Mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Sir Benfro

Cyhoeddwyd : 24/11/2020

Mae mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan, sydd ar gael i’r cyhoedd, wedi’u darparu trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae gwefru cerbydau trydan ‘Cyflym’ bellach ar waith mewn 14 lleoliad gwahanol o gwmpas y sir.

Bydd hyn yn ehangu i 18 lleoliad pan fydd pedwar safle pellach yn cael eu cwblhau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n ddiweddarach eleni.

Mae dau leoliad (Maes Parcio Aml-lawr Dinbych-y-pysgod a Maes Parcio Neuadd y Sir Hwlffordd) yn cynnig gwefru ‘Cyflym’ a ‘Chwim’.

Mae’r lleoliadau gwefru mewn meysydd parcio sydd ar gael nawr fel a ganlyn:

  • Maes parcio aml-lawr, Upper Park Road, Dinbych-y-pysgod, SA70 7LT
  • Towns Moor, Arberth, SA67 7AB
  • Gordon Street, Doc Penfro, SA72 6DW
  • Heol Hir, Trefdraeth, SA42 0TJ
  • Y Wesh, Abergwaun, SA65 9NJ
  • Charles Street, Aberdaugleddau, SA73 2AJ
  • Stryd Fawr, Llandudoch, SA43 3EA
  • Maes parcio aml-lawr, Cartlett Road, Hwlffordd, SA61 2LX
  • Maes parcio Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
  • Maes parcio’r Cwcwll, Tyddewi, SA62 6NT
  • Maes parcio’r Mart, Crymych, SA41 3QE
  • Maes parcio’r Stryd Fawr, Neyland, SA73 1TF
  • Maes parcio’r Parêd, Penfro, SA71 4JY
  • Maes parcio’r Parrog, Wdig, SA64 0DE

Dyma’r lleoliadau gwefru cerbydau trydan ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd ar gael erbyn diwedd 2020:

  • Maes parcio Brewery Meadow (Regency Hall), Saundersfoot, SA69 9ND
  • Maes parcio’r Hoppers, Porthgain, SA62 5BN
  • Maes parcio Millmoor Way, Aberllydan, SA62 3JH
  • Maes parcio Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, SA62 6NW

Pictured with the Council’s Sustainable Development and Energy Manager, Steve Keating (centre) at the electric vehicle charge-point at the Parrog in Goodwick are: Andrew Mackay (left), Construction Project Manager at Silverstone and Andrew Muskett, Building Projects Manager at the Pembrokeshire Coast National Park Authority.

Cafodd y prosiect ei ddylunio a’i gomisiynu gan dîm Seilwaith y Cyngor, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni gan Silverstone Green Energy o Arberth.

Mae’r pyst gwefru’n rhan o rwydwaith www.dragoncharging.co.uk, sef rhwydwaith rhanbarthol sy’n cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol cyfagos yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a, hefyd, ymhellach i ffwrdd ym Mhowys, Blaenau Gwent, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili.

Cyn eu defnyddio am y tro cyntaf, byddai’n ddoeth i ddefnyddwyr posibl ddarllen y wybodaeth am sut i ddefnyddio’r gorsafoedd gwefru. Mae’r wybodaeth hon i’w chael ar Wefan Gwefru Dragon ar www.dragoncharging.co.uk/FAQ

Ar hyn o bryd, cost y gwefru yw 85c bob tro y mae defnyddiwr yn cysylltu, a chodir 25c/kWh am y trydan a ddefnyddir. Mae’r holl refeniw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi a chynnal a chadw’r rhwydwaith.

Fe wnaeth y Cynghorydd Sir, Phil Baker, Aelod y Cabinet dros Seilwaith, ganmol cynnydd y bartneriaeth, yn enwedig yng ngoleuni’r newyddion diweddar na fydd ceir petrol a diesel newydd yn cael eu gwerthu yn y DU ar ôl 2030.

“Ynghyd â helpu preswylwyr ac ymwelwyr i newid i ddyfodol carbon isel, mae’r prosiect yn anelu at fodloni anghenion modurwyr trwy ddarparu mannau gwefru i bobl heb gyfleuster parcio oddi ar y stryd,” meddai.

“Hefyd, mae’r prosiect yn hybu cysyniad ‘eco-dwristiaeth’. Mae’r holl bwyntiau gwefru wedi’u lleoli mewn meysydd parcio canolog fel y gall defnyddwyr ymweld â busnesau ac atyniadau lleol tra byddant yn gwefru’u ceir.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae hyrwyddo cludiant cynaliadwy yn un yn unig o amryw gamau mae Awdurdod y Parc yn eu cymryd i ymateb i argyfwng y newid yn yr hinsawdd.

“Ynghyd â galluogi ymwelwyr a phreswylwyr i wefru’u cerbydau, bydd y pwyntiau gwefru hyn hefyd yn cefnogi ymdrechion yr Awdurdod i droi ei fflyd yn wyrdd a chynnwys cynifer o gerbydau electronig â phosibl.”

Yn y llun gyda Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni’r Cyngor, Steve Keating (canol) wrth y pwynt gwefru cerbydau trydan yn y Parrog yng Ngwdig y mae: Andrew Mackay (chwith), Rheolwr Prosiectau Adeiladu gyda Silverstone, ac Andrew Muskett, Rheolwr Prosiectau Adeiladu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Related links