Cynllun cyhoeddi, Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i weithredu’n agored ac wedi mabwysiadu’r cynllun cyhoeddi enghreifftiol a ddarperir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Fel arfer, fe fydd y cyhoedd yn gallu archwilio’r wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod, ac eithrio ble mae angen parchu hawliau pobl eraill neu ddiogelu buddiannau cyfreithlon yr Awdurdod.

Fe fydd mynediad agored a thryloyw at wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod yn cyfoethogi enw da’r Awdurdod am atebolrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Wrth gadw at yr ymagwedd hon, mae’r Awdurdod yn cynnal safonau uchel o ran diogelu gwybodaeth bersonol.

Mae’r Awdurdod yn cadw Cynllun Cyhoeddi (fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000) sy’n rhestru’r mathau o wybodaeth sydd ar gael a ble mae modd cael hyd i’r wybodaeth honno.  Ble’n bosib, cyhoeddir gwybodaeth ar-lein ac yn rhad ac am ddim.

Pwy ydym ni a’r hyn yr ydym yn ei wneud.
Gwybodaeth am y sefydliad, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethiant cyfansoddiadol a chyfreithiol.

Beth yr ydym yn ei wario a sut yr ydym yn ei wario.
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a ragwelir ac incwm gwirioneddol a gwariant, tendro, caffael a chontractau.

Beth yw ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn gwneud.
Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.

Sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau.
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau llunio penderfyniadau, meini prawf mewnol a gweithdrefnau, ymgynghoriadau.

Ein polisïau a gweithdrefnau.
Protocolau ysgrifenedig presennol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a chyfrifoldebau.

Rhestrau a chofrestri.
Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestri sy’n ofynnol gan y gyfraith a rhestrau eraill a chofrestri yn ymwneud â swyddogaethau’r awdurdod.

Y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Cyngor a chyfarwyddyd, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg. Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir.