Wisemans Bridge/Pleasant Valley

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.5 milltir (5.7 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Wisemans Bridge/Saundersfoot/Stepaside 351
CYMERIAD: Arfordir, lonydd, caeau a da byw, dychwelyd trwy’r coetir ar gyfer Neuadd Coppet
CHWILIWCH AM: Llwybr yn dilyn hen reilffordd y pwll glo sydd ddim yn cael ei ddefnyddio bellach i Bwll Glo’r Gelli, Stepaside.

O’r Ail Ryfel Byd i’r Gerddi Coetir, taith wedi’i thrwytho mewn hanes sy’n llawn o bethau i’w gweld.

Defnyddiwyd y traeth yn Wiseman’s Bridge fel man ymarfer ar gyfer glaniadau Normandy yn 1944 o dan lygaid barcut Churchill ei hun.

Mae’r daith goediog i fyny Pleasant Valley sy’n wir yn Ddyffryn Dymunol, yn arwain at olion Gwaith Haearn Cilgeti, a oedd yn prosesu mwynau a gloddiwyd o fannau bach hwnt ac yma ar glogwyni’r môr rhwng Saundersfoot a Llanrhath, a Phwll Glo’r Gelli yn Stepaside.

Mae’r daith yn dilyn llwybr hen reilffordd y gwaith glo sydd ddim yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn (a oedd yn llwybr ar gyfer tram a dynnwyd gan geffyl yn wreiddiol).

Ar un adeg, trawsnewidiwyd y nant ochr yn ochr yn llwyddiannus i mewn i gamlas. Daw enw Wiseman’s Bridge o deulu’r Wyseman a oedd yn berchen ar dipyn bach o dir yn yr ardal ar un adeg.

Chwiliwch am y titw tomos las, y titw mawr, y dryw, cnocell mawr brith y coed a’r asgell fraith yn y coed.

Gerllaw, mae gan Gerddi Coetir Colby un o’r casgliadau gorau o rododendrons ac asaleas yng Nghymru, gyda chlychau’r gog a chennin Pedr yn y gwanwyn, blodau’r enfys yn yr haf a lliwiau gwych yn yr hydref.

Mae’r gerddi’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor o fis Ebrill i fis Tachwedd.

Gwybodaeth gan y BBC.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN145061

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau