Gallwch wneud rhai mathau o fân-waith adeiladu heb fod angen gofyn am ganiatâd cynllunio – gelwir y math hwn o waith yn ddatblygiad a ganiateir. Gall y rheolau ar ddatblygiad a ganiateir newid o bryd i'w gilydd ac mae bob amser yn syniad da gofyn am gyngor cyn gwneud unrhyw waith o'r fath.
Nid oes gan fflatiau a meisonéts hawliau a ganiateir o’r fath a bydd yr hawliau hyn efallai wedi cael eu tynnu’n ôl o rai tai, yn enwedig tai newydd bach neu dai a gafodd eu creu drwy drosi adeiladau o ddefnyddiau eraill. Yn yr achosion hyn bydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar BOB datblygiad.
Ceisiadau gan Ddeiliaid Tai am Newidiadau ac Estyniadau
Gallwch wneud rhai mân-newidiadau a chodi estyniadau bach ar dai heb ganiatâd.
Yn y Parc Cenedlaethol mae angen caniatâd ar unrhyw newid sy’n effeithio ar linell y to, gan gynnwys ychwanegu ffenestri dormer.
Mân-Waith
Mae rhai mathau o ddatblygiad y gellir eu cyflawni ar unrhyw adeilad neu dir.
Waliau, ffensys a dulliau eraill o gau
- Gallwch godi waliau, ffensys a mathau eraill o amgáu tir er y bydd angen cyd-fynd ag amodau’n ymwneud â’u huchder.
- Bydd angen caniatâd ar gyfer unrhyw waith amgáu, gerllaw ffordd a ddefnyddir gan gerbydau, sy’n uwch nag un fetr yn unrhyw le ar ei hyd.
- Bydd angen caniatâd ar gyfer unrhyw waith amgau arall sy’n uwch na dwy fetr yn unrhyw le ar ei hyd.
- Bydd angen caniatâd ffurfiol ar unrhyw waith amgau o gwmpas adeilad rhestredig.
Creu mynediad
- Ar yr amod nad yw’r mynediad yn cael ei ystyried i fod yn beryglus, nid oes angen caniatâd i greu mynediad allan i ffordd ddi-ddosbarth lle mae angen y mynediad mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad a ganiateir arall.
- Bydd angen caniatâd i greu mynediad allan i gefnffordd neu ffordd ddosbarthiadol.
Peintio y tu allan i adeilad
- Nid oes angen caniatâd i beintio’r tu allan i adeilad oni bai ei fod yn cynnwys hysbyseb, cyhoeddiad neu gyfarwyddyd neu os oes cyfarwyddyd ardal yn gwahardd peintio adeiladau
- Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig i beintio adeilad rhestredig na chafodd ei beintio o’r blaen.
Newid Defnydd
- Fel gyda gwaith adeiladau, ni fydd angen caniatâd cynllunio ar rai mathau o newid defnydd.
- Fel arfer ni fydd angen caniatâd i newid un defnydd i ddefnydd arall sydd yn yr un Dosbarth Defnyddiau. Er enghraifft: gallai siop yn gweithredu fel popty newid i fod yn siop deganau heb fod angen gofyn am ganiatâd.
- Dylid bob amser gofyn am gyngor i weld a ganiateir newid neu beidio.
Dymchwel
- Mae angen caniatâd ffurfiol i ddymchwel mewn rhai amgylchiadau.
- Lle mae’r gwaith dymchwel yn rhan o gais cynllunio i ailddatblygu safle, dylid cynnwys manylion y gwaith dymchwel yn y cais.
Adeiladau Rhestredig
- Mae bob amser angen caniatâd i ddymchwel adeilad rhestredig neu strwythur ynghlwm wrth adeilad rhestredig.
Ardaloedd Cadwraeth
- Mae angen caniatâd i ddymchwel wal sy’n uwch na 2 fetr, ac i ddymchwel unrhyw adeilad sy’n uwch na 115m3.
Camerâu CCTV
- Caniateir codi un camera i bwrpas diogelwch, er bod angen cyd-fynd ag amodau’n ymwneud â maint y camera a’i leoliad. Dylid gofyn am gyngor i gadarnhau bod eich camera’n cyd-fynd â’r amodau hyn.
- Bydd angen caniatâd bob amser i godi camera ar adeilad rhestredig (Caniatâd Adeilad Rhestredig) neu ar heneb gofrestredig (Caniatâd Heneb Gofrestredig gan Cadw).
Gweler canllawiau Llywodraeth Cymru yma.