Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhan o’r rhanbarth cyntaf i ymrwymo i gryfhau’r Gymraeg yn y gwaith
Bydd staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael mwy o gefnogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, ar ôl i’r Awdurdod ddod yn rhan o’r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i ymrwymo ar y cyd i ‘Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith TUC Cymru’.
Cafodd y Siarter ei llofnodi ym Mhabell Pawb yn Eisteddfod y Garreg Las ddydd Mercher 5 Awst gan Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Dr Madeleine Havard, Cadeirydd yr Awdurdod, yn ogystal â Jonathan Lewis, Ysgrifennydd Cangen Sir Benfro UNISON, a Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru.
Roedd y llofnodi’n golygu mai dyma’r ardal gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Siarter Twf ar sail ranbarthol. Mae Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Ceredigion eisoes wedi llofnodi Siarter Twf, felly mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Sir Penfro yn cwblhau rhestr y rhanbarth yn yr Eisteddfod eleni. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau cefnogaeth ymarferol a chyson i’r Gymraeg ar draws gweithleoedd y sector cyhoeddus ledled yr ardal.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r Gymraeg eisoes yn rhan bwysig o waith yr Awdurdod ac o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn falch o adeiladu ar hynny drwy lofnodi Siarter Twf.
“Mae’r Siarter hwn yn rhoi ffordd gadarnhaol ac ymarferol i ni weithio gyda’n hundebau llafur a’n staff i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd gwaith bob dydd. Bydd yn ein helpu i gefnogi’r rhai sydd eisoes yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, annog y rhai sy’n meithrin eu hyder, a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn weladwy, yn cael ei gwerthfawrogi ac yn cael ei chlywed ar draws y sefydliad.
“Fel Awdurdod sy’n gwasanaethu ardal sy’n falch o fod yn ddwyieithog, mae hyn yn ymwneud â datblygu rhywbeth sydd eisoes yn bwysig i ni. Mae Siarter Twf yn rhoi ffordd glir a chydweithredol i ni gadw’r momentwm hwnnw i fynd a chefnogi’r Gymraeg fel rhan naturiol o ddiwylliant yr Awdurdod.“
Mae Siarter Twf, a ddatblygwyd gan TUC Cymru, yn cefnogi gweithwyr, canghennau undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
Cafodd ei chynllunio i gefnogi undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio ar weithredu ei phedair egwyddor graidd. Mae hyn yn cynnwys darparu mwy o gyfleoedd i staff ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, a chefnogaeth i’r rhai sy’n dysgu, a’r rhai sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg wrth weithio.
Mae hefyd yn golygu bod darparu cynrychiolaeth gan undebau llafur yn Gymraeg yn ganlyniad naturiol i gynllunio defnydd teg o’r Gymraeg yn y gwaith.
Tynnwyd sylw at fanteision ymarferol defnyddio’r Gymraeg yn ystod digwyddiad panel yn stondin Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach ar ddiwrnod y llofnodi. Bu siaradwyr o bob rhan o awdurdodau lleol y rhanbarth, Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac undebau llafur yn ystyried sut gall Siarter Twf helpu cyflogwyr ac undebau llafur i weithio gyda’i gilydd i wneud y Gymraeg yn ddewis naturiol, bob dydd yn y gwaith, a pham mae hwn yn gam hanfodol tuag at adeiladu gweithle sy’n wirioneddol gynhwysol.
Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru: “Llongyfarchiadau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Unison Sir Benfro ar ymrwymo i ‘Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith TUC Cymru,’ a’i bedair egwyddor graidd, ac i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu gweithle dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
“Mae gan undebau llafur rôl allweddol wrth sicrhau cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru, ac wrth ddarparu amodau a chyfleoedd teg a chyfartal i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith. Maent yn hyrwyddo ac yn diogelu hawliau Cymraeg gweithwyr yn y gwaith fel mater o degwch, cydraddoldeb a chwarae teg.
“Mae undebau hefyd yn cefnogi aelodau a gweithwyr i ganfod, trefnu a sicrhau mwy o gyfleoedd i bawb ddefnyddio’r Gymraeg fwyfwy yn y gwaith, a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae defnyddio’r Gymraeg yn sgìl gwerthfawr ac ymarferol. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn drysor y gall pob un ohonom ei ddathlu a bod yn falch ohono yn y gwaith, yn ogystal â’n bywydau.”
Mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd ar draws pob sector yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae rhagor o wybodaeth am ‘Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith TUC Cymru’ ar gael yn www.tuc.org.uk/cy/Twf