Maenorbŷr

Teithiau Byr

Maenorbŷr, COETAN Y BRENIN

PELLTER: 1.3 milltir (2.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349/359, Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd (SS069994)

CYMERIAD: Traeth, arfordir, caeau aganifeiliaid.
MWY O WYBODAETH: Agen ddofn wedi’i chuddio ar bentir Priest’s Nose – Cadwch ar y Llwybrau Cyhoeddus. Dim sticlau. Grisiau, adran serth i lawr y tyle.

Gadewch y maes parcio ar y llwybr troed yn y gornel chwith bellach wrth wynebu’r traeth. Dilynwch y trac graean i’r chwith dros bont garreg fach, yna trowch i’r chwith trwy’r coed.

Dilynwch y llwybr i fyny’r tyle, yna trowch i’r dde arno i’r heol ac wrth yr eglwys parhewch yn syth ymlaen. Trowch i’r dde ar y top (arwydd ‘i Lwybr yr Arfordir’), a dilynwch y llwybr amlwg.

Wrth y postyn marcio’r ffordd, cadwch i’r chwith, gan fynd i fyny’r tyle. Cyn hir, mae’r llwybr yn mynd i lawr llethr serth at Lwybr yr Arfordir.

Trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir, heibio i gromlech Coetan y Brenin, a dilynwch y llwybr i lawr i’r traeth. Croeswch y traeth a throwch i’r dde ar hyd y prif drac i’r maes parcio

Bae Maenorbŷr

PELLTER: 0.9 milltir (1.4 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349/359, Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd (SS069994)
CYMERIAD: Caeau ag anifeiliaid, peth graddiannau. Dim sticlau
MWY O WYBODAETH: Agen ddofn wedi’i chuddio ar bentir Priest’s Nose – Cadwch ar y Llwybrau Cyhoeddus. Dim sticlau. Grisiau, adran serth i lawr y tyle.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio arno i’r heol a’i dilyn i fyny’r tyle. Ar gopa’r tyle, ychydig cyn tˆy o’r enw Atlantic View, trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr trwy fwlch yn y sgrwb. Trowch o’r chwith arno i Lwybr yr Arfordir.

Dilynwch Lwybr yr Arfordir trwy ardd y Dak ac ychydig bach i fyny’r dreif. Trowch i’r dde arno i’r llwybr troed a chyn cyrraedd y man parcio, trowch i’r dde arno i’r llwybr trwy’r sgrwb.

Ar ben pellaf y man parcio, trowch i’r dde arno i’r llwybr a’r marcwyr llwybr i lawr at y traeth. Croeswch y nant dros y bont o’ch blaen a’ throwch i’r chwith i’r maes parcio, ar hyd y prif drac..

Castell Maenorbŷr

PELLTER: 0.8 milltir (1.3 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349/359, Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd (SS069994)
CYMERIAD: Caeau ag anifeiliaid, peth graddiannau. Dim sticlau.
MWY O WYBODAETH: Agen ddofn wedi’i chuddio ar bentir Priest’s Nose – Cadwch ar y Llwybrau Cyhoeddus. Dim sticlau. Grisiau, adran serth i lawr y tyle.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio arno i’r heol, yna trowch i’r dde arno i’r lôn fetel. Dilynwch y lôn, trwy’r giât arno i’r llwybr glaswelltog gan gadw at y dde.

Wrth y fforc, cymerwch y llwybr ar y chwith gan fynd i fyny’r tyle ychydig, yna trwy giât i’r coed. Trowch i’r dde wedi cyrraedd y dreif metel a, chyn y grid gwartheg, trowch i’r dde wrth y mynegbost.

Ewch trwy borth y castell, yna wrth y fforc, cymerwch y llwybr i’r dde gan fynd i lawr y tyle. Dilynwch y llwybr yn ôl i fyny’r tyle trwy’r giatiau a throwch i’r chwith arno i ddreif y castell.

Trowch i’r dde arno i’r heol ac i’r dde eto, nôl i’r maes parcio.

 

Maenorbŷr, Yr Odyn Galch

PELLTER: 0.9 milltir (1.4 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349/359, Gorsaf rheilffordd 1 milltir i’r gogledd (SS069994)
CYMERIAD: Caeau ag anifeiliaid, cerdded ar heolydd bach, gall fod yn fwdlyd mewn mannau. 3 sticil.
MWY O WYBODAETH: Agen ddofn wedi’i chuddio ar bentir Priest’s Nose – Cadwch ar y Llwybrau Cyhoeddus. Dim sticlau. Grisiau, adran serth i lawr y tyle.

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio arno i’r heol, cadwch i’r dde wrth y cyffordd-T (T-junction) ac yna i’r dde eto wrth Westy’r Castle Head Hotel i lawr heol sy’n dod i’w ddiwedd, ac sy’n troi’n drac.

Wrth y fforc, cymerwch y trac ar y chwith ac, ar ôl croesi sticil, trowch i’r chwith i fyny’r tyle. Dilynwch y llwybr i ddechrau, gyda’r ffens ar y chwith, yna ar draws cae, gan anelu am y sticil o
dan y goeden fawr o’ch blaen.

Parhewch yn syth ymlaen ar ôl y sticil, gan anelu am y mynegbost ar gornel y ffin gyda’r tŷ a’r garejys gyferbyn. Wrth y mynegbost, parhewch ar draws cae tuag at giât metel a sticil.

Croeswch y sticil a throwch i’r chwith arno i’r heol. Dilynwch yr heol i lawr i’r pentref, gan droi i’r dde wrth y cyffordd-T (T-junction) wrth ymyl Gwesty’r Castle Head Hotel, yna’n syth yn ôl i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SS059971

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau