractwyr yr Awdurdod.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Er mwyn darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch, mae angen y wybodaeth, yr ymwybyddiaeth, y sgiliau a’r offer priodol ar staff a gwirfoddolwyr. Mae hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol ar waith; fodd bynnag, mae angen gwaith pellach i archwilio darparu hyfforddiant ychwanegol wrth i gynllun hyfforddi ehangach yr Awdurdod gael ei ddatblygu.

Mae’r Awdurdod wedi dechrau creu prosesau i gefnogi datblygiad gwasanaethau hygyrch o ran gwasanaethau digidol, a thrwy gysylltu gweithgareddau cydraddoldeb â chamau gweithredu ehangach ar Ddyletswydd Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith i ymgorffori’r gweithgareddau hyn a sicrhau bod yr holl staff ar draws yr Awdurdod yn ymwybodol o’r gofynion perthnasol ac yn ymgysylltu â nhw.

 


Amcan Cydraddoldeb 4: Erbyn 2024, byddwn wedi datblygu a chyflawni prosiectau a chynlluniau sydd â budd cadarnhaol i’r rhai sy’n wynebu anghydraddoldeb, yn enwedig plant a theuluoedd ifainc o ardaloedd difreintiedig.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Canolfannau – Twristiaeth Adfywiol

Yn ystod y flwyddyn, datblygwyd gweledigaeth a set o egwyddorion Twristiaeth Adfywiol gan y Tîm Twristiaeth Adfywiol. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddor:

  • Cysylltiad: Bydd cynulleidfaoedd amrywiol yn teimlo fel petai ganddynt gysylltiad â’r Parc Cenedlaethol am fod y parc yn blaenoriaethu buddion a llesiant pawb.

Cynhaliwyd Archwiliadau Cyfeillgar i Ddementia yng Nghastell Henllys, Caeriw ac Oriel y Parc yn 2024/25.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Ym mis Hydref 2024, fe wnaeth y prosiect Open to All gynnig taith dywys o Castell Caeriw, lle roedd tywysydd arbenigol ynghyd â dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain. Roedd y daith yn agored i bawb, gyda chyfle i gyfranogi am ddim, i gael dehongli Iaith Arwyddion Prydain, a chael cyfle i ddarparu adborth am y profiad. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn aelodau o’r Clwb Sign and Share ac yn cyfathrebu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Dywedodd un cyfranogwr, ‘Fe wnes i fwynhau cael bod ar daith dywys yn hytrach na chwilio o gwmpas drosof i fy hun, ac fe wnaeth hyn ddod â’r castell yn fyw i mi!’ Dywedodd y tywysydd teithiau wrthym fel yr oeddent wedi dysgu i ystyried eu geirfa’n ofalus ac adolygu rhai geiriau neu dermau penodol ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gallai’r dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain eu cyfathrebu’n effeithiol yn ystod y daith. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd lleoli eu hunain mewn mannau penodol er mwyn i atal golau’r haul rhag rhwystro golygfa’r cyfranogwyr o’r dehonglydd.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cynhaliodd Oriel y Parc arddangosfa Heddwch fesul Darn gan Value Independence ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2024. Arddangosfa gelf ar y cyd oedd hi, gan unigolion ag anableddau dysgu a’u gofalwyr, sy’n cael cysur mewn celf fel tystiolaeth o bŵer trawsnewidiol creadigrwydd.

 


Prosiectau

Ynghyd â’r prosiect Gwreiddiau i Adferiad a grybwyllwyd yn flaenorol, y prosiect Ewch i’r Awyr Agored ac Agored i Bawb, darparodd yr Awdurdod amrywiaeth o brosiectau eraill hefyd.

Mae’r 1000 diwrnod cyntaf wedi parhau i ddarparu cyfleoedd i blant blynyddoedd cynnar/cyn-ysgol ymgysylltu â’r awyr agored. Cynhaliwyd sesiynau yn 2024/25 yn Ysgol Gynradd Fenton, Hwlffordd gyda phlant o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn yr ysgol yn ymuno â rhieni a phlant yn y sesiynau a ddarparwyd. Roedd 772 o gyfranogwyr yn ein rhaglen blynyddoedd cynnar yn 2024/25, mae hyn yn is na 2,498 o gyfranogwyr yn 2023/24. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu bod nifer sylweddol is o bobl a ddaeth i Ddiwrnod Chwarae Llys y Fran yn 2024/25 o’i gymharu â 2023/24, yn hytrach na sesiynau 1000 diwrnod cyntaf ehangach.

Parhaodd Llwybrau i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli â chymorth cadwraeth a mynediad ymarferol. Gan gynnwys gosod ffensys, plannu gwrychoedd, gosod gwrychoedd a chlirio prysgwydd. Roedd 1,145 o gyfranogwyr ar draws ein sesiynau gwirfoddoli â chymorth yn 2024/25, mae hyn yn cymharu â 904 yn 2023/24.

Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cyfleoedd ymgysylltu i bobl ifanc trwy weithgareddau Cenhedlaeth Nesaf, gan gyfuno gweithgareddau ymgysylltu’r Pwyllgor Ieuenctid â gweithgareddau mwy ymarferol trwy Geidwaid Ieuenctid. Roedd y gwaith ymarferol yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau troed ym Mherllan Sain Ffraid, ochr yn ochr â chynnal archwiliad mynediad. Maent hefyd wedi bod yn rhan o brosiect plannu coed yng Ngogledd Sir Benfro. Mae cyfranogwyr Cenhedlaeth Nesaf hefyd wedi cefnogi gwaith ymgysylltu cynhwysiant ehangach yr Awdurdod ac wedi mynychu digwyddiad Balchder Sir Benfro a gynhaliwyd ar y Comin ym Mhenfro ym mis Gorffennaf. Mae’r Awdurdod hefyd wedi bod yn cydweithio â Thirweddau Cymru a Thirweddau Dynodedig eraill ar weithgareddau ymgysylltu ar y cyd yn y dyfodol â phobl ifanc.

Uchafbwynt Effaith Bositif:Llwyddodd yr Awdurdod, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Archaeoleg Llundain a Gwaith yn yr Arfaeth, i gael cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i gyflwyno prosiect ymgysylltu gyda phobl ifanc sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth sydd mewn perygl oherwydd newid hinsawdd. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2025 a bydd yn dod i ben ym mis Mehefin 2025. Mae cyfranogwyr Gwaith yn yr Arfaeth, sydd rhwng 16 a 20 oed, yn dysgu am effaith newid hinsawdd ar henebion ar draws ardal y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Sant Ffraid, Tyddewi, Angle a Bae Porth Mawr. Archwilir y thema o golled a’r technegau a ddefnyddir gan archaeolegwyr i liniaru newid hinsawdd. O ganlyniad i’r prosiect, mae’r cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r mater. Gobeithir y bydd y cynnwys a grëir yn atseinio â grŵp sydd yn aml yn cael ei tanwasanaethu a’i tangynrychioli mewn archaeoleg. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn eu helpu i’w grymuso yn eu datblygiad yn y dyfodol. Cefnogir y cyfranogwyr gan staff Gwaith yn yr Arfaeth, Amgueddfa Archaeoleg Llundain ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 


Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn canolbwyntio ar gefnogi gweithgareddau datgarboneiddio cymunedol. Yn aml, gall gweithgareddau datgarboneiddio a gefnogir gael buddion cadarnhaol ehangach i’r grwpiau, fel helpu i leihau costau ynni.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cefnogodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy Cilrath Acre i osod toiled compost. Helpodd y prosiect hwn i fynd i’r afael â diffyg cyfleusterau toiled, hygyrchedd cyfyngedig a achoswyd gan hyn a’r effaith ar gysur gwirfoddolwyr ar y safle tyfu cymunedol. Mae gosod toiled compost hygyrch Natsol wedi cefnogi cadw gwirfoddolwyr a chynhwysiant eu cynnig gwirfoddol. Gwella cysur, hylendid a hygyrchedd wrth atgyfnerthu seilwaith cynaliadwy’r safle yn unol ag egwyddorion yr economi gylchol. Adborth Gwirfoddolwyr: “Mae cael ein ‘tŷ bach arbennig’ ar y safle wedi arbed amser ac egni gwerthfawr i mi… Mae hefyd yn dda gwybod bod gwastraff dynol yn dod yn faetholyn o fewn ein system gylchol o baramaethu.”
“Doedd neb yn fwy balch o weld y toiled compost na fi.” (Sylw gan ŵr sy’n gwirfoddoli ac sydd â chyflwr prostad ac yn mynegi pa mor bwysig yw cael cyfleusterau cyfagos.)

 


Gwerthusiad

Mae’r Awdurdod yn parhau i ymgysylltu â chyfranogwyr ac asesu effaith ei brosiectau. Nid oedd gan y Prosiect Agored i Bawb werthuswr allanol, ond cynhaliwyd gwerthusiad mewnol a’i gofnodi mewn adroddiad terfynol y prosiectau. Fel rhan o werthuso’r prosiect Gwreiddiau i Adferiad, mae’r tîm wedi treulio amser yn cynnal ymgynghoriadau ac yn gweithio gyda grwpiau newydd i weld sut y gallai gofalwyr, derbynwyr gofal a phobl ifanc elwa o’r dull Gwreiddiau i Adferiad o ran lles a’r awyr agored. Cynhaliwyd ymarferion gwerthuso gan Dîm Prosiect Llwybrau, a oedd yn cynnwys dull cymysg o arolygon a chyfweliadau wyneb yn wyneb. Bydd dysgu o adborth yn llywio datblygiad y prosiect yn y dyfodol. Cynhaliwyd Arolwg Cyfranogwyr Ymgysylltu a Chynhwysiant ar ddiwedd 2024/25, a bydd yn rhoi rhagor o fewnwelediad i brofiadau cyfranogwyr a gwirfoddolwyr o ymgysylltu â’r Awdurdod. Mae angen gwaith pellach i sicrhau bod canlyniadau gwerthuso ac arolygon yn dylanwadu ar ddulliau prosiect ac ar ddulliau corfforaethol ehangach, y tu hwnt i ddatblygiad prosiectau unigol o fewn tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Mae’r Awdurdod wedi parhau i ddatblygu a chyflawni prosiectau a chynlluniau sydd â manteision cadarnhaol i’r rhai sy’n wynebu anghydraddoldebau. Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod y prosiectau hyn yn tueddu i gael eu hariannu’n allanol, ac o ganlyniad mae angen iddo barhau i sicrhau cyllid i gynnal portffolio o brosiectau. Mae ei ddull o ymgysylltu wrth ddatblygu prosiectau a mabwysiadu dull partneriaeth a chydweithredol wedi profi’n llwyddiannus. Dangosir hyn gan y ffaith bod cyllid allanol wedi’i sicrhau’n llwyddiannus ar gyfer y Prosiect Llwybrau i Ddarganfod.

Mae cyfleoedd pellach i ddatblygu prosiectau mewn partneriaeth ag eraill fel y dangosir gan Tirweddau Cymru yn gweithio gydag RNIB ar y prosiect tair blynedd ‘Gweler Cymru’n Wahanol (Hiraeth)’ sy’n anelu at gefnogi Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i fod yn gwbl hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.

 


Nod Tymor Hir 3: Bod ein gweithlu yn amrywiol, ein bod yn gyflogwr o ddewis a bod y staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth mewn amgylchedd gwaith sy’n gynhwysol ac yn deg.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Polisi Recriwtio

Diweddarodd yr Awdurdod ei bolisi recriwtio yn 2024/25. Mae’r polisi’n ystyried arfer gorau ar gydraddoldeb a recriwtio mewn meysydd fel llunio rhestr fer, cyfweliadau a chyfansoddiad panelau. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ym mis Medi i reolwyr sy’n ymwneud â’r broses recriwtio.

Mae’r Awdurdod wedi’i achredu fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae unrhyw ymgeiswyr sy’n nodi bod ganddynt anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu rhoi ar restr fer yn awtomatig os ydynt yn bodloni’r meini prawf hanfodol. Rhaid i swyddogion ddefnyddio matrics llunio rhestr fer sy’n gweithredu i atgoffa staff i nodi ymgeiswyr y dylid eu cyfweld o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Mae templed safonol Hysbyseb Swydd wedi’i ddiweddaru ac ar gael drwy fewnrwyd y staff. Dylai gefnogi cynnwys datganiad cydraddoldeb perthnasol a chyfeiriad at y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ym mhob hysbyseb swydd.

Mae Adnoddau Dynol hefyd yn parhau i adolygu lle mae’n hysbysebu swyddi, er mwyn sicrhau cyrhaeddiad cryf i’w hysbysebion recriwtio.

Gallai gweithgareddau ehangach i ddatblygu delweddau ac adnoddau ar gyfer cyhoeddi a’r wefan sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd mwy amrywiol hefyd helpu i annog mwy o bobl i uniaethu â’r Parc a gwaith yr Awdurdod. Mae hyn yn ychwanegol at yr Awdurdod yn gwneud cysylltiadau trwy weithgareddau Ymgysylltu a Chynhwysiant ac wrth weithio gyda’r Ymgynghorydd Strategol Tirweddau Cymru.

 


Llwybrau i Gyflogaeth

Mae’r Awdurdod wedi parhau i ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol i dynnu sylw at gyfleoedd gyrfa o fewn yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys trafod cyfleoedd swyddi gyda myfyrwyr a’r cymwysterau lefel mynediad a allai fod yn ddefnyddiol o ran dyheadau gyrfa i weithio i’r Awdurdod mewn ystod eang o swyddi. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau gyrfa yn Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Caer Elen, Ysgol Preseli, Ysgol Harri Tudur a Choleg Sir Benfro, ac mae uwch reolwyr wedi mynychu’r digwyddiadau.

Cyfarfu Arweinwyr Tîm a rheolwyr â staff Coleg Sir Benfro i gael cipolwg ar rolau addas ar gyfer lleoliadau gwaith a’r ffactorau cyfyngol. Cynhaliwyd lleoliad gwaith llwyddiannus am wythnos gyda Rheolaeth Cefn Gwlad a myfyriwr o Goleg Sir Benfro.

Bu swyddogion AD yn cysylltu’n fewnol ac â Phrifysgol Abertawe i nodi cyfleoedd a ffrydiau gwaith posibl ar gyfer lleoliadau myfyrwyr. Gwnaeth myfyriwr hanes israddedig o Brifysgol Abertawe leoliad gwaith yn gweithio gydag Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod. Roeddent yn rhan o’r gwaith o helpu i gatalogio deunydd a adferwyd yn flaenorol o gloddiadau Castell Caeriw.

Cefnogodd yr Awdurdod Swyddog i gymryd rhan yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn rhaglen a gynlluniwyd i gyfarparu pobl ifanc yng Nghymru â sgiliau arweinyddiaeth, gan eu helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu cymunedau a’u gweithleoedd. Mae’n cynnig cymysgedd o hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ganolbwyntio ar feddwl hirdymor, cyfrifoldeb cymdeithasol, a newid cynaliadwy. Mae cyfranogwyr, 18-30 oed, yn cael mentora, datblygiad arweinyddiaeth, a’r cyfle i greu cynlluniau newid effeithiol o fewn eu sefydliadau.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Gweithiodd swyddogion ar Gais Cronfa Rhwydweithiau Natur llwyddiannus yn 2024/25, a fydd yn creu dwy hyfforddeiaeth â thâl am flwyddyn a rôl Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol i helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y sector a chefnogi gyrfaoedd gwyrdd yn y dyfodol. Yn gysylltiedig â hyn, bydd hefyd yn cefnogi swydd Swyddog Adnoddau o fewn Gwasanaethau Pobl. Rhan o’r rôl hon fydd ymgysylltu â Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgolion i archwilio rhaglenni hyfforddeiaeth a phrentisiaeth.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cysylltodd yr athro sy’n cydlynu gwobr Dug Caeredin yn ysgol Portfield â’r Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant. Yn gofyn a allem ddarparu tasgau gwirfoddoli addas i 5 o bobl ifanc eu cwblhau yn ystod eu preswylfa wythnos o hyd ar gyfer eu gwobr Aur. Roedd y grŵp yn aros yng nghanolfan yr Urdd ym Mhentre Ifan sy’n ffinio â choetir yr Awdurdod gan ddarparu digon o gyfleoedd i weithio. Dyfeisiodd y swyddog raglen amrywiol a oedd yn addas ar gyfer lefel gallu’r bobl ifanc ac ymwelodd â rhai safleoedd hanesyddol lleol. Gweithiodd y 5 person ifanc a 3 aelod o staff ar y canlynol yn ystod yr wythnos ym mis Mawrth 2025:

Gwelliannau i lwybrau troed yng nghoed Pentre Ifan.

Glanhau mwsogl a thwf o’r platfform trochi pwll

Plannu 10 coeden perllan

Casglu sbwriel o dwyni a draeth Poppit

Gosod matiau tomwellt o amgylch coed a blannwyd fel rhan o gynllun Gwarchod yr Arfordir

Cynnal a chadw gwrych wedi’i blannu ym Mhentre Ifan

Ymwelasant â Chromlech Pentre Ifan a mynwent eglwys Nanhyfer gyda’r Parcmyn.

 


Data Recriwtio a Gweithlu

Mae’r Awdurdod wedi parhau i gynnal monitro cydraddoldeb yn seiliedig ar recriwtio a’r gweithlu ac adrodd arno drwy’r Atodiad yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol hwn. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwaith pellach i fynd i’r afael â bylchau data. Bydd hyn yn bwysig os ydym am allu dangos tystiolaeth bod ymyriadau wedi cael effaith gadarnhaol ar gynyddu amrywiaeth o fewn proffil gweithlu’r Awdurdod.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Mae’r Awdurdod wedi ystyried sut y gall ei brosesau recriwtio gefnogi cynnydd mewn ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr 40 oed ac iau, gan gynyddu o 21% yn 2019/20 i 37% yn 2024/25. Cymerodd yr Awdurdod ran yng Nghynllun Kickstart ac roedd wedi datblygu rolau hyfforddeion mewn Cynllunio ac AD. Fodd bynnag, mae angen gwaith ehangach i edrych ar lwybrau i gyfleoedd cyflogaeth trwy ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth. Mae’r cais llwyddiannus i Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhoi cyfle newydd i’r Awdurdod ddarparu hyfforddiant â thâl ac i ariannu swyddog adnoddau a fydd yn gallu cefnogi’r Awdurdod ymhellach i ddatblygu gweithgareddau yn y maes hwn.

Mae angen gwaith pellach i gynyddu adrodd gan staff ar ddata monitro cydraddoldeb er mwyn galluogi’r Awdurdod i ddangos yr effaith gadarnhaol y gwahanol ymyriadau y mae’n eu cynnal.

 


Amcan Cydraddoldeb 6: Erbyn 2024, byddwn drwy fentrau llesiant, hyfforddiant a pholisïau cysylltiedig yn darparu gweithle sy’n gefnogol ac yn gynhwysol.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Adolygiad Polisi a Hyfforddiant Rheolwyr Llinell

Yn ystod 2024/25, adolygodd yr Awdurdod ei Bolisi Absenoldeb Salwch Hirdymor a chynhaliodd AD sesiwn hyfforddi i reolwyr llinell ar y polisi. Mae gan yr Awdurdod ddarpariaeth Iechyd Galwedigaethol allanol ar waith y gellir ei defnyddio i gefnogi staff i ddychwelyd ac aros yn y gwaith.

Adolygodd ac yna datblygodd yr Awdurdod bolisïau newydd lle bo angen, fel rhan o gyfres o bolisïau Addas i Deuluoedd, gan gynnwys:

  • Polisi Absenoldeb Mamolaeth
  • Polisi Absenoldeb Tadolaeth
  • Polisi Absenoldeb Mabwysiadu
  • Polisi Absenoldeb Gofalwyr
  • Polisi Profedigaeth Rhieni
  • Polisi Profedigaeth

Adolygodd yr Awdurdod ei Bolisi Gweithio Hyblyg, sy’n cefnogi arferion gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith.

Mae AD yn bwriadu cyflwyno sesiynau AD i reolwyr nad ydynt yn rhan o AD yn 2025/26.

 


Cyfleoedd Gwirfoddoli i Staff

Mae gan staff hawl i un diwrnod y flwyddyn o amser â thâl i ymuno â gweithgaredd gwirfoddoli. Gweithiodd y tîm gwirfoddolwyr i ddatblygu sesiynau wedi’u targedu i annog staff i fanteisio ar y cynnig hwn, gan gynnwys plannu coed yng Nghasblaidd, sesiwn yng Nghastell Henllys, a diwrnod gwirfoddoli cyhoeddus yn Dwyrain Freshwater.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Mae’r Awdurdod wedi bod yn adolygu polisïau i helpu i ddarparu gweithle cefnogol a chynhwysol. Mae rheolwyr llinell yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol ac mae angen cefnogaeth arnynt i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni hyn. Dechreuodd AD ddarparu sesiynau hyfforddi sy’n targedu rheolwyr llinell a fydd yn parhau i 2025/26.

 


Amcan Cydraddoldeb 7: Erbyn 2024, byddwn yn lleihau’r bwlch cyflog yn yr Awdurdod rhwng y rhywiau, gan ganolbwyntio’n benodol ar brofiadau’r staff yn ein Chwartel Isaf (ar Gyflogau Isaf).


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Adolygiad Cyflog a Graddio

Cynhaliodd yr Awdurdod Adolygiad Cyflog a Graddio yn 2024/25. Cynhaliwyd dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel rhan o hyn, a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu hadrodd yn 2025/26. Yn dilyn canlyniad yr adolygiad hwn, bydd yr Awdurdod yn gweithredu cynllun gweithredu ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau os oes angen.

 


Contractau Gweithio Hyblyg

Yn flaenorol, llofnododd yr Awdurdod yr Addewid hwn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Mae gan yr Awdurdod bolisi gweithio hyblyg ar waith ac yn 2024/25 adolygodd a datblygodd ymhellach gyfres o bolisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd.

 


Achrediad Cyflog Byw

Mae’r Awdurdod yn gweithio tuag at Achrediad Cyflog Byw.

 


Data Hyfforddi

Mae’r Awdurdod wedi cynnwys data sy’n gysylltiedig â hyfforddiant am y tro cyntaf yn Atodiad 1. Fodd bynnag, mae angen gwaith pellach i edrych ar sut rydym yn casglu’r data hwn, pa hyfforddiant y mae’n ymwneud ag ef a beth mae’n ei ddangos. Mae hwn yn faes i’w archwilio ymhellach. Wrth i’r Awdurdod adolygu ei broses adolygu perfformiad flynyddol ehangach a datblygu rhaglen hyfforddi gysylltiedig, bydd angen iddo sicrhau mynediad teg at gyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau.

 


Datganiad Effeithiolrwydd


Mae proffil y gweithlu yn ôl gradd ar gyfer 2024/25 yn dangos bod lefelau uwch o fenywod yn y ddau begwn, o fewn graddau 11 ac uwch a’r graddau isaf lefel 4–6. Fodd bynnag, bydd camau gweithredu ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dibynnu ar ganlyniad y dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gynhaliwyd fel rhan o’r adolygiad cyflog a graddio.
Mae gan y Cynllun Cydraddoldeb amcan diwygiedig fel a ganlyn: erbyn 2029, byddwn wedi adolygu canlyniad yr adolygiad cyflog a graddio a’i ddadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac wedi datblygu a gweithredu cynllun gweithredu mewn ymateb os oes angen.

 


Nod Tymor Hir 4: Bod ystod amrywiol o bobl yn gallu dylanwadu ar waith yr Awdurdod ac ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar ardal y Parc


Amcan Cydraddoldeb 8: Erbyn 2024, byddwn yn creu cyfleoedd i’r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein llywodraethiant a’n strwythurau ehangach i’w galluogi i ddylanwadu ar benderfyniadau am y Parc ac am waith yr Awdurdod. Byddwn yn gwella sgiliau llywodraethu cydraddoldeb Aelodau.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Cynyddu Cynrychiolaeth ym Mhrosesau Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Mae aelodau’n chwarae rhan ganolog wrth arwain gwaith yr Awdurdod a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arno. Parhaodd yr Awdurdod, mewn partneriaeth â Chynghorydd Strategol Tirweddau Cymru, i ymgysylltu â rhaglenni a chynlluniau cymorth i gynyddu cynrychiolaeth mewn gwleidyddiaeth leol ac ym mhrosesau Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Cymerodd yr Awdurdod ran mewn cynllun mentora ar gyfer byrddau amrywiol yn ystod haf 2024.

 


Hyfforddiant i Aelodau

Derbyniodd yr aelodau hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Trefnodd yr Awdurdod Seminar Aelodau Cymru 2024/25 a oedd yn canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol i Bawb. Rhoddodd hyn gyfle i Aelodau’r Awdurdod ac Aelodau eraill o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru archwilio rhwystrau a chyfleoedd o ran mynediad a chynhwysiant ar gyfer Parciau Cenedlaethol.

 


Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb

Yn ystod y flwyddyn, datblygodd staff adnoddau ymhellach i gefnogi’r broses asesu integredig ac asesu effaith ar gydraddoldeb. Roedd hyn yn cynnwys creu dogfen sbarduno i helpu i nodi a oedd angen asesiad llawn, diweddaru canllawiau a thempled asesu integredig a thempled Papur Pwyllgor. Mae Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol ac effeithiau ar iechyd hefyd wedi’u hymgorffori yn y broses asesu integredig.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Mae’r Awdurdod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynyddu amrywiaeth o fewn ein strwythur llywodraethu. Yn ystod 2025/26 bydd Aelodau newydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu dewis, a bydd gwerthuso’r broses hon yn helpu i asesu a yw cydweithio wedi bod yn llwyddiannus yn y maes hwn.

Mae’r Awdurdod wedi parhau i ddatblygu ei ddull o asesiadau integredig a’r wybodaeth a ddarperir i Aelodau. Bydd swyddogion yn edrych ar adolygu prosesau wedi’u diweddaru i weld a ellir gwneud gwelliannau pellach.

 


Amcan Cydraddoldeb 9: Erbyn 2024, bydd gennym fecanweithiau ar waith i alluogi ystod eang o grwpiau a phobl gymryd rhan mewn sgwrs barhaus am y Parc Cenedlaethol.


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan


Pwyllgor Ieuenctid

Parhaodd yr Awdurdod i gefnogi’r Pwyllgor Ieuenctid, gyda chofnodion cyfarfodydd wedi’u darparu i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r Pwyllgor Ieuenctid wedi bod yn rhan o adolygu Maniffesto Ieuenctid ac wedi rhoi adborth i’r Cynllun Partneriaeth. Mynychodd dau o aelodau’r grwpiau ddigwyddiad ymgysylltu llais ieuenctid yn Neuadd y Dref, Penfro, gyda’r nod o rannu gwybodaeth am Genhedlaeth Nesaf APCAP gyda phobl ifanc eraill a oedd yn bresennol. Ym mis Awst, cynhaliodd y grŵp ddigwyddiad ym Mherllan Sain Ffraid ar gyfer grwpiau ieuenctid lleol fel rhan o Ddiwrnod Dathlu Ieuenctid Rhyngwladol. Canolbwyntiodd y diwrnod ar rannu gwybodaeth am y Genhedlaeth Nesaf a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc. Mynychodd tua 17 o bobl ifanc i gyd. Mae heriau’n parhau o ran rheoli newidiadau naturiol yn yr aelodaeth oherwydd bod pobl ifanc yn gadael am resymau addysg a chyflogaeth.

 


Fforwm Gwirfoddolwyr

Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu fforwm gwirfoddolwyr a diweddariadau cylchlythyr misol i wirfoddolwyr. Cynhaliwyd digwyddiad dathlu gwirfoddolwyr yng Nghastell Caeriw.

 


Fforwm Cynllun Partneriaeth

Thema allweddol a ddaeth i’r amlwg o’r ymgysylltu wrth baratoi Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol 2025–2029 oedd y dylid sefydlu “partneriaeth Cynllun” yn gynnar yng nghylch y Cynllun. Disgwylir y bydd cynrychiolwyr y Genhedlaeth Nesaf o’r Awdurdod yn eistedd ar y bartneriaeth hon ar ôl iddi gael ei sefydlu.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Mae’r Awdurdod wedi datblygu mecanweithiau drwy’r Pwyllgor Ieuenctid a’r Fforwm Gwirfoddolwyr i bobl gymryd rhan mewn sgwrs barhaus am y Parc. Mae hyn wedi’i gryfhau gyda’r cynnig i ffurfio Fforwm Cynllun Partneriaeth. Mae cynnal momentwm ac aelodaeth y grwpiau yn debygol o barhau i fod yn her, a bydd angen i’r Awdurdod barhau i fod yn hyblyg ac yn addasol yn ei ddull i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 


Atodiad 1 –Data Recriwtio a Chydraddoldeb y Gweithlu ac Ymateb i Ddadansoddi


Nodyn ar y Data: I alinio ag adroddiadau ffynhonnell ddata agored blynyddoedd blaenorol Llywodraeth Cymru, trwy’r tablau canlynol, mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 10 agosaf ac mae’r ffigurau o dan 5 wedi’u hatal ac yn cael eu dynodi gan *. Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu a lle mae’r ffigurau’n is na 5 y ganran gyfatebol wedi’u hatal a’u dynodi gan *. Efallai na fydd cyfanswm yn swm oherwydd talgrynnu. Mae talgrynnu fel hyn hefyd yn helpu i gadw staff ac ymgeiswyr am swyddi’n ddienw. Mae hyn yn golygu na fydd newidiadau bach mewn amrywiaeth gweithlu neu recriwtio neu gategorïau sydd â niferoedd isel yn cael eu adnabod o fewn data a gynrychiolir isod. Mae data’r gweithlu yn seiliedig ar nifer y bobl o’r dyfyniad diwedd mis ar 31 Mawrth 2025, o ganlyniad ni fydd rhai gweithwyr tymhorol yn cael eu dal yn y ffigurau.

Hysbysebwyd 44 o swyddi gwag yn 2024/25, o’i gymharu â 59 yn 2023/24. Daw’r data ynghylch ymgeiswyr am swyddi o system ceisiadau am swyddi ar-lein.

Nifer y Ceisiadau am Swydd yn Gyffredinol

2022/23 2023/24 2024/25
460 340 380

 

Daw Data’r Gweithlu o System Rheoli Pobl yr Awdurdod. Ar ddiwedd 2024/25, cwblhawyd 70.24% o wybodaeth monitro cydraddoldeb ar system rheoli pobl yr Awdurdod; roedd hyn yn debyg i 70.31% ar y system ar ddiwedd 2023/24. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod islaw’r targed o 75%, ac roedd 78.6% o wybodaeth monitro cydraddoldeb yn cael ei chadw ar system rheoli pobl flaenorol yr Awdurdod. Effeithiodd y symud i’r system newydd yn 2021/22 ar lefel y data a ddelir. Mae lefelau is o ddata yn effeithio ar gywirdeb y data a ddefnyddir ar gyfer asesu cynrychiolaeth y gweithlu. Oherwydd y gostyngiad yn y data monitro a ddelir, dylid cymryd gofal wrth wneud unrhyw gymhariaethau neu ddadansoddiadau rhwng blynyddoedd o ddata’r gweithlu. Gall staff gael mynediad at eu data monitro cydraddoldeb, ei adolygu a’i gwblhau’n uniongyrchol ar y system.

Nifer y Gweithwyr

2021/22 2022/23 2024/25
140 160 170

 

Oedran

Mae’r data wedi’u talgrynnu ar gyfer 2024/25 yn dangos bod 29% o ymgeiswyr am swyddi o dan 30 oed; mae hyn yn ostyngiad o’i gymharu â 36% yn 2023/24. Bu newid bach iawn yn nifer yr ymgeiswyr am swyddi rhwng 30 a 49 oed, sef 43% yn 2024/25 o’i gymharu â 42% yn 2023/24. Yn yr un modd, nid oes unrhyw newid wedi bod yn nifer yr ymgeiswyr am swyddi rhwng 50 a 64 oed, gan aros ar 24%. Fodd bynnag, bu cynnydd o 3% o ran ceisiadau am swyddi dros 65 oed.

Ymgeiswyr am Swyddi: Oedran

Oedran 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
16-24 24% (80) 13% (50)   9%
25-29 12% (40) 16% (60) 5%
30-34 12% (40) 13% (50) 5%
35-39 9% (30)   8% (30) 5%
40-44 12% (40) 11% (40) 5%
45-49 9% (30) 11% (40) 6%
50-54 9% (30) 8% (30) 7%
55-59 9% (30) 11% (40) 8%
60-64 6% (20) 5% (20) 7%
65+ *
(*)
3% (10) 26%
Gwell gennyf beidio â dweud *
(*)
3% (10) Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
Amherthnasol

 

I weithwyr, yn seiliedig ar y data wedi’u talgrynnu, y cynnydd mwyaf sylweddol fu yn y categori oedran 21–30, gan gynyddu o 11% yn 2023/24 i 16% yn 2024/25. Y gostyngiad mwyaf sylweddol yw yn y categori oedran 51–59, gan ostwng o 26% yn 2023/24 i 21% yn 2024/25. Mae 16% o weithlu’r Awdurdod yn parhau yn y categori 60 oed a throsodd.

Gweithwyr: Oedran

Oedran 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
20 years  and under 5%

(10)

5%

(10)

5%

(10)

4.7%

(16-20)

21-30 11%

(20)

11%

(20)

16%

(30)

10%
31-40 16%
(30)
16%
(30)
16%
(30)
10.3%
41-50 26%
(50)
26%
(50)
27%
(50)
10.8%
51-59 26%
(50)
26%
(50)
21%
(40)
13.6%
60 a throsodd 16%
(30)
16%
(30)
16%
(30)
33.6%

 

Ailbennu Rhywedd

Nid oes unrhyw newid wedi bod yn y data wedi’u talgrynnu yn nifer yr ymgeiswyr am swyddi sy’n nodi eu hunain o dan yr un categori rhwng 2023/24 a 2024/25.

Ymgeiswyr am Swyddi: Ailbennu Rhywedd

Rhywedd Geni 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Yr un peth 98%
(450)
97%
(330)
97%
(370)
93.4%
Nid yr un peth *
(*)
*
(*)
*
(*)
0.3%
Gwell gennyf beidio â dweud *
(*)
3%
(10)
*
(*)
Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
3%
(10)
6.3%

 

Anabledd

Bu gostyngiad yng nghanran yr ymgeiswyr am swyddi sy’n nodi bod ganddynt anabledd o 12% yn 2023/24 i 8% yn 2024/25, gan ddychwelyd i lefel debyg ag yn 2022/23. Bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n dewis peidio ag ateb. Mae’r Awdurdod yn Sefydliad Hyderus o ran Anabledd ac mae’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy Gynllun Cyflogeion Hyderus o ran Anabledd yr Awdurdod.

Ymgeiswyr am Swyddi: Anabledd

Anabledd 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Wedi nodi fel un sydd ag anabledd 7%
(30)
12%
(40)
8%
(30)
22%

(Anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)

Wedi nodi fel un sydd heb anabledd 91%
(420)
85%
(290)
87%
(330)
78%
(Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
Gwell gennyf beidio â dweud 2%
(10)
3%
(10)
5%
(20)
Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
Amherthnasol

 

Oherwydd bylchau data a achosir gan 42% o staff nad ydynt yn datgan statws anabledd, mae angen bod yn ofalus o ran dadansoddi proffil y gweithlu o ran anabledd. Fodd bynnag, mae data 2024/25 wedi’u talgrynnu yn dangos bod 5% o’r gweithlu yn nodi bod ganddynt anabledd, heb newid o 2023/24.

Gweithwyr: Anabledd

Anabledd 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Wedi nodi fel un sydd ag anabledd *
(*)
5%
(10)
5%
(10)
22%
(Anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
Wedi nodi fel un sydd heb anabledd 28%
(50)
55%
(50)
53%
(100)
78%
(Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
Heb ei Ddatgan/ Gwell gennyf beidio â dweud 72%
(130)
40%
(80)
42%
(80)
Amherthnasol

 

Ethnigrwydd

Oherwydd y niferoedd bychain sy’n ymwneud ag Ethnigrwydd Arall, nid yw’r grŵp hwn wedi cael ei ddatgyfuno yn y ddau dabl nesaf. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod yn bwysig ystyried cynrychiolaeth a phrofiadau yn ymwneud â gwahanol ethnigrwydd o fewn y categori Ethnigrwydd Arall.

Nid oes unrhyw newid wedi bod yng nghanran yr ymgeiswyr o gefndiroedd heblaw am gefndiroedd ethnig gwyn rhwng 2023/24 a 2024/25. Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dewis peidio ag ateb, ynghyd â gostyngiad bach yng nghanran yr ymgeiswyr yn y categori Ethnigrwydd Gwyn.

Ymgeiswyr am Swyddi: Ethnigrwydd

Ethnigrwydd 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Gwyn 91%
(420)
97%
(330)
95%
(360)
97.6%
4%
(20)
3%
(10)
3%
(10)
2.3%
Gwell gennyf beidio â dweud 4%
(20)
*
(*)
3%
(10)
Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
Amherthnasol

 

Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran ethnigrwydd a phroffil y gweithlu oherwydd y ganran o’r wybodaeth heb ei datgan; fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y staff sy’n darparu’r wybodaeth hon o’i gymharu â 2023/24.

Gweithwyr: Ethnigrwydd

Ethnigrwydd 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Gwyn 83%
(150)
58%
(110)
64%
(120)
97.6%
Ethnigrwydd Arall *
(*)
*
(*)
*
(*)
2.3%
Gwell gennyf beidio â dweud /Heb ei Ddatgan 17%
(30)
42%
(80)
37%
(70)
Amherthnasol

 

Crefydd neu Gred

Oherwydd y niferoedd bychain sy’n ymwneud â Chrefydd/Cred Arall, nid yw’r grŵp hwn wedi cael ei ddatgyfuno yn y ddau dabl nesaf. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod yn bwysig ystyried cynrychiolaeth a phrofiadau pobl sydd â gwahanol grefyddau a chredoau sy’n dod o dan y categori Crefydd/ Cred Arall.

Bu symudiadau canrannol bach ar draws categorïau: cynnydd o 54% yn 2023/24 i 57% o ran yr ymgeiswyr sy’n nodi nad oes ganddynt Grefydd/Cred; gostyngiad o 29% i 27% yn y nifer sy’n nodi eu hunain fel Cristnogion; a gostyngiad o 6% yn 2023/24 i 5% yn 2024/25 yn y categori Crefydd/Cred Arall.

Ymgeiswyr am Swyddi: Crefydd neu Gred

Crefydd neu Gred 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Dim Crefydd/ Cred 54%
(250)
54%
(190)
57%
(210)
43%
Cristongaeth 26%
(120)
29%
(100)
27%
(100)
48.8%
Crefydd/ Cred Arall 9%
(40)
6%
(20)
5%
(20)
1.6%
Gwell gennyf beidio â dweud 11%
(50)
11%
(40)
11%
(40)
Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
6.6%

 

Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran crefydd neu gred a phroffil y gweithlu oherwydd y ganran o’r wybodaeth heb ei datgan. Lle mae gwybodaeth wedi’i darparu, nid oes unrhyw newid o 2023/24. I’r rhai sydd wedi darparu’r data, mae’r data wedi’u talgrynnu yn dangos bod 32% yn nodi nad oes ganddynt grefydd na chred a 21% yn nodi eu hunain fel Cristnogion.

Gweithwyr: Crefydd neu Gred

Crefydd neu Gred 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Dim Crefydd/ Cred 12%
(20)
32%
(60)
32%
(60)
43%
Cristongaeth 12%
(20)
21%
(40)
21%
(40)
48.8%
Crefydd/ Cred Arall *
(*)
*
(*)
*
(*)
1.6%
Gwell gennyf beidio â dweud /Heb ei Ddatgan 74%
(126)
47%
(90)
47%
(90)
6.6%

 

Rhyw

Yn 2024/25 roedd mwy o ymgeiswyr benywaidd o’i gymharu ag ymgeiswyr gwrywaidd, patrwm tebyg i 2023/24. Fodd bynnag, gostyngodd y gwahaniaeth canrannau o 14% i 8%.

Ymgeiswyr am Swyddi: Rhyw

Rhyw 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Menyw 43%
(200)
57%
(200)
54%
(200)
51.3%
Gwryw 54%
(250)
43%
(150)
46%
(170)
48.7%
Gwell gennyf beidio â dweud *
(*)
*
(*)
*
(*)
Amherthnasol
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
Amherthnasol

 

Ar gyfer gweithwyr, mae’r data crwn yn dangos canran uwch o staff benywaidd o’i gymharu â staff gwrywaidd yn 2024/25, gan ddilyn yr un patrwm â 2023/24.

Gweithwyr: Rhyw

Rhyw 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Menyw 56%
(100)
58%
(100)
58%
(110)
51.3%
Gwryw 44%
(80)
42%
(80)
42%
(80)
48.7%
Gwell gennyf beidio â dweud /Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
Amherthnasol

 

Cyfeiriadedd Rhywiol

Gwelodd yr Awdurdod gynnydd yng nghanran yr ymgeiswyr am swyddi a nododd eu bod yn Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall yn 2024/25 o’i gymharu â 2023/24.

Ymgeiswyr am Swyddi: Cyfeiriadedd Rhywiol

Cyfeiriadedd Rhywiol 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Heterorywiol 83%
(380)
83%
(290)
81%
(300)
89.8%
Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall 6%
(40)
9%
(30)
11%
(40)
2.3%
Gwell gennyf beidio â dweud 6%
(40)
9%
(30)
8%
(30)
N/A
Heb ei Ddatgan *
(*)
*
(*)
*
(*)
7.9%

 

Mae’r % o staff sy’n nodi eu hunain fel Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall wedi aros ar 5% yn 2024/25.

Gweithwyr: Cyfeiriadedd Rhywiol

Cyfeiriadedd Rhywiol 2022/23 2023/24 2024/25 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
Heterorywiol 24%
(40)
47%
(90)
47%
(90)
89.8%
Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall *
(*)
5%
(10)
5%
(10)
2.3%
Gwell gennyf beidio â dweud *
(*)
5%
(10)
5%
(10)
N/A
Heb ei Ddatgan 76%
(130)
42%
(80)
42%
(80)
7.9%

 

Gweithwyr a adawodd ein cyflogaeth yn ystod y flwyddyn/ newidiodd eu swydd

Mae nifer y gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn rhwng 2022/23 a 2024/25. Mae hyn yn cynnwys staff ar gontractau tymor penodol neu dymhorol. Yn y blynyddoedd i ddod byddwn yn dadansoddi’r ffigurau i nodi faint oedd yn gysylltiedig â chontractau tymor penodol a thymhorol yn erbyn contractau parhaol.

Bu cynnydd yn nifer y gweithwyr a newidiodd swydd yn ystod y flwyddyn, o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Bydd y data hwn yn cael ei ddadansoddi’n fewnol gan AD yn erbyn y categorïau monitro cydraddoldeb i nodi a oes angen unrhyw gamau pellach. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r setiau data yn rhy fach ar gyfer adrodd mewn modd ystyrlon pellach ar draws unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig a/neu mae problemau ynghylch adnabod staff.

O ran proffil oedran ar gyfer gadael ein cyflogaeth, y nifer uchaf o weithwyr a adawodd yr Awdurdod oedd y rhai 60 oed a throsodd, sy’n debygol o adlewyrchu patrymau ymddeol. Yr ail grŵp uchaf oedd y rhai 30 oed ac iau. Nid yw hyn wedi effeithio ar broffil gwaith oedran cyffredinol heb unrhyw newidiadau o ran canran y rhai dros 60 a chynnydd bach o ran y rhai o dan 30. Gwelodd yr Awdurdod fwy o Ddynion yn gadael gweithlu’r Awdurdod na Benywod ac efallai bod hyn wedi effeithio ar y gostyngiad mewn Dynion o fewn proffil ehangach y gweithlu.

 

Gweithwyr a adawodd ein cyflogaeth yn ystod y flwyddyn

2022/23 2023/24 2024/25
30 40 50

 

Gweithwyr a newidiodd eu swydd yn ystod y flwyddyn

2022/23 2023/24 2024/25
30 10 20

 

Cwynion Cyflogaeth a Disgyblu

Mae’r setiau data’n rhy fach ar gyfer adrodd gyda risg posib o adnabod unigolion. Bydd y data hwn yn cael ei ddadansoddi’n fewnol gan AD i nodi a oes angen unrhyw gamau pellach.

 

Proffil Gweithlu yn erbyn y Math o Gontract/ Patrwm Gwaith: Rhyw

Mae’r Awdurdod yn cefnogi trefniadau gweithio hyblyg ac mae ganddo gyflogeion sy’n gweithio ystod fawr o batrymau gwaith o ran nifer yr oriau dros ddiwrnodau amrywiol. Mae llawer o staff yn gweithio cynllun oriau hyblyg a gall yr holl staff ofyn am drefniadau gweithio hyblyg megis pythefnosau 9 diwrnod; caiff ceisiadau eu cymeradwyo fel rheol. Mae staff yn symud i mewn ac allan o drefniadau wrth i amgylchiadau newid.

Math o Gontract / Patrwm Gwaith Menyw Menyw Gwryw Gwryw Cyfanswm Cyfanswm
23/24 24/25 23/24 24/25 23/24 24/25
Llawn Amser 50 60 60 20 100 80
Rhan-amser 60 70 20 40 80 110
Parhaol 90 90 80 70 160 170
Dros Dro 20 20 10 10 10 30

 

Proffil y Gweithlu yn erbyn Graddfeydd – Rhyw

Mae’r Awdurdod yn cyflogi pobl mewn ystod eang o swyddi, a nifer ohonynt ag ond un deiliad swydd ac felly nid yw monitro yn ôl ‘swydd’ yn cael ei wneud. Rydym wedi cyfuno Graddau i atal adnabod unigolion. Nid oes unrhyw elfennau tâl sylweddol eraill sy’n daladwy ar ben y cyflog ar y raddfa. Nid yw’r ffigur yn cynnwys staff tymhorol a delir yn ôl taflen amser ac nad ydynt yn gyflogedig. Dim ond data 2024/25 a gyflwynir oherwydd newidiadau yn strwythur y graddau yn dilyn yr adolygiad cyflog a graddio.

Parhaodd llai o gydbwysedd ar lefelau gradd uwch o ran menywod a gwrywod, gyda mwy o fenywod. Gyda gwrywod yn fwy cyffredin yn y categori Gradd 9-10. Mae hyn yn ddiddorol o ran ystyried opsiynau ar gyfer datblygu sgiliau i ddynion o fewn graddau 9-10 i’w cefnogi i gymryd rolau arweinyddiaeth. Yn yr un modd, mae angen ystyried pa ffactorau sy’n arwain at lai o fenywod ar lefel Gradd 9-10. Mae mwy o fenywod yn parhau ar y radd isaf 1-3. Fodd bynnag, mae mwy o fenywod ar lefel gradd 4-6.

Graddfa Menyw Gwryw Cyfanswm
Graddfa 1-3 50 40 90
Graddfa 4-6 30 20 50
Graddfa 7-8 10 10 20
Graddfa 9-10 * 10 10
Graddfa 11  a uwch 10 * 10

 

Yn dilyn yr adolygiad Cyflog a Graddio, cynhaliwyd dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gyda’r canfyddiadau i’w hadrodd yn 2025/26.

 

Hyforddiant

Mae’r data isod yn seiliedig ar bresenoldeb mewn cyrsiau hyfforddi craidd yn ôl nodweddion gwarchodedig. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Awdurdod adrodd y data hwn.

Oedran Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
20 mlynedd a iau 10 10
21-30 30 30
31-40 20 30
41-50 30 50
51-59 20 40
60 a throsodd 30 30

 

Anabledd Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
Wedi nodi fel un sydd ag anabledd 10 10
Wedi nodi fel un sydd heb anabledd 80 100
Heb ei Ddatgan/ Gwell gennyf beidio â dweud 50 80

 

 Ethnigrwydd Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
Gwyn 120 120
Ethnigrwydd Arall * *
Gwell gennyf beidio â dweud/ Heb ei Ddatgan 50 70

 

Crefydd neu Gred Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
Dim Crefydd/ Cred 40 60
Cristongaeth 20 40
Crefydd/ Cred Arall * *
Gwell gennyf beidio â dweud/ Heb ei Ddatgan 70 90

 

Rhyw Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
Menyw 80 110
Gwryw 50 80
Gwell gennyf beidio â dweud/ Heb ei Ddatgan *

 

*

 

 

Cyfeiriadedd Rhywiol Presenoldeb Hyfforddiant
2024/25
Proffil Gwaith 2024/25
Heterorywiol 60 90
Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall * 10
Gwell gennyf beidio â dweud 10 10
Heb ei Ddatgan 60 80

 

Ymateb Dadansoddi

Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Awst 2025 rhwng Pennaeth Gwasanaethau Pobl, Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Llywodraethu a’r Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth i adolygu data 2024/25 a’r mater o categorïau gydag ymateb isel. Mae cynllun gweithredu wedi’i roi ar waith i fynd i’r afael â meysydd pryder gan gynnwys camau gweithredu ar:

  • Lefelau Data Monitro Cydraddoldeb – Gan ddysgu o gyfraddau ymateb gwell ar gyfer data sy’n ymwneud â sgiliau iaith Gymraeg, bydd swyddogion yn archwilio cyhoeddi nodyn atgoffa ffurfiol bob blwyddyn i annog staff i ddarparu, adolygu a diweddaru data. Bydd yn darparu gwybodaeth i fynd i’r afael â rhwystrau i ddarparu gwybodaeth, gan egluro pam mae angen data, beth yw ei ddefnydd, sut mae gwybodaeth yn cael ei diogelu a chanllawiau ar sut y gall staff gael mynediad at eu data ar y system, ei adolygu a’i ddiweddaru.
  • Deall cyfraddau ymateb o ran gwahanol grwpiau oedran ar gyfer gwahanol rolau ac ar gyfer rhyw o ran math o batrwm gwaith – Bydd swyddogion yn cynnal rhywfaint o weithgaredd ymchwiliol manwl gan edrych ar oedran a thueddiadau eraill sy’n gysylltiedig â rolau lefel mynediad a rolau arbenigol. Archwilio gwahaniaethau mewn swyddi gyda chyfaint ymateb uchel ac isel, gan gynnwys ystyried ffactorau fel ble y cawsant eu hysbysebu. Byddant hefyd yn archwilio unrhyw batrymau o ran rhyw a mathau o batrymau gwaith ar gyfer ymgeiswyr am swyddi ar gyfer gwahanol rolau.
  • Annog ymgeiswyr anabl i deimlo’n hyderus i ddewis yr opsiwn Cynllun Hyderus o ran Anabledd – Bydd swyddogion yn archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â chanolfannau gwaith a phrosiect RNIB ar y mater hwn a rhwystrau eraill y mae ymgeiswyr anabl yn eu hwynebu wrth wneud cais.
  • Rhwystr i yrru – Archwilio sut y gellid hyrwyddo cyfleoedd datgarboneiddio sy’n gysylltiedig â rhannu ceir ac opsiynau eraill o ran mecanweithiau i oresgyn rhwystrau trafnidiaeth i gyflogaeth.
  • Addasiadau Rhesymol/Newid swydd – Defnyddio’r broses adolygu Llesiant i amlygu opsiynau addasu rhesymol, cymorth iechyd galwedigaethol a chyfleoedd datblygu’r gweithlu i staff (megis cael profiad rheoli llinell drwy reoli llinell gwirfoddolwyr).
  • Cipio amrywiaeth o swyddi sydd ar gael a meithrin cysylltiadau â gwahanol grwpiau – Ymgysylltu Tirweddau Cymru ar lefel genedlaethol â phrifysgolion a chysylltiadau eraill. Diweddaru gwybodaeth ar ein gwefan (wedi’i chysylltu â’r cynllun cyhoeddi) i wneud ymgeiswyr yn ymwybodol o’n polisi gweithio hyblyg a’n polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd. Adolygu marchnata a sicrhau ein bod yn cipio amrywiaeth o swyddi o ran lluniau a chyfathrebiadau eraill a gynhyrchir o amgylch cyfleoedd swyddi. Adeiladu ar gysylltiadau a wneir trwy waith ymgysylltu a chynhwysiant a chyfleoedd gwirfoddoli i wneud pobl yn ymwybodol o gyfleoedd swyddi sydd ar gael yn yr Awdurdod.
  • Bwlch Cyflog Rhwng y rhywiau – Adolygu canlyniad dadansoddiad y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a datblygu cynllun gweithredu os oes angen (wedi’i gysylltu â chamau gweithredu’r cynllun cydraddoldeb).
  • Sicrhau bod data hyfforddi yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon – Cynnal archwiliad pellach o ran y data hwn ac asesu’r hyn y mae’n ei ddangos a’r opsiynau ar gyfer cysylltu â chynllun hyfforddi ehangach wrth iddo gael ei ddatblygu.