Adroddiad Blynyddol ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol 2024 – 2025

Cyhoeddwyd : 14/01/2026

Adroddiad wedi’i gytuno gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chynrychiolydd UNISON yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.


Cyd-destun


Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yr “Awdurdod”), fel corff cyhoeddus, gynhyrchu adroddiad blynyddol i ddangos y modd y maent wedi cydymffurfio â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Rhaid cyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i’w graffu. Mae Adran 18 o’r Ddeddf yn nodi:

Adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol:.

Rhaid i gorff cyhoeddus baratoi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad o’r hyn y mae wedi’i wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

Rhaid i’r adroddiad gael ei gytuno gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o’i staff, neu gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd ar yr adroddiad.

Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Nid yw’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn darparu templed ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r camau a gymerwyd gydag undebau llafur cydnabyddedig y cyngor i weithredu’r ddyletswydd yn yr Awdurdod.


Cefndir


Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn darparu fframwaith i wella lles pobl Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Bwriedir i’r Ddeddf ategu deddfwriaeth arall, gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod, wrth gyflawni datblygu cynaliadwy, cyn belled ag y bo’n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig, wrth osod eu hamcanion llesiant (yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) a gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny a osodwyd.

Mae Adran 16(2) o’r Ddeddf yn nodi nifer o ofynion penodol sy’n ymwneud â’r Ddyletswydd, y mae’n rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â hwy wrth ‘geisio consensws neu gyfaddawd’. Bwriad y gofynion yw sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn briodol pan fydd corff cyhoeddus yn gosod ei amcanion lles, neu wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae’r Adran yn nodi: er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd, rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill o’i staff yn y broses o osod amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol ):-

(a) ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a’u

(b) cynnwys mewn modd arall gydol y broses drwy:

ddarparu digon o wybodaeth i’w galluogi i ystyried yn iawn yr hyn a gynigir, a

rhoi digon o amser iddynt ystyried yn ddigonol yr hyn a gynigir, ac i ymateb.

Mae’r Llawlyfr Partneriaeth Gymdeithasol yn disgrifio hyn fel y Ffordd Gymreig o Bartneriaeth Gymdeithasol, lle mae partneriaethau cymdeithasol yn creu amgylchedd sy’n annog cyfranogwyr i fod yn agored gyda’i gilydd a chytuno ar drefniadau gwaith sy’n dderbyniol i bob partner mewn ysbryd o gydweithredu a chydweithio.


Partneriaeth Gymdeithasol o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2024/25


Wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2024, aeth y cydweithwyr o Gangen UNISON Sir Benfro, ein Pennaeth Gwasanaethau Pobl, a’n Prif Weithredwr ati i drafod ym mha fodd y byddem yn cydweithio i weithredu’r ddeddfwriaeth.

Rydym yn gyflogwr bach gyda 135 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn, 217 o staff. Mae gennym hanes hir o gydweithio â’n hundebau llafur i hyrwyddo gwaith teg ac ymgysylltu ystyrlon. Rydym yn gweithio i gytuno neu i lwyddo i gael consensws a dealltwriaeth.

Mae gennym Grŵp o Gynrychiolwyr Staff sydd â chynrychiolwyr o bob rhan o’r Awdurdod yn ogystal â’n Cynrychiolydd UNISON lleol; mae ein Pennaeth Gwasanaethau Pobl yn mynychu cyfarfodydd, a’r Pennaeth yw’r ddolen gyswllt â’r bwrdd rheoli. Dyma’r prif Fforwm lle ymgynghorir ar Bolisïau, ac mae gan y staff Agenda agored ar gyfer trafodaeth ac ymgysylltu.

Mae’r Grŵp Cynrychiolwyr Staff yn cyfarfod bob chwe wythnos, a rôl y Grŵp yw:

Bod yn llais cyfunol ar faterion a phryderon y staff.

Gwella dealltwriaeth gyffredin o’r materion a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Awdurdod a’i staff.

Bod yn gyfrwng i fynegi barn ar amrywiaeth o fentrau newydd ac unrhyw newidiadau sylweddol mewn ffocws strategol, mewn polisïau neu mewn ‘ffyrdd o weithio’; a

Bod yn gymorth i greu diwylliant o fod yn agored, a bod yn fforwm syniadau, a gweithgor i greu ‘Lle Gwych i Weithio’ i bawb sy’n gweithio i’r Awdurdod.

Ymhlith y pynciau a drafodwyd yn ystod 2024/25 oedd y canlynol:

Diweddariadau ar yr ymarferiad Cyflogau a Graddfeydd a gweithdrefnau cydlynol ar gyfer Apelio.

Gofynion Hyfforddi a Datblygu.

Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.

Sefydlu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Llesiant y Staff.

Gwelliannau mewn Buddion i’r Staff.

Ymgysylltu ar bynciau i’w codi yng Nghyfarfod yr Holl Staff a gynhaliwyd fis Tachwedd 2024.

Mentrau Gwirfoddoli i’r Staff a digwyddiadau Elusennol.

Ymgysylltu ar bolisïau cyflogaeth a adolygir.

Roedd y Prif Weithredwr, y Pennaeth Gwasanaethau Pobl ynghyd ag aelodau lleol o gangen UNISON wedi mynychu Cynhadledd Partneriaeth Gymdeithasol Gorllewin Cymru yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar y 25ain o Fedi 2024. Roedd y gynhadledd yn gyfle cadarnhaol iawn i ni ddeall bwriad a diben y Ddeddf a’r hyn y mae partneriaeth gymdeithasol yn ei olygu i ni.

Ni adolygwyd ein Hamcanion Llesiant yn 2024-2025, ac ymgysylltwyd â’n partneriaid Undeb Llafur i ddiwygio ein Cynlluniau Cyflawni a’n Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau i sicrhau bod dyheadau’r Bartneriaeth Gymdeithasol wedi’u hymgorffori’n llawn yn ein strategaeth ymgysylltu yn y dyfodol. Roedd ein Prif Weithredwr wedi ymgysylltu â’r Undebau i werthuso’r cynlluniau hyn ar gyfer 2025/26.

Y pwnc oedd angen llawer o reolaeth a chapasiti’r Undebau oedd gweithredu’r Fframwaith Cyflogau a Graddfeydd diwygiedig, sy’n seiliedig ar Gynllun Gwerthuso Swyddi yr NJC, ddechrau mis Ionawr 2024. Roedd hwn yn ddarn mawr o waith oedd yn cymryd llawer o amser. Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth yr Undebau yn cymryd rhan yn yr ymarferiad anodd hwn. Mae ein Cangen UNISON yn hanfodol i lywodraethu a goruchwylio ein rheolaeth barhaus o’n Fframwaith Graddfeydd a’n Gwerthuso Swyddi.

Roedd Iechyd a Llesiant hefyd yn ffocws mawr yn 2024/25, a chreu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Llesiant yw’r sylfaen ar gyfer gwaith pellach yn y maes hwn.

Rydym wedi defnyddio’r deunyddiau a ddarparwyd gan dîm Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru ac wedi cwblhau’r offeryn hunanasesu fel meincnod i fesur ein cynnydd. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r modiwlau hyfforddi, a byddwn eleni yn annog cynrychiolwyr ac aelodau o’n Grŵp Cynrychiolwyr Staff i adolygu’r modiwlau. Rydym yn gweithio i lanlwytho’r e-ddysgu i’n platfform e-ddysgu i gael gwared ar y rhwystr i’n staff gofrestru gyda Dysgu@Cymru.

Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Undebau Llafur ynghylch yr Adroddiad Blynyddol hwn ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ac maent wedi cytuno ar y cynnwys.